Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Agor ymgynghoriad i lywio Strategaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad newydd y cyngor

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi agor ymgynghoriad yn ddiweddar i gynorthwyo â’r gwaith o lywio sut mae’r cyngor yn ymwneud â phreswylwyr mewn perthynas ag amrywiaeth o faterion pwysig sy’n effeithio ar gymunedau ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae Strategaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad ddrafft wedi’i datblygu i amlinellu'r camau a fydd yn cael eu cymryd gan y cyngor i roi’r newyddion diweddaraf i breswylwyr ynglŷn â phob gwasanaeth, ac ymgysylltu â nhw cyn gwneud unrhyw benderfyniadau allweddol hefyd.

Nid yn unig y bydd y strategaeth hon yn ceisio gwella dulliau ymgysylltu presennol ond bydd hefyd yn adnabod ffyrdd newydd ac arloesol o ymgysylltu â chynifer â phosibl o bobl.

Ar hyn o bryd, mae'r cyngor yn ymgysylltu â phreswylwyr drwy amrywiaeth o ffyrdd, fel:

  • Gwefan y Cyngor
  • Cyfryngau Cymdeithasol
  • Fy Nghyfrif
  • Ystod amrywiol o fwletinau
  • Ymgynghoriadau/Holiaduron/Sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb
  • Gwasanaethau Cwsmer
  • Ymgysylltu ag aelodau etholedig

Mae gan y cyngor Banel Dinasyddion sy’n cynnwys grŵp o bobl sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a chânt eu hymgynghori’n aml ar wasanaethau wedi’u cynnal gan y cyngor. Gall aelodau’r panel dderbyn hyd at dri holiadur y flwyddyn, yn mynd i’r afael ag ystod o bynciau, gwasanaethau, a materion, yn ogystal â chylchlythyrau rheolaidd er mwyn eu cadw ar flaen yr holl newydd.

Elfen allweddol arall y cynllun yw sicrhau bod yr ymgysylltu yn gynhwysol ar draws poblogaeth amrywiol pob cymuned leol yn yr ardal. Cyflawnir hyn drwy gynnal a gwella partneriaethau gyda grwpiau o randdeiliaid allweddol yn y gymuned.

Rydym yn cydnabod bod ymgysylltiad ystyrlon â phreswylwyr ac amrywiaeth eang o grwpiau o randdeiliaid allweddol yn hollbwysig i fagu perthnasoedd y gellir ymddiried ynddynt gyda’n cymunedau lleol.

Bydd y cynllun newydd hwn yn sicrhau ein bod yn ymgysylltu yn y modd mwyaf strategol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’r cyfraniad a gawn gan randdeiliaid allweddol ar amrywiaeth o bynciau.

Mae Ymgynghori ac Ymgysylltu hefyd yn ffurfio rhan allweddol o’n Cynllun Corfforaethol ‘Cyflawni gyda'n Gilydd' 2023–28 a bydd ymgysylltu’n rheolaidd o fudd er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni a bodloni anghenion cymunedau ym mhob rhan o'r fwrdeistref sirol.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio:

Gall preswylwyr rannu eu safbwyntiau ar y strategaeth newydd ar wefan y cyngor. Noder y cynghorir pob cyfranogwr i ddarllen y strategaeth cyn mynegi eu safbwyntiau.

Chwilio A i Y