Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Agor promenâd newydd a gwaith amddiffyn Porthcawl rhag llifogydd yn swyddogol

Cafodd cynllun gwerth £6.4m a fydd yn helpu i amddiffyn Porthcawl rhag llifogydd ac unrhyw godiad posib yn lefel y môr yn y dyfodol ei agor yn swyddogol yn gynharach yr wythnos hon.

Ariannwyd y gwaith ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o'r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol.

Mae'r arbenigwyr adeiladu, Knights Brown, wedi trawsnewid ardal y promenâd i fod yn ardal hygyrch, gwastad, gyda phlanwyr a gwell amddiffynfeydd llifogydd sy'n cyd-fynd â'r dyluniad cyffredinol rhwng Marina Porthcawl a Thraeth Coney.

Cafodd y promenâd ei agor yn swyddogol gan Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Lee Waters AS ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David.

Roedd y gwaith hefyd yn canolbwyntio ar Forglawdd eiconig y Gorllewin ac roedd angen ymgymryd â gwaith adnewyddu sylweddol er mwyn sicrhau bod modd i’r strwythur 200 blwydd oed allu parhau i wrthsefyll y llanw a thywydd garw'r môr. Defnyddiwyd tua 550 tunnell o rowt yn ystod y gwaith uwchraddio.

Cafodd ail gam y prosiect ei ymestyn i Fae Tywodlyd a chyn belled â Rhych Point, lle cafodd amddiffynfeydd llifogydd a gwaith amddiffyn twyni hefyd eu diweddaru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, “Rydym wedi dioddef o achos llifogydd ac achosion o dywydd difrifol dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi effeithio ar gymunedau ledled Cymru.

“Rydym yn helpu i amddiffyn yr ardaloedd hynny sydd mewn perygl drwy ein Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol, ac roedd yn braf gweld sut fydd cartrefi a busnesau’n elwa o gynllun llifogydd diweddaraf Porthcawl.”

Pleser yw gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y cynllun pwysig hwn, a fydd yn helpu i fod o fudd i’r gymuned leol am genedlaethau i ddod.

Mae'r prosiect yn rhan allweddol o'r seilwaith ar gyfer amddiffyn y dref rhag llifogydd a bydd ansawdd y gwaith adnewyddu’n tawelu meddyliau rhanddeiliaid sy’n parhau i fyw, gweithio a buddsoddi yn yr ardal, yn ogystal ag ymwelwyr.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd:

Chwilio A i Y