Achubwyr bywyd yr RNLI yn dychwelyd i Fae Rest ynghyd â thechnoleg newydd
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 10 Mehefin 2022
Mae achubwyr bywyd yr RNLI bellach wedi dychwelyd i Fae Rest, gan ymuno â Thraeth Coney / Bae Tywodlyd a Bae Trecco sydd eisoes yn cael eu gwarchod yn ddyddiol gan achubwyr bywyd yr elusen rhwng 10am-6pm.
Bydd Bae Rest hefyd yn cael ei gyfarparu gyda’r dechnoleg ddiweddaraf, a fydd yn gymorth i wneud y traeth yn fwy diogel fyth.
Gall ymwelwyr sganio codau QR, a fydd wedyn yn rhoi’r wybodaeth gywir ddiweddaraf ynghylch yr amodau cyfredol.
Mae’r patrolau wedi’u hariannu ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Parkdean Resorts, gyda’r RNLI yn ysgwyddo’r costau ychwanegol drwy eu gweithgareddau codi arian lleol a cenedlaethol.
Y prif gyngor diogelwch dros yr haf yw:
- Ewch i ymweld â thraethau sy’n cael eu gwarchod gan achubwyr bywyd a nofiwch rhwng y baneri coch a melyn
- Os ydych yn mynd i drafferthion, cofiwch Arnofio i Oroesi - gorweddwch ar eich cefn ac ymlaciwch, gan ymatal rhag yr ysfa i symud mewn panig
- Ffoniwch 999 neu 112 mewn argyfwng a gofynnwch am Wylwyr y Glannau
- Cadwch lygad ar eich plant drwy’r amser
- Dylech osgoi nofio ar eich pen eich hun
- Gall ardaloedd arfordirol fod yn amgylchedd anrhagweladwy, a dylech ystyried y gall tymheredd y dŵr barhau’n oer iawn, gan gynyddu’r risg o sioc dŵr oer.
Rydym yn disgwyl i’r haf hwn fod yn hynod brysur i’n criwiau achub bywyd a bad achub gwirfoddol.
Gyda golygfeydd syfrdanol a thraethau arbennig ar ein carreg drws, rydym yn sicr y bydd llawer o bobl yn heidio i’r arfordiroedd, ond rydym eisiau i bobl eu mwynhau yn y modd cywir. Rydym yn annog pawb i barchu’r dŵr, i feddwl am eu diogelwch eu hunain ac i wybod beth i’w wneud mewn argyfwng.
Aelod Cabinet dros Adfywio, y Cynghorydd Neelo Farr