Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

10k Porthcawl yn dychwelyd

Bydd 10K Porthcawl Healthspan, digwyddiad rhedeg mawr a gafodd ei gynnal am y tro cyntaf yn 2019, yn dychwelyd yr haf hwn ar ôl absenoldeb o ddwy flynedd. Mae disgwyl i’r digwyddiad ddenu miloedd o redwyr o ledled y DU.

Bydd y digwyddiad yn dychwelyd i'r dref glan môr ddydd Sul 3 Gorffennaf, gan ddilyn yr un llwybr ffordd gaeedig a gynlluniwyd gan gyfarwyddwr y ras a'r rhedwr marathon Olympaidd dwbl, Steve Brace, a gafodd ei fagu ym Mynydd Cynffig gerllaw.

Bydd cyfranogwyr yn cychwyn ac yn gorffen mewn awyrgylch gŵyl y tu allan i Bafiliwn hanesyddol Porthcawl ar y Promenâd, cyn mwynhau golygfeydd panoramig ar draws Bae Newton, Bae Trecco a Bae Tywodlyd wrth iddynt rasio drwy Barc Gwyliau Bae Trecco a Pharc Pleser Traeth Coney.

Bydd rhedwyr wedyn yn rasio drwy ganol ardal siopa'r dref ar Stryd John, cyn mwynhau rhagor o olygfeydd syfrdanol o'r arfordir wrth i Oleudy enwog Porthcawl ddod i'r golwg er mwyn nodi gorffeniad gwib ar hyd y Promenâd.

Ar ôl dechrau’r ras 10K, bydd nifer o rasys iau yn cael eu cynnal gyda sawl digwyddiad i ddewis o’u plith, gan gynnwys Ras Hwyl dim pwysau, Ras Plant Bach ar gyfer plant sy’n dechrau yn y byd gweithgaredd corfforol am y tro cyntaf a ras Herwyr y Dyfodol ar gyfer athletwyr ifanc talentog a rhedwyr clwb iau.

Yn 2019, cymerodd 4,000 o bobl ran yn y ras, gyda 94 y cant yn dod o Gymru. Cefnogwyd y digwyddiad gyda help 130 o wirfoddolwyr, a alwyd yn 'The Extra Milers' a daeth nifer o grwpiau cymunedol lleol ynghyd, fel y Coleg Paratoi Milwrol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae digwyddiad eleni’n cynnig y cyfle perffaith i arddangos datblygiad Porthcawl ers 2019. Mae’r Ganolfan Chwaraeon Dŵr newydd, gwerth £1.5m, ym Mae Rest, bellach wedi agor yn swyddogol, a bydd rhedwyr sy'n dychwelyd yn mwynhau Bae Trecco ar ei newydd wedd ar ôl buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd.

I ddysgu mwy am y digwyddiad a sut i gymryd rhan, ewch i wefan 10k Healthspan Porthcawl.

Er mwyn hwyluso llwybr diogel ar gyfer cyfranogwyr, bydd rhaid cau rhai ffyrdd. Bydd trefnwyr digwyddiadau'n gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau brys, ac ni fydd y digwyddiad yn effeithio ar eu mynediad at y llwybr.

Mae’r llwybr wedi’i gynllunio i achosi cyn lleied o darfu â phosibl i drigolion a busnesau. Bydd gwyriadau i lwybrau gwasanaethau bysiau, gwiriwch wefan First Cymru a wefan Stagecoach cyn teithio.

Mae map a gwybodaeth am y ffyrdd sy’n cael eu cau ar gael ar wefan 10k Healthspan Porthcawl.

Chwilio A i Y