Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad Strategaeth Creu Lleoedd Canol Tref Porthcawl

Rydym yn chwilio am drigolion a busnesau ym Mhorthcawl i rannu eu barn a’u syniadau ynglŷn â sut all canol y dref ddatblygu, ffynnu a mwynhau dyfodol llewyrchus.

Bydd y safbwyntiau a’r syniadau a gesglir yn cael eu dadansoddi’n ofalus ac yn cael eu defnyddio i ddatblygu Strategaeth Creu Lleoedd Canol y Dref Porthcawl.

Mae’r cyngor wedi ymrwymo i wrando ac ymateb i farn preswylwyr, ac yn awyddus i roi cyfle i bobl leol gyfrannu at wneud penderfyniadau. Rhan allweddol o hyn yw cael adborth ar yr opsiynau posibl a nodwyd yn ystod yr ymgynghoriad creu lleoedd canol y dref.

Dweud eich dweud

I roi eich barn ar y cynigion, gallwch anfon eich sylwadau dros e-bost, mynychu sesiwn galw heibio neu gyflwyno eich syniadau ar-lein.

Dyddiad cau: Dydd Iau 4 Ebrill 2024, 6yh 

 

Sesiwn galw heibio

  • Eglwys y Drindod, John Street, CF36 3DT – Dydd Iau 14eg o Fawrth, 9yb tan 7yh

 

Cyflwyno eich syniadau ar-lein

Mae’r bwrdd syniadau hwn yn rhoi lle i bobl gyflwyno eu prif flaenoriaethau ar gyfer Strategaeth Creu Lleoedd Canol Tref Porthcawl.

Fel arall, anfonwch eich syniadau dros e-bost:

Cyfeiriad: BCBC Regeneration, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Chwilio A i Y