Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cais Adran 19 CPO Porthcawl

GPG Porthcawl – Cais am Dystysgrif o dan Adran 19 Deddf Caffael Tir 1981

Ym mis Hydref 2021, gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr orchymyn prynu gorfodol (“GPG”) er mwyn hwyluso ailddatblygiad defnydd cymysg cynhwysfawr o Lan y Dŵr Porthcawl yn unol â chynllun datblygu lleol mabwysiedig y Cyngor. Y bwriad yw y bydd y datblygiad arfaethedig yn cynnwys datblygiad preswyl, mannau agored, datblygiad manwerthu a masnachol, ysgol newydd (neu ehangu cyfleusterau addysgol presennol), cyfleusterau hamdden a phriffordd newydd.

Mae’r GPG wedi cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru (drwy Benderfyniadau Amgylchedd Cynllunio Cymru) i’w gadarnhau, ac mae ymchwiliad cyhoeddus wedi’i drefnu ar gyfer mis Medi 2023.

Mae rhan o'r tir sydd wedi'i gynnwys yn y GPG yn cynnwys rhan o Draeth Bae Sandy (“y Tir”) sy’n hygyrch i’r cyhoedd at ddibenion hamdden ac, felly, gellid dadlau o bosibl ei fod yn cynnwys man agored o fewn ystyr adran 19 Deddf Caffael Tir 1981 (“Deddf 1981”). Er mwyn osgoi unrhyw ansicrwydd ynghylch y mater hwn, cyflwynodd y Cyngor gais i Weinidogion Cymru am dystysgrif o dan adran 19(1(aa) Deddf 1981, ar y sail bod y Tir yn cael ei gaffael er mwyn sicrhau ei gadw neu i wella ei reolaeth.

Mae’r cais a gyflwynwyd yn egluro’r cefndir a’r rhesymeg dros gyflwyno’r cais yn fanylach, ac yn datgan achos y Cyngor o ran pam dylid dyfarnu tystysgrif. Yn benodol, nodir y bydd y Tir yn parhau i fod yn hygyrch i’r cyhoedd ei ddefnyddio unwaith y bydd y gwaith adeiladu perthnasol sy’n gysylltiedig â’r datblygiad arfaethedig wedi’i wneud, ac y bydd y Tir, ym marn y Cyngor, o safon ansoddol well nag ydyw ar hyn o bryd.

Ym mis Mawrth 2022, hysbyswyd y Cyngor bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi ystyried cais y Cyngor a’i fod yn fodlon bod y Tir yn cael ei brynu at y dibenion y cyfeiriwyd atynt uchod, a gofynnodd i’r Cyngor drefnu i gyhoeddi Hysbysiad o Fwriad  i ddyfarnu tystysgrif o dan adran 19(1)(aa) Deddf 1981. Cyhoeddwyd yr hysbysiad hwn mewn papur newydd lleol ar 15 Mehefin 2023, a gosodwyd copïau o’r hysbysiad yng nghyffiniau’r Tir ar yr un dyddiad. Mae’r hysbysiad yn rhoi cyfnod o 21 diwrnod, sy’n dod i ben ar 7 Gorffennaf 2023, ar gyfer mynegi sylwadau neu wrthwynebiad.

 

Sut i ymateb

Dylid cyflwyno unrhyw sylwadau neu wrthwynebiad yn ysgrifenedig a'u cyfeirio at: Y Gangen Tirweddau Dynodedig a Mynediad i Gefn Gwlad accessandrecreationmynediadahamdden@gov.wales erbyn 7 Gorffennaf 2023, gan ddyfynnu cyfeirnod MA/LW/0492/22.

Gellir gweld copi o’r cais, gan gynnwys cynllun yn adnabod y Tir, drwy’r dolenni ar y dudalen we hon neu yn Llyfrgell Porthcawl, Church Place, Porthcawl CF36 3AG rhwng 9.15am a 6pm dydd Llun, 9.15am a 5pm dydd Mawrth, 9.15am ac 1pm dydd Mercher a 9.15am a 5pm o ddydd Iau i ddydd Sadwrn. Sylwch fod y llyfrgell ar gau dros ginio rhwng 1pm a 2pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac nid yw ar agor ar ddydd Sul.

Chwilio A i Y