Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cofrestru cyfrif treth gyngor

1. Cyn y gallwch gofrestru cyfrif treth gyngor, rhaid i chi fewngofnodi. Ar ôl i chi fewngofnodi, cliciwch ar ‘Gwasanaethau’ a dewis 'Treth Gyngor a Budd-daliadau’ o’r rhestr ac wedyn ‘Cyfrif treth gyngor'. Bydd hyn yn mynd â chi i borthol y dreth gyngor.

2. Gallwch gofresteu eich treth gyngor drwy glicio ar ‘Cofrestru i ddefnyddio gwasanaethau treth gyngor ychwanegol’ neu drwy glicio ar ‘dywedwch wrthym pwy ydych chi’.

3. Dewiswch ‘Person’ ac wedyn nodi eich Rhif Cyfrif Treth Gyngor. Byddwn hwn yn rhif wyth digid sy’n dechrau gyda dau neu dri. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon ar eich bil.

Pan fyddwch yn clicio person bydd yn gofyn am eich enw cyntaf a’ch enw diwethaf. Rhaid i’r rhain gyfateb i’r enw ar y bil. Wedyn cliciwch ar ‘Nesaf’.

4. Atebwch dau o’r cwestiynau diogelwch. Wedyn cliciwch ar ‘Nesaf’.

5. Gwnewch yn siŵr bod eich cyfeiriad e-bost yn gywir.
Os ydych chi eisiau cofrestru ar gyfer e-filio gallwch wneud hynny yma.

Darllen a llofnodi’r telerau a’r amodau a chlicio ar ‘Cytuno’.
Wedyn clicio ar ‘Cyflwyno’.

6. Bydd manylion eich Cyfrif Treth Gyngor yn ymddangos. Byddwch yn gallu gweld eich biliau, sefydlu / diwygio Debyd Uniongyrchol a gwneud taliadau o blith yr opsiynau sydd ar gael.

Os ydych chi eisiau dychwelyd i Fy Nghyfrif cliciwch ar ‘Dychwelyd i Borthol yr ALl’.

Problemau defnyddio Fy Nghyfrif o ganlyniad i faterion hygyrchedd

Os ydych yn cael trafferth defnyddio Fy Nghyfrif o ganlyniad i unrhyw broblemau hygyrchedd, cysylltwch â myaccountsupport@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643643.

Chwilio A i Y