Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwybodaeth am ofal plant i rieni

Crynodeb o'r cynlluniau gofal plant sydd ar gael

Gall plant dan bump oed y mae eu rhieni'n weithwyr allweddol gael gofal plant am ddim tan 31 Awst 2020 drwy Gynllun Cymorth Gofal Plant Coronafeirws (CCAS). Bydd angen i rieni/gofalwyr wneud cais. Efallai y bydd angen iddynt ddarparu tystiolaeth o’u statws gweithiwr allweddol ac nad ydynt yn gallu gweithio gartref. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'n glir na ddylai pob plentyn y gellir gofalu amdano'n ddiogel gartref gael gofal plant drwy'r cynllun hwn.

Bydd y cynllun yn cau i geisiadau newydd ar 12 Gorffennaf 2020. Gwneud cais am ofal plant am ddim drwy CCAS yma.

Mae'r Cynnig Gofal Plant wedi'i atal dros dro o 1 Ebrill 2020 er mwyn sicrhau bod arian ar gael ar gyfer CCAS. Ar 19 Mehefin, nododd diweddariad y Prif Weinidog y gellid ymestyn darpariaeth gofal plant i rieni nad ydynt yn weithwyr allweddol o 22 Mehefin ymlaen. Oherwydd hyn, mae'r Cynnig Gofal Plant wedi ailddechrau yn rhannol ar gyfer plant a gafodd eu cymeradwyo cyn 18 Mawrth ac oedd eisoes yn cael mynediad i'w lleoedd a ariennir cyn y cyfyngiadau symud.

Ni fydd plant a oedd fod i ddechrau o 20 Ebrill 2020 ymlaen yn cael mynediad i'w Cynnig le tan i’r ataliad ddod i ben. Y bwriad yw y bydd yr ataliad yn dod i ben ym mis Medi 2020.

Ni fydd plant dros bum mlwydd oed sy'n cael manteisio ar y CCAS gyda'u brodyr/chwiorydd cyn oed ysgol yn gymwys i barhau â’r cynllun o 17 Gorffennaf 2020 ymlaen.

Pan fydd ysgolion yn gorffen ar 17 Gorffennaf, bydd angen i rieni sydd â phlant dros bump oed sydd angen gofal plant ddefnyddio gofal plant preifat a thalu amdano eu hunain. Dewch o hyd i fanylion am ddarpariaeth gofal plant ar Dewis:

Cysylltwch â Thîm Gofal Plant Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 642649, neu chwiliwch am ddarpariaeth gofal plant cofrestredig ar Dewis:

Rydym yn aros am ragor o ganllawiau gan Lywodraeth Cymru, ond rydym eisiau eich cefnogi i ddod o hyd i atebion hirdymor i'ch anghenion gofal plant.

Gall plant rhwng 0 a 10 mlwydd oed ddefnyddio gwasanaethau gofal gan gynnwys darpariaeth gofleidiol drwy ddarparwyr gofal plant cofrestredig preifat. Efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael os ydych yn gymwys ar gyfer:

  • y Cynnig Gofal Plant (addas ar gyfer plant tair i bedair oed mewn ysgol ran-amser rhieni sy'n gweithio)
  • Dechrau'n Deg (addas ar gyfer plant dwy a thair oed sy'n byw mewn ardaloedd penodol ar gyfer darpariaeth ran-amser)
  • y Cynllun Gofal Plant Di-dreth i bob plentyn

Gallwch benderfynu ar y dewis gorau i chi drwy dudalen gofal plant gwefan CThEM. Os oes gennych ymholiad penodol ynglŷn â gofal plant, mae'r Tîm Gofal Plant yma i helpu.

Cyswllt:

Y Tîm Gofal Plant

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642649

Chwilio A i Y