Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pum ffordd gallwch chi helpu eich fferyllfa chi

  1. Peidiwch ag ymweld â fferyllfa os oes gwres neu beswch newydd arnoch chi neu ar rywun rydych chi’n byw gyda nhw.
  2. Archebwch eich presgripsiynau chi saith diwrnod cyn i chi eu hangen nhw er mwyn rhoi amser i’r fferyllfa helpu pawb.
  3. Rhowch rif eich ffôn chi ar eich presgripsiwn chi:
    • bydd y fferyllfa yn eich ffonio chi pan fydd eich presgripsiwn chi’n barod i’w godi
    • arhoswch am y fferyllfa i’ch ffonio chi
    • peidiwch â ffonio eich fferyllfa chi oni bod bod hi’n fater o frys.
  4. Os ydych chi’n aros gartref achos bod peswch newydd neu wres arnoch chi:
    • gofynnwch i’ch ffrindiau neu’ch teulu chi godi eich presgripsiynau chi neu
    • siaradwch â’ch fferyllfa gymunedol chi i weld os gallan nhw helpu
  5. Os nad ydych chi’n sâl, cynigiwch godi presgripsiynau ar gyfer ffrindiau neu aelod o’r teulu sy’n sâl.
    • byddwch chi angen eu henw a’u cyfeiriad nhw er mwyn cael codi eu presgripsiwn nhw

Bydd y staff yn ein fferyllfeydd ni’n gweithio’n galed iawn i helpu pobl i gael y moddion maen nhw eu hangen. Drwy ddilyn y pump cam syml hwn, gallwch chi eu helpu nhw i wneud eu gwaith.

Chwilio A i Y