Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor pandemig Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Cyfle i gael y newyddion diweddaraf ar dudalen benodol Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar y we. Hefyd gallwch ddilyn yr Asiantaeth ar Twitter gan ddefnyddio @VOAgovuk.

Cysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Mae’r asiantaeth yn parhau i weithredu mor agos i normal â phosib, ond mae’n debygol o gymryd mwy o amser nag arfer i ymateb. Nid yw’n gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid am achosion. Er hynny, mae’n cadarnhau ei bod yn eu hadolygu, ac y bydd yn cysylltu yn fuan.

Ceisiadau am fewnosod eiddo trethi annomestig newydd, rhaniadau ac uno, newidiadau i eiddo

Os yw’r wybodaeth angenrheidiol wedi cael ei rhoi, mae’r asiantaeth yn codi adroddiadau ac yn darparu dolenni ar gyfer trethdalwyr i gael gwybod y canlynol:
Hefyd mae’r asiantaeth yn tynnu sylw at y cynlluniau grantiau busnes. Os nad oes gwybodaeth ddigonol wedi’i rhoi i benderfynu a oes angen newid, mae’r asiantaeth yn gofyn i gwsmeriaid am ragor o fanylion.

Newid i werth trethadwy i gymhwyso am ostyngiad

I adolygu eich gwerth trethadwy, mae’r asiantaeth eisiau gwybod a oes unrhyw fanylion wedi newid. Felly rydym yn gofyn i gwsmeriaid edrych ar fanylion yr eiddo sydd ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Os nad yw eich eiddo wedi newid neu os nad ydych yn cytuno â’r penderfyniad, gallwch apelio yn erbyn gwerth trethadwy eich eiddo ar-lein.

Asesu tŷ gwyliau ar gyfer ardrethi busnes 

Pan fyddwch yn gwneud cais ar gyfer hyn, gofynnir i chi am y canlynol:
  • am faint o ddyddiau mae’r eiddo ar gael ar gyfer ei osod bob blwyddyn
  • faint o ddyddiau gafodd eu gosod y llynedd
  • am ddolen i’r gwefannau lle mae’r eiddo’n cael ei hysbysebu ar gyfer defnydd

Cartrefi sy’n cael eu hasesu ar gyfer ardrethi busnes

Ar gyfer hyn, bydd yr asiantaeth yn gofyn am ragor o fanylion am eich eiddo a’i ddefnydd. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar dudalen llywodraeth y DU am ardrethi busnes ar gyfer gweithio o gartref.

Chwilio A i Y