Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyfarwyddyd ar gyfer busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol sy’n ailagor

Bydd busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol yn cael ailagor o ddydd Llun 22 Mehefin 2020 ymlaen yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Rydym yn aros am gyfarwyddyd penodol Llywodraeth Cymru ynghylch pryd a sut dylai busnesau ailagor yng Nghymru.

Wrth i ni aros amdano, gall fod yn ddefnyddiol ystyried rhai o’r materion a’r heriau nodweddiadol y mae Llywodraeth y DU yn cynghori busnesau yn eu cylch yn Lloegr.

Darllen cyfarwyddyd Llywodraeth y DU ar weithio’n ddiogel yn ystod y pandemig.

Darllen cyfarwyddyd newydd Llywodraeth Cymru i fanwerthwyr.

Darllen cyfarwyddyd iechyd a diogelwch y coronafeirws.

Bydd manwerthwyr yn cyflwyno mesurau amrywiol er mwyn cadw eu staff a’u cwsmeriaid yn ddiogel. Bydd y rhain yn amrywio o siop i siop ond ymhlith y newidiadau gallwch ddisgwyl eu gweld mae’r canlynol:

  • sgriniau (plastig) atal tisian o amgylch pob til
  • staff yn gwisgo PPE fel - feisors, masgiau a menig
  • siopau’n gofyn i gwsmeriaid ddefnyddio gwahanol ddrysau mynediad a gadael
  • systemau un ffordd mewn siopau gyda saethau ar y llawr i gyfeirio cwsmeriaid
  • arwyddion cadw pellter cymdeithasol wrth fynd i mewn i siop
  • cael gwared ar arddangosfeydd i greu mwy o ofod ac i helpu i gadw pellter cymdeithasol
  • darparu diheintydd dwylo a gofyn i gwsmeriaid ei ddefnyddio wrth ddod i mewn i’r siop i ddechrau
  • cyfyngiadau ar gyffwrdd nwyddau neu drïo dillad neu esgidiau
  • annog taliadau digyswllt a pheidio â defnyddio arian parod.

Mae’r cyfyngiad gwario ar gyfer taliadau digyswllt gyda chardiau wedi’i gynyddu o £30 i £45 ers 1 Ebrill 2020 ymlaen.

Yn ystod argyfwng Covid-19 a’r cyfyngiadau cymdeithasol a gyflwynwyd o ganlyniad, fe ddatblygodd llawer o bobl fwy o hoffter o’u cymuned gan deimlo ymdeimlad cadarnach o berthyn i’r lle maent yn ei alw’n gartref. Mae busnesau lleol yn rhan greiddiol o’n cymunedau ni a nawr, yn fwy nag erioed, maen nhw angen ein cefnogaeth.      

Siopau unigol fydd yn penderfynu sut gallant fodloni gofynion cwsmeriaid o ran trïo nwyddau fel esgidiau a dillad a hefyd meddwl am yr angen am gymryd camau i atal y feirws rhag lledaenu.           

Na. Mae’r dystiolaeth yn parhau’n glir mai’r ffordd fwyaf effeithiol o warchod eich hun ac eraill rhag yr haint yw drwy gadw at reolau cadw pellter cymdeithasol, osgoi cyffwrdd arwynebau a’ch wyneb, a golchi eich dwylo yn rheolaidd.

Nid yw gorchuddion wyneb yn cymryd lle’r mesurau hyn ond, o dan rai amgylchiadau lle mae’n anodd cadw 2m oddi wrth bobl eraill, rydym yn cynghori defnyddio gorchuddion wyneb tair haen, anfeddygol.  

I ddarparu unrhyw warchodaeth i bobl eraill, rhaid i orchuddion wyneb gael eu gwneud, eu gwisgo, eu trin a’u taflu mewn ffordd benodol. Yn anffodus, nid yw llawer o’r masgiau cartref sy’n cael eu gwisgo’n cynnig llawer o warchodaeth i’r gwisgwr na’r rhai o’i gwmpas. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell isafswm o dair haen mewn gorchudd wyneb.

Ydi, ers cyflwyno’r cyfyngiadau, mae llawer o fusnesau lleol wedi dechrau masnachu ar-lein, gan gynnig dosbarthu nwyddau i’r cartref a hefyd gwasanaeth clicio a chasglu.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi pennu dyddiad ar gyfer pryd bydd siopau trin gwallt yn ailagor.

Ar hyn o bryd, mae pob apwyntiad deintyddol heb fod yn frys wedi cael ei ganslo oherwydd pandemig Covid-19. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Deintyddion yn ailagor fesul cam o 1 Gorffennaf 2020 ymlaen.

Ar hyn o bryd mae pob optometrydd yng Nghymru ar gau yn ystod pandemig Covid-19 ac eithrio ar gyfer anghenion llygaid brys. Bydd eich optometrydd arferol yn ateb galwadau ffôn ac yn eich cyfeirio chi at y lle mwyaf priodol ar gyfer gofal llygaid brys os bydd arnoch angen hynny.

Dylid cadw pellter o ddau fetr rhwng unrhyw bersonau.            

O ddydd Llun 22ain Mehefin 2020 ymlaen, mae siopau nad ydynt yn hanfodol yng Nghymru yn cael agor eto, ar yr amod bod modd cadw pellter cymdeithasol ynddynt.

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd rhaid i fanwerthwyr yng nghanol ein trefi ystyried sut gall pobl giwio y tu allan i’w heiddo a chadw pellter cymdeithasol hefyd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi datgan rhai pwyntiau i roi arweiniad i fanwerthwyr ar fesurau cadw pellter cymdeithasol:

  • Bydd rhaid i bob manwerthwr reoli gofynion a system giwio y tu allan i’w siop. 
  • Caiff manwerthwyr osod marciau gofod 2m ar hyd blaen eu siop er mwyn cynorthwyo gyda chadw pellter cymdeithasol. Ni ddylai’r marciau na’r ciwiau effeithio ar unrhyw eiddo cyfagos.    
  • Yr hyn mae’r Cyngor yn ei ffafrio yw gosod marciau ar lefel y llygaid ar hyd blaen yr uned fanwerthu / busnes.
  • Ni ddylai unrhyw farciau mae manwerthwyr yn eu rhoi ar y briffordd achosi perygl llithro neu faglu i’r cyhoedd, dylent fod yn farciau dros dro a dylent gynnwys cynnyrch o wead addas.
  • Sylwer y bydd unrhyw farciau sy’n cael eu gosod ar briffordd yn parhau’n atebolrwydd y perchennog.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i fusnesau manwerthu agor, mae nifer o fusnesau o hyd nad ydynt yn cael agor.                        

Mwy o wybodaeth am y cyfarwyddyd diweddaraf sydd wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

               

Mae’r cyngor yn ystyried cyflwyno ymyriadau amrywiol yng nghanol y trefi er mwyn helpu i gadw pellter cymdeithasol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi datgan rhai pwyntiau i roi arweiniad i fanwerthwyr ar fesurau cadw pellter cymdeithasol:

  • Bydd rhaid i bob manwerthwr reoli gofynion a system giwio y tu allan i’w siop. 
  • Caiff manwerthwyr osod marciau gofod 2m ar hyd blaen eu siop er mwyn cynorthwyo gyda chadw pellter cymdeithasol. Ni ddylai’r marciau na’r ciwiau effeithio ar unrhyw eiddo cyfagos.    
  • Yr hyn mae’r Cyngor yn ei ffafrio yw gosod marciau ar lefel y llygaid ar hyd blaen yr uned fanwerthu / busnes.
  • Ni ddylai unrhyw farciau mae manwerthwyr yn eu rhoi ar y briffordd achosi perygl llithro neu faglu i’r cyhoedd, dylent fod yn farciau dros dro a dylent gynnwys cynnyrch o wead addas.
  • Sylwer y bydd unrhyw farciau sy’n cael eu gosod ar briffordd yn parhau’n atebolrwydd y perchennog.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i fusnesau manwerthu agor, mae nifer o fusnesau o hyd nad ydynt yn cael agor.                        

Mwy o wybodaeth am y cyfarwyddyd diweddaraf sydd wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Mae rhai busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi dilyn Cwrs Ymwybyddiaeth Covid 19 sy’n cael ei ddarparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn paratoi eu heiddo yn y ffordd orau i dderbyn cwsmeriaid. Dylech hefyd edrych ar y Dystysgrif Hyfforddiant sy’n cael ei harddangos yn yr eiddo ac yn nodi pwy sydd wedi cael yr hyfforddiant.          

Am ragor o fanylion, cysylltwch ag employability@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 643428

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mewn partneriaeth â Chyngor Tref Porthcawl, yn gwneud rhywfaint o waith ar Stryd John er mwyn creu arwyneb gwastad mewn mannau ar hyd y stryd, ac i gael gwared ar yr arwynebau o gerrig crynion.

Cafodd y gwaith ei aildrefnu ar gyfer mis Mawrth/Ebrill ond oherwydd pandemig Covid-19, mae wedi gorfod cael ei ohirio. Dechreuodd y rhaglen waith ddydd Llun ac mae wedi’i threfnu am ryw wythnos. Mae’r contractwr yn gweithio fesul darn heb gymryd mwy o ofod na sydd raid i atgyweirio’r Stryd. Bydd ar y safle rhwng 11am a 5pm a bryd hynny mae’r ffordd yn cael ei chau i draffig fel rhan o’r gorchymyn creu parth cerddwyr.

Bydd tîm Priffyrdd y Cyngor, sy’n monitro gwaith o’r fath, yn ymweld â Stryd John heddiw i gysylltu â’r contractwr ac i hwyluso cymaint o ofod â phosib er mwyn galluogi cadw pellter cymdeithasol, fodd bynnag mae rhywfaint o darfu’n anochel.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi canaitáu i fusnesau manwerthu agor, mae nifer o fusnesau o hyd nad ydynt yn cael agor. Mae mwy o wybodaeth am y busnesau nad ydynt yn cael ailagor eto ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae’r toiledau ar Stryd John yn cael eu rheoli gan Gyngor Tref Porthcawl. Ar hyn o bryd, mae’r cyfleuster ar gau ond mae’r Cyngor Tref yn edrych ar sut gellid addasu’r cyfleuster a’i ailagor yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Covid-19.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno rhwystrau a marciau stryd mewn sawl lleoliad er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yn gallu cadw pellter cymdeithasol.

Yr ardal gyntaf lle bydd y mesurau’n cael eu rhoi ar waith yw Stryd Talbot ym Maesteg lle bydd adrannau cul o’r palmant yn cael eu hehangu er mwyn darparu mwy o le i gerddwyr, a galluogi cadw pellter cymdeithasol a helpu i gadw siopwyr yn ddiogel.

Byddwn yn monitro’r cynllun yn ofalus ac, os bydd yn llwyddiannus, byddwn yn ystyried cyflwyno mesurau tebyg mewn ardaloedd fel Stryd Nolton, Pen-y-bont ar Ogwr, a Heol Lias ym Mhorthcawl. Hefyd efallai y byddwn yn cyflwyno mesurau ychwanegol wrth i ddatblygiadau pandemig pellach ddod i’r amlwg neu yn unol â’r canllawiau cenedlaethol newydd a ddaw i rym yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Mwy o wybodaeth am sut rydyn ni’n helpu i gadw siopwyr yn ddiogel ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Chwilio A i Y