Rhwystrau a marciau ar y ffyrdd dros dro i helpu i gadw siopwyr yn ddiogel
Poster information
Posted on: Dydd Iau 25 Mehefin 2020
Gyda nifer o siopau a busnesau yn gallu ailagor ar draws bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gall preswylwyr ddisgwyl gweld ystod o newidiadau dros dro sydd wedi'u cynllunio er mwyn helpu i'w cadw'n ddiogel a lleihau'r posibilrwydd o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws.
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno rhwystrau a marciau ar y stryd mewn nifer o leoliadau er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yn gallu cadw pellter cymdeithasol.
Yr ardal gyntaf lle bydd y mesurau yn cael eu gosod yw Stryd Talbot ym Maesteg, lle bydd rhannau cul o'r palmant yn cael eu hehangu er mwyn darparu mwy o le i gerddwyr, caniatáu cadw pellter cymdeithasol a helpu i ddiogelu siopwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Gymunedau, fod y mesur yn cael ei dreialu er budd diogelwch y cyhoedd.
Mae'r palmant yn y rhan benodol honno o'r dref yn gul iawn, a byddai cerddwyr sy'n mynd i mewn i'r busnesau yno yn ei chael hi'n anodd fel arall dod o hyd i ddigon o le er mwyn pasio'i gilydd yn unol â’r canllawiau cadw pellter cymdeithasol sy'n ofynnol. Er mwyn darparu’r lle angenrheidiol ychwanegol ar gyfer cerddwyr yn y rhan hon o’r dref, bydd rhwystrau’n cael eu gosod drwy’r cilfannau parcio cyfagos ar y stryd er mwyn galluogi i led y droedffordd gael ei ymestyn.
Bydd lleoedd parcio eraill yn dal i fod ar gael tra bydd y mesurau dros dro hyn ar waith, a bydd lle yn cael ei gynnal er mwyn galluogi i ddanfoniadau gael eu llwytho a'u dadlwytho. Byddwn yn monitro'r cynllun yn ofalus ac, os bydd yn llwyddiannus, byddwn yn ceisio cyflwyno mesurau tebyg mewn ardaloedd fel Stryd Nolton, Pen-y-bont ar Ogwr, a Lias Road ym Mhorthcawl.
Efallai y byddwn hefyd yn cyflwyno mesurau ychwanegol wrth i ddatblygiadau pellach ynglŷn â'r pandemig ddod i'r amlwg neu yn unol â pha ganllawiau cenedlaethol bynnag newydd y byddwn yn eu gweld yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Gymunedau
Ddydd Gwener, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai pob siop a busnes nad yw'n hanfodol yn gallu ailagor o ddydd Llun, 22 Mehefin, cyn belled â'u bod yn cymryd pob mesur rhesymol i gydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol, ac yn parhau i ddiogelu staff a chwsmeriaid rhag dod i gysylltiad posibl â'r coronafeirws.
Mae’r cyngor wedi darparu hyfforddiant ar-lein rhad ac am ddim sy’n cwmpasu materion fel sut i newid cynlluniau llawr siopau er mwyn cadw cwsmeriaid yn ddiogel, ac mae wedi darparu ‘gardiau rhag tisian’, tystysgrifau a sticeri ffenestr ynghyd â mwy na £28 miliwn mewn grantiau cymorth busnes.
Bydd meysydd parcio canol tref a gynhelir gan y cyngor hefyd yn rhad ac am ddim rhwng nawr a diwedd mis Gorffennaf er mwyn cefnogi siopau a busnesau wrth iddynt ailagor.
Mae cwestiynau cyffredin wedi'u cyhoeddi ar wefan y cyngor, a bydd y wefan yn cael ei hadnewyddu'n rheolaidd er mwyn darparu adnodd gwybodaeth cyfredol i fusnesau a'r cyhoedd.