Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Apêl am help gan fusnesau

Mae tri llwybr ar wahân i’ch sefydliad ddewis o’u plith i gynnig cefnogaeth ar wefan Busnes Cymru.

Mae pob cynnig o gefnogaeth yn cael ei anfon ymlaen at swyddog priodol. Fodd bynnag, bydd dewis llwybr priodol a chwblhau’r gofynion isod yn cyflymu’r broses yn sylweddol.

Llwybr un: PPE ac offer hanfodol

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru fel y prif gyswllt ar gyfer sefydliadau a all gyflenwi, gweithgynhyrchu a/neu ddosbarthu cynhyrchion neu ddatrysiadau ar gyfer y canlynol:

  • dyfeisiau meddygol
  • rheoli haint
  • datrysiadau digidol
  • ynysu cymdeithasol ac unigrwydd

Cysylltwch â’r Hwb Gwyddorau Bywyd drwy ei borthol arloesi.

Llwybr dau: cynllunio, adeiladu a gweithredu            

Os gallwch chi neu eich sefydliad gefnogi yn unrhyw un o’r meysydd hyn, a gweithredu llety ychwanegol/dros dro ar gyfer y GIG, anfonwch fanylion i HSS.COVID-19.PlanningCell@gov.wales.

Llwybr tri: unrhyw gynigion eraill

Os gallwch chi gynnig cefnogaeth arall heb gysylltiad uniongyrchol ag offer meddygol neu PPE, cofiwch gofrestru drwy lenwi’r ffurflen ar-lein yma ar gyfer cynigion eraill.

Chwilio A i Y