Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ein haddewid i chi

Mae ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn.

Rydym eisiau sicrhau y gall pob sector o’r gymuned ddefnyddio ein gwasanaethau a’ch bod yn derbyn y lefel uchaf o wasanaeth cwsmeriaid pryd bynnag a sut bynnag y byddwch yn cysylltu â ni. Mae ‘Ein haddewid i chi’ yn nodi’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi yn gyfnewid.

Ein gwasanaeth i chi

Byddwn yn:

  • pennu safonau gwasanaeth cwsmeriaid ac yn monitro ein perfformiad yn eu herbyn, er enghraifft barn pobl am y gwasanaeth maent yn ei dderbyn yn ein Canolfan Gyswllt a nifer yr ymholiadau yr ydym yn eu datrys dros y ffôn heb orfod eich trosglwyddo chi i adran wahanol
  • darparu gwasanaethau hygyrch o ansawdd uchel sy’n hawdd eu defnyddio ac sy’n bodloni eich anghenion
  • mynd ati’n barhaus i wella ein gwasanaethau drwy ddeall a bodloni eich anghenion
  • ymdrin â phob ymholiad yn brydlon ac yn hyderus
  • eich trin â pharch, gonestrwydd a thegwch
  • dysgu o’ch adborth, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, ac yn ei ddefnyddio i wella gwasanaethau
  • sicrhau bod gennym staff proffesiynol a gwybodus
  • darparu gwasanaeth hygyrch ac ymatebol sy’n cyflawni ein hymrwymiadau
  • creu naws groesawgar yn ein hadeiladau cyhoeddus
  • darparu gwasanaeth dwyieithog lle y gall cwsmeriaid gysylltu â ni yn Gymraeg neu’n Saesneg
  • sicrhau bod gennym bolisi a gweithdrefnau cwynion cadarn

Ein gwerthoedd a’n cyfrifoldebau

Byddwn yn:

Sut y gallwch chi ein helpu ni

Gofynnwn i chi:

  • roi’r wybodaeth gywir ar yr adeg gywir
  • rhoi gwybod i ni pan fo rhywbeth yn newid
  • defnyddio ein gwasanaethau ar-lein pan fo’n bosibl
  • bod yn ystyriol ac yn gwrtais i gwsmeriaid eraill
  • trin ein staff â pharch
  • rhoi adborth i ni ar ein perfformiad
  • gofyn i ni esbonio unrhyw beth nad ydych yn siŵr amdano
  • Cadw at unrhyw apwyntiad yr ydych wedi’i drefnu â ni (os na allwch fod yn bresennol, rhowch wybod i ni ymlaen llaw)
  • parchu ein polisi cyfryngau cymdeithasol

Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni ar ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol, dros e-bost neu drwy’r post

Byddwn yn:

  • ymateb i’ch e-bost/gohebiaeth ysgrifenedig cyn gynted â phosibl; os na allwn roi ateb llawn i chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth fydd y camau nesaf a phryd y cânt eu cymryd
  • Rydym yn ceisio ysgrifennu mewn iaith syml ac osgoi jargon lle y bo hynny’n bosibl
  • ceisio adolygu a gwella ein gwefan a’n gwasanaethau ar-lein yn barhaus gan ddefnyddio eich adborth
  • sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch i gymaint o bobl ag sy’n bosib, waeth beth fo’r dechnoleg neu’r gallu
  • gohebu â chi yn eich dewis iaith – Cymraeg neu Saesneg
  • monitro ein prif gyfrifon Twitter, Facebook ac Instagram yn ystod oriau gwaith arferol (ac eithrio gwyliau’r banc a gwyliau cyhoeddus) ac ymateb cyn gynted â phosib
  • dileu negeseuon sarhaus sy’n ymddangos ar ein tudalen Facebook cyn gynted â phosibl a chymryd camau i atal cynnwys tebyg rhag ymddangos eto, er enghraifft drwy flocio troseddwyr parhaus

Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni dros y ffôn neu ffôn testun

Byddwn yn:

  • ceisio ateb eich ymholiad ar unwaith; pan nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn trefnu i rywun eich ffonio chi’n ôl gydag ateb o fewn 24 awr, ar adeg sy’n gyfleus i chi
  • ceisio eich trosglwyddo unwaith yn unig, pe bai angen cyfeirio eich galwad at adran wahanol
  • nodi’n glir ein henw, ein hadran a’n rheswm dros ffonio wrth ffonio’n ôl

Pan fyddwch yn ymweld â ni

Byddwn yn:

  • gwneud yn siŵr bod ein derbynfeydd yn hygyrch, yn lân, yn daclus a chydag arwyddion clir (yn Gymraeg ac yn Saesneg)
  • gyfeillgar ac yn ddefnyddiol
  • eich gweld chi ar amser pan fydd apwyntiad gennych
  • arddangos ein horiau agor yn glir
  • sicrhau bod yr holl wybodaeth a arddangosir gennym yn cael ei diweddaru a’i chyflwyno’n briodol
  • rhoi lle i gwsmeriaid eistedd yn ogystal â chyfleusterau cyfweld preifat, yn ôl yr angen
  • gwneud trefniadau cyn gynted â phosibl ar gyfer eich gofynion cyfathrebu penodol, er enghraifft os byddwch angen defnyddio iaith ar wahân i’r Gymraeg neu Saesneg, neu os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw

 

Chwilio A i Y