Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ein polisi cyfryngau cymdeithasol

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bresenoldeb corfforaethol ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol Twitter, Facebook, Instagram a YouTube i gyfathrebu â phobl sy’n byw ac yn gweithio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac ag ymwelwyr.

Mae’r wybodaeth hon yn egluro sut rydym yn rheoli’r cyfrifon hyn ac yn rhoi cyngor i ddilynwyr sy’n dymuno siarad â ni trwy gyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn diweddaru’r wybodaeth hon o bryd i’w gilydd ac yn atgoffa dilynwyr ar ôl cyrraedd cerrig milltir penodol e.e. 1,000, 2,500, 3,000 o bobl yn dilyn/hoffi ac ati, neu os ydym o’r farn fod ar ddilynwyr angen cyngor o’r newydd.

Caiff y cyfrifon corfforaethol hyn eu rheoli gan aelodau’r tîm Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu gan amlaf, ac o bryd i’w gilydd gan y Gwasanaethau i Gwsmeriaid, ar ran y cyngor. Anfonir negeseuon trydar, diweddariadau statws ac ymatebion ar ran y cyngor ac ni ddylid eu dehongli fel ymatebion/negeseuon personol oddi wrth unigolion.

Byddwn yn ceisio ymateb yn gyflym i gwestiynau ac ymholiadau a gyflwynir trwy’r fforymau hyn. Os bydd angen, byddwn yn eich cyfeirio at ein gwefan neu’r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid neu’n anfon eich cwestiwn yn uniongyrchol at y Ganolfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid er mwyn iddynt ymateb.

Sylwer na fyddwn yn gallu ymateb i chi nac aildrydaru/rhannu rhywbeth yr ydych wedi gofyn i ni ei rannu os bydd eich enw defnyddiwr yn cynnwys rheg.

Mae ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn cael eu monitro’n bennaf yn ystod oriau swyddfa, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os oes modd, byddwn yn ymateb y tu allan i’r oriau hyn ac yn ceisio ateb cwestiynau a anfonir gyda’r nos neu ar y penwythnos cyn gynted â phosibl. Ni allwn addo ymateb i bob sylw a dderbyniwn – yn enwedig ar adegau prysur (er enghraifft pan fydd eira trwm yn effeithio ar wasanaethau’r cyngor, neu yn ystod cyfnod o weithredu diwydiannol). Os yw eich ymholiad yn ddifrifol, yn fanwl, o natur frys neu’n cynnwys manylion personol, rydym yn eich cynghori i gysylltu â’n tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid.

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Peidiwch â digio os nad ydym yn eich ‘dilyn/hoffi' chi yn ôl ar y cyfryngau cymdeithasol. Nid yw hyn yn golygu nad ydym yn eich hoffi neu nad oes gennym ddiddordeb yn yr hyn sydd gennych i’w ddweud. Y cyfan mae’n ei olygu yw y gallai’r niferoedd fynd yn ormod i ni allu eu rheoli’n effeithiol.

Byddwn weithiau’n ‘dilyn/hoffi’ pobl/tudalennau sy’n darparu gwybodaeth sy’n berthnasol i’n gwaith fel awdurdod lleol (er enghraifft, cyfrifon llywodraeth ganolog, cyfryngau lleol, a’n partneriaid) neu’r rhai hynny y gallwn drosglwyddo eu gwybodaeth er lles llawer o bobl leol. O bryd i’w gilydd, byddwn hefyd yn ceisio cefnogi ymgyrchoedd lleol a chenedlaethol. Bydd adegau hefyd pan fydd angen i ni ddilyn/hoffi cyfrif er mwyn cymryd rhan mewn sgyrsiau.

Nid yw’r ffaith ein bod yn ‘dilyn/hoffi’ rhywun, yn aildrydaru neu’n rhannu eu gwybodaeth yn golygu ein bod yn eu cefnogi.

Rhannu ac aildrydaru

Rydym yn ceisio rhannu neu aildrydaru gwybodaeth y credwn y bydd o ddiddordeb neu o ddefnydd i bobl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ond peidiwch â digio os nad ydym yn aildrydaru neu'n rhannu rhywbeth yr ydych yn gofyn i ni ei rannu. Gan ein bod yn sefydliad yr ymddiriedir ynddo, gallai’r ffaith ein bod yn rhannu unrhyw wybodaeth awgrymu ein bod yn cefnogi safbwynt, unigolyn neu sefydliad penodol, ac mae’n bwysig ein bod yn aros yn ddiduedd ac yn amddiffyn enw da’r cyngor.

Safoni

Mae gan y rhan fwyaf o gymunedau ar-lein eu rheolau a’u canllawiau eu hunain, a byddwn yn eu dilyn bob amser.

Pan fo’n bosibl, byddwn yn dibynnu ar y mesurau amddiffyn ac ymyrryd y mae’r safle rhwydweithio cymdeithasol eisoes wedi eu sefydlu (e.e. yn erbyn cynnwys anghyfreithlon, niweidiol neu sarhaus), er enghraifft, trwy amlygu sylwadau neu eu rhybuddio am unrhyw achosion o dorri telerau ac amodau’r safle.

Mae gennym ni rai rheolau hefyd

Rydym ni wedi sefydlu ein cyfrif Facebook fel ei fod yn rhwystro unrhyw negeseuon sy'n cynnwys rhai geiriau penodol megis rhegfeydd a allai dramgwyddo pobl. Mae posibilrwydd o hyd y gallai defnyddiwr roi neges sarhaus ar ein tudalen ac mewn sefyllfa o'r fath, byddwn yn gweithredu ar unwaith er mwyn dileu'r neges ac atal cynnwys o'r fath rhag ymddangos eto.

Yn ogystal â hyn, rydym ni’n cadw’r hawl i ddileu unrhyw gyfraniadau neu ofyn am ddileu unrhyw gyfraniadau ar y cyfryngau cymdeithasol sydd yn ein barn ni yn torri rheolau’r gymuned berthnasol, neu'r un o’r canllawiau canlynol:

  • bod yn gwrtais, yn chwaethus ac yn berthnasol
  • peidio â phostio negeseuon sy’n anghyfreithlon, enllibus, difrïol, sarhaus, ymosodol, dilornus, bygythiol, niweidiol, anweddus, cableddus, yn aflonyddu, yn ymwneud â rhyw neu’n sarhaus tuag at hil
  • peidio â rhegi
  • peidiwch â gwneud sylwadau gwleidyddol na defnyddio ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i gynnal dadl wleidyddol
  • peidio â phostio cynnwys a gopïwyd o fan arall, nad oes gennych yr hawlfraint ar ei gyfer
  • peidio â phostio’r un neges, neu negeseuon tebyg iawn, fwy nag unwaith (gelwir hyn hefyd yn "sbamio")
  • peidio â rhoi cyhoeddusrwydd i’ch gwybodaeth bersonol chi, na gwybodaeth bersonol unrhyw un arall, megis manylion cyswllt
  • peidio â hysbysebu cynhyrchion neu wasanaethau masnachol
  • peidio â chymryd arnoch eich bod yn rhywun arall

Yn anffodus, ac fel y cam olaf, bydd angen i ni ‘flocio’ defnyddwyr weithiau os ydynt yn gwrthod dilyn y canllawiau hyn dro ar ôl tro a/neu yn peidio ag ymateb i geisiadau i ddileu negeseuon sydd yn y categorïau uchod.

Enllib

Gofalwch nad ydych yn gwneud datganiadau enllibus. Yn ôl y gyfraith, mae hyn yn golygu datganiad sy’n diraddio enw da unigolyn neu sefydliad yng ngolwg rhywun rhesymol. Trwy gyhoeddi datganiad o’r fath fe allech chi a’r cyngor fynd i drafferth ddifrifol. Byddwn felly’n dileu neu’n gofyn ichi ddileu unrhyw ddatganiad y gellid ei ystyried yn enllibus.

Cyfnod cyn etholiad neu neilltuaeth

Safle anwleidyddol yw @BridgendCBC a www.facebook.com/BridgendCBC a gofynnwn i gyd-ddefnyddwyr barchu hyn a deall na allwn gymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth wleidyddol. Yn y cyfnod o chwe wythnos cyn etholiad cyffredinol, lleol neu Ewropeaidd, mae’n rhaid i gynghorau fod yn arbennig o ofalus i beidio â gwneud na dweud unrhyw beth y gellid ystyried ei fod yn cefnogi unrhyw blaid neu ymgeisydd gwleidyddol. Byddwn yn parhau i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i wneud cyhoeddiadau gwasanaeth pwysig, ond mae’n bosibl y bydd angen i ni ddileu neu ofyn ichi ddileu ymatebion os gellid ystyried eu bod yn cefnogi plaid wleidyddol neu’n ymfflamychol.

Chwilio A i Y