Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cwestiynau cyffredin am Fy Nghyfrif

Os ydych chi’n cael problemau mynd ar Fy Nghyfrif, efallai bod yr ateb isod.

Ceisiwch roi eich manylion eto neu edrych yn eich ffolder e-byst sothach.

Rhaid i chi ddefnyddio’r e-bost a’r cyfrinair a ddefnyddioch chi i greu’r cyfrif.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi actifadu'r cyfrif drwy glicio ar y ddolen yn yr e-bost a gawsoch chi adeg cofrestru.

Gallwch chi ailosod eich cyfrinair Fy Nghyfrif o’r sgrîn mewngofnodi neu drwy glicio ar ailosod eich cyfrinair. Bydd rhaid i chi fynd ar y cyfrif e-bost a ddefnyddioch chi i greu'r cyfrif i wneud hynny.

Bydd angen i chi greu Fy Nghyfrif newydd gyda chyfeiriad e-bost newydd. Dilynwch y ddolen hon i greu Fy Nghyfrif newydd.

Gallwch newid eich cyfeiriad e-bost cofrestredig drwy fewngofnodi i Fy Nghyfrif ac wedyn clicio ar eich enw ar dop y sgrin ac wedyn dewis 'Newid E-bost' oddi ar y gwymprestr.

Wrth gofrestru i weld manylion eich cyfrif treth gyngor, gofynnir i chi nodi cyfeirnod ac ateb nifer o gwestiynau diogelwch. Rhaid i'r manylion hyn gyfateb i'r wybodaeth ar eich bil treth gyngor diweddaraf.

Cofiwch ddod â’ch bil treth gyngor diweddaraf gyda chi. Os na lwyddwch i ddod o hyd iddo, cwblhewch ein ffurflen ‘cysylltwch â ni’, dewis ‘Treth Gyngor’ o’r gwymplen ac yna ‘Lle alla i ddod o hyd i fy rhif cyfeirnod’ o’r rhestr o gwestiynau - Cysylltwch â ni

Hefyd, os ydych chi’n talu drwy ddebyd uniongyrchol, mae eich cyfeirnod treth gyngor ar eich datganiad banc ochr yn ochr â'r taliad.

Rhaid prosesu taliadau a chân nhw eu hychwanegu at eich cyfrif o fewn diwrnod gwaith. Cofiwch hynny pan welwch chi'r balans ar Fy Nghyfrif. Gall gymryd hyd at bum diwrnod gwaith i dynnu symiau o’ch cyfrif banc.

Ni fydd yn bosibl gweld manylion eich cyfrif heb eich rhif cyfeirnod. Os ydych chi’n cael budd-daliadau, ni fydd modd gweld eich cofnodion budd-daliadau heb eich rhif cyfeirnod neu rai manylion personol – er enghraifft, eich Rhif Yswiriant Gwladol.

Cliciwch ar 'Methu dod o hyd i’r cyfeiriad' a theipio eich cyfeiriad yn y bocsys.

Os oes unrhyw rai o'ch manylion yn anghywir, gallwch newid eich manylion yn Fy Nghyfrif. Cliciwch ar "Croeso i Fy Nghyfrif" a dewis "Fy Mhroffil" oddi ar y gwymprestr.

Os oes unrhyw rai o'ch manylion yn anghywir ar eich bil, anfonwch e-bost i myaccountsupport@bridgend.gov.uk yn nodi eich cyfeirnod treth gyngor a pha newidiadau sydd eu hangen.

Dyw'r meysydd ddim yn gwahaniaethu rhwng priflythrennau a llythrennau bach. Gallwch chi ddefnyddio'r ddau.

Bydd rhaid dechrau eto ar ôl 15 munud o ddiffyg gweithredu.

Ni fydd Fy Nghyfrif ar gael yn achlysurol wrth i ni roi ein data wrth gefn. Byddwn ni’n cyhoeddi neges ar y wefan i roi gwybod i chi am ba hyd na fydd ar gael.

Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio Fy Nghyfrif oherwydd problem gyda hygyrchedd, e.e. nam ar y golwg, cysylltwch â myaccountsupport@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643643.

 

Cewch eich bil yn gynt ar-lein. Yn ogystal â pheidio ag aros iddo drwy’r post, gallwch hyd yn oed weld hen filiau ar Fy Nghyfrif, sy’n ei gwneud yn haws i chi drefnu’ch cofnodion. Mae osgoi biliau papur yn llawer gwell i’r amgylchedd hefyd.

Darllenwch am saith mantais fawr e-biliau yma.

Chwilio A i Y