Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr
Mae’r corff yma’n rhoi llais i bobl ifanc ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Os byddwch yn dod ar draws mater pwysig sy’n effeithio ar ieuenctid yr ardal, byddwn yn brwydro i wneud iddo ddigwydd.
Codi mater sy’n effeithio ar bobl ifanc
I godi mater neu fynegi barn am eich ardal, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.
Cyswllt
Cyfansoddiad Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr
Mae'n cynnwys maer, aelodau cabinet a thimau o gynghorwyr ieuenctid. Mae'n cael ei sefydlu a'i redeg gan bobl ifanc leol, ac mae'n endid cwbl ar wahân i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Megan Stone yw Maer Ieuenctid eleni, a’r Dirprwy Faer Ieuenctid yw Tino Kaseke.
Maer Ieuenctid – Megan Stone
Ei 3 prif flaenoriaeth ar gyfer ei thymor yw:
- Cynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol
- Addysg Democratiaeth a Gwleidyddiaeth y DU mewn ysgolion
- Mynd i'r afael â Thrais Ieuenctid drwy raglenni atal
Dirprwy Faer Ieuenctid – Tino Kaseke
Ei 3 prif flaenoriaeth ar gyfer ei dymor yw:
- Ymwybyddiaeth a chymorth Iechyd Meddwl i Ieuenctid mewn ysgolion
- Atal addysgol i fod yn ddiwedd ar hiliaeth ac anghyfiawnder
- Cefnogi Hawliau LGBTQ+
Ymuno â Chyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr
Mae’r cyngor ieuenctid yn cyfarfod bob mis yn Swyddfeydd Dinesig Pen-y-bont ar Ogwr. Gallech ymuno os ydych chi rhwng 11 a 25 oed ac eisiau gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc. Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy gysylltu â’r manylion isod: