Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad parciau a phafiliynau

Ers cyflwyno mesurau caledi, mae’r cyllid ar gyfer gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol ledled Cymru wedi cael ei gwtogi’n sylweddol. Yn ystod y pedair blynedd nesaf mae disgwyl i ni wneud arbedion pellach gwerth £36.4m. Rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn am ddarparu’r canlynol:

  • cyfleusterau chwaraeon awyr agored a phafiliynau chwaraeon parciau
  • parcdir sy’n cael ei gynnal ac ardaloedd lle mae’r glaswellt yn cael ei dorri
  • caeau chwarae plant a mannau chwarae

Mae tair adran ar gael i chi eu llenwi am bob un o’r uchod a hefyd adran ‘Amdanoch Chi’.

Bydd eich safbwyntiau chi’n ein helpu ni i wneud penderfyniadau am gaeau chwarae a mannau chwarae, parcdir sy’n cael ei gynnal, torri glaswellt, cyfleusterau chwaraeon awyr agored, parciau a phafiliynau chwaraeon.

Amserlen yr ymgynghoriad
Gweithgaredd Dyddiad
Cyfnod ymgynghori lle rydym yn croesawu eich safbwyntiau ar y cynigion.  17 Ebrill 2019 tan 10 Gorffennaf 2019
Adroddiad yr ymgynghoriad i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghori. Medi 2019
Cyhoeddi adroddiad yr ymgynghoriad ar dudalen yr ymgynghoriad ar ein gwefan ni. Medi 2019

Sut i ymateb

Gallwch gyflwyno eich safbwyntiau drwy naill ai gwblhau:

Cyswllt

Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643664
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Mae fformatau eraill ar gael hefyd ar gais.

Cofiwch fod cyfle o hyd i chi leisio eich barn ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.

Adroddiad yr ymgynghoriad

Nawr bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben, gallwch weld Adroddiad i’r Cabinet am ei ganfyddiadau ym mhwynt 9 yn nhrosolwg cyfarfod y Cabinet.

Chwilio A i Y