Accessibility links

1
Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr 2021

Trawsgrifiad fideo Ymgynghoriad Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr 

Trosolwg

Mae ymgynghoriadau cyllideb blaenorol wedi canolbwyntio ar ddarpariaethau gwasanaeth penodol, ond eleni rydym am ymgysylltu â thrigolion ar weledigaeth tymor hwy ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Golygodd effaith COVID-19 ein bod wedi gorfod darparu pethau'n wahanol iawn yn ystod 2020 a 2021, ac rydym yn gofyn i drigolion ein cefnogi wrth lunio dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr.

Er gwaethaf yr heriau y mae'r cyngor wedi'u hwynebu wrth ymateb i COVID-19, cafodd ffyrdd newydd o weithio eu cyflwyno i ni hefyd, a gwnaethom adeiladu ar gyfleoedd i weithio gyda sefydliadau partner. Rydym wedi cynyddu graddfa digidoleiddio rhai o'n gwasanaethau, ac mae nifer fawr o staff wedi gweithio gartref. Mae angen i ni wybod yr hyn a weithiodd yn dda, a lle mae angen i ni barhau i wneud newidiadau neu welliannau wrth i ni adfer yn sgil y pandemig COVID-19 er mwyn sicrhau y bydd y cyngor yn gallu darparu gwasanaethau cynaliadwy ac effeithiol ar gyfer y pump i ddeng mlynedd nesaf.

Rydym yn ystyried pob un o'r rhain yn ein trafodaethau a'r cylch cynllunio ariannol.

Ystyrir yr arbedion posibl, ac mae'r cyngor wedi arbed £62 miliwn dros y deng mlynedd diwethaf. O gofio'r arbedion a gyflawnwyd yn barod, mae wedi dod yn fwyfwy anodd nodi meysydd posibl ar gyfer gwneud darbodion wrth i bwysau ar wasanaethau gynyddu ac wrth i ofynion ychwanegol ddod i'r amlwg.

I helpu'r cyngor a'r cabinet wneud penderfyniadau ynghylch gwariant yn y dyfodol, mae'n bwysig clywed eich barn er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon sy'n gywir ar gyfer ein cymunedau.

Eleni, fel rhan o'r broses hon o gynllunio'r gyllideb, rydym am glywed eich barn ar y canlynol:

  • Perfformiad dros y 12 mis diwethaf
  • Cymorth i fusnesau, twristiaeth a'r economi
  • Llesiant
  • Mynediad wyneb yn wyneb i gwsmeriaid
  • Digidoleiddio
  • Buddsoddiad mewn gwasanaethau
  • Ffioedd a thaliadau
  • Lefelau'r dreth gyngor
  • Y dyfodol

Gyda'n gilydd gallwn wneud Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn 'Addas ar gyfer y Dyfodol'.

Rydyn ni eisiau deall sut bydd angen i'r 'normal newydd' fod er mwyn i'r cyngor ddarparu gwasanaethau cynaliadwy ac effeithiol am y pump i ddeng mlynedd nesaf.

Mae'r arolwg yn rhoi sylw i’r meysydd canlynol:

  • ymateb i bandemig Covid-19
  • busnes a'r economi
  • iechyd a llesiant
  • mynediad cwsmeriaid i’r Swyddfeydd Dinesig
  • digideiddio
  • lefelau'r Dreth Gyngor
  • y dyfodol

Lleisiwch eich barn am flaenoriaethau gwariant a dull gweithredu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn pandemig Covid-19. 

Sut i ymateb

Bydd cyfnod yr ymgynghoriad hwn yn dechrau ar 20 Medi 2021 ac yn cau ar 14 Tachwedd 2021. Gallwch ymateb neu ofyn cwestiynau pellach fel a ganlyn:

 

Cysylltu

Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu
Ffôn: (01656) 643664
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Dyddiadau ymgynghori pwysig

Amserlen debygol ar gyfer gweithdrefnau a chynigion.
Gweithgaredd Dyddiad
Dyddiad cau ar gyfer ymateb 14 Tachwedd 2021
Adrodd i'r Cabinet ar ganlyniadau'r ymgynghoriad 14 Rhagfyr 2021

A chofiwch, mae cyfle o hyd i chi leisio eich barn ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy ymuno â’n Panel Dinasyddion.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin - Y gwasanaethau mae’r cyngor yn eu

Mae'r Cyngor yn darparu neu'n galluogi cannoedd lawer o wasanaethau ar draws yr holl gymunedau amrywiol yn y fwrdeistref sirol. Caiff y gwasanaethau hyn eu grwpio gyda'i gilydd yn bedair cyfarwyddiaeth:
• Addysg (sy'n cynnwys ysgolion a chefnogi teuluoedd);
• Gwasanaethau cymdeithasol a llesiant;
• Cymunedau;
• Prif weithredwyr.

Mae pob cyfarwyddiaeth yn darparu ystod eang o wasanaethau gan gynnwys gofal cymdeithasol, priffyrdd, parciau a mannau agored, hawliau tramwy, diogelwch ar y ffyrdd, casglu sbwriel, glanhau strydoedd, refeniw a budd-daliadau, diogelu'r cyhoedd, cofrestryddion, chwaraeon a llyfrgelloedd drwy ein partneriaid HALO ac Awen.

Mae pob cyfarwyddiaeth yn darparu gwasanaethau statudol ac anstatudol. Mae rhai o'r meysydd y mae pob cyfarwyddiaeth yn rhoi sylw iddynt yn cynnwys y canlynol:

Addysg a chefnogi teuluoedd
• Gwella ysgolion
• Cyngor a Seicoleg Statudol
• Gwasanaeth cerddoriaeth ysgolion
• Cefnogaeth i blant a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
• Gwasanaeth troseddau ieuenctid
• Cynhwysiant
• Iechyd ac Ymddygiad Emosiynol

Addysg
Mae cyllid yn cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i ysgolion ac wedyn mae’n cael ei wario mewn meysydd fel y canlynol:
• Athrawon
• Arweinwyr ieuenctid
• Staff asiantaeth
• Atgyweirio a chynnal a chadw
• Yswiriant
• Glanhau/domestig
• Cynnal a chadw tiroedd
• Cyfarpar, Deunyddiau a Dodrefn
• Cyfathrebu / Cyfrifiadura
• Argraffu, Deunydd Ysgrifennu ac ati
• Arlwyo

Gwasanaethau cymdeithasol a llesiant
• Gofal cymdeithasol i oedolion
• Anableddau Corfforol / Nam ar y Synhwyrau Oedolion
• Anableddau Dysgu Oedolion
• Rheoli a Gweinyddu Gwasanaethau Oedolion
• Anghenion Iechyd Meddwl Oedolion
• Gwasanaethau Oedolion Eraill
• Atal a llesiant
• Hamdden a chwaraeon
• Gwasanaethau plant

Cymunedau
• Adfywio a datblygu
• Gwaith stryd
• Priffyrdd a Fflyd
• Trafnidiaeth a Pheirianneg
• Parciau a Mannau Agored
• Rheoli a Gweinyddu Strydoedd
• Rheoli cyfleusterau
• Rheoli Asedau Strategol
• Dylunio a Darparu Cyfalaf

Prif Weithredwyr
• Cyllid
• Archwilio Mewnol
• Datblygu Adnoddau Dynol a Sefydliadol
• TGCh
• Tai ac Adfywio Cymunedol
• Gwasanaethau Cyfreithiol
• Gwasanaethau Democrataidd
• Caffael
• Gwasanaethau Rheoleiddiol
• Cofrestryddion
• Cydraddoldeb
• Y Gymraeg
• Y Dreth Gyngor a Budd-daliadau

Mae gwasanaethau statudol yn wasanaethau y mae'n rhaid i'r cyngor eu darparu. Nodir y rhain mewn deddfwriaeth gan y llywodraeth ac maent yn cwmpasu gwasanaethau fel ysgolion, rhai elfennau o ofal cymdeithasol, arolygu iechyd yr amgylchedd a chynllunio. Dyma'r gwasanaethau y mae'n rhaid i'r cyngor eu darparu.

Nid yw gwasanaethau anstatudol wedi'u nodi mewn deddfwriaeth ac nid oes rhaid i'r awdurdod lleol eu darparu. Mae gwasanaethau anstatudol yn cefnogi cymunedau, economi ac amgylchedd bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau fel canolfannau hamdden, gwasanaeth teledu cylch cyfyng a gwasanaethau dydd i bobl hŷn a phobl ag anableddau dysgu.

Bydd rhai gwasanaethau statudol y mae'r cyngor yn eu darparu’n cael effaith ar wasanaethau statudol ac anstatudol ehangach. Er enghraifft, mae'n ofyniad statudol i'r cyngor helpu unrhyw un sydd dan fygythiad o ddigartrefedd o fewn 56 diwrnod. Ond mae digartrefedd yn fater cymhleth ac mae’n effeithio ar wasanaethau statudol eraill (fel iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a diogelwch cymunedol) a gwasanaethau anstatudol (fel gwasanaethau cefnogaeth bersonol, gwasanaethau cyflogadwyedd a dysgu cymunedol).

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW), asiantaeth annibynnol nad yw'n rhan o'r cyngor, sy'n penderfynu ar dâl cynghorwyr. Mae gan bob cynghorydd hawl i gyflog sylfaenol o £14,218 y flwyddyn.

Nid yw cynghorwyr yn cael tâl am fynychu cyfarfodydd ond maent yn cael cyflog i'w had-dalu am eu hamser a'u treuliau wrth gwblhau busnes y Cyngor.

Hefyd gall cynghorwyr hawlio costau teithio a Chostau Cynhaliaeth pan fyddant ar Fusnes Swyddogol. Y gyfradd bresennol y filltir yw 45c, sy'n gostwng i 25c y filltir ar ôl 10,000 o filltiroedd yn unol â CThEM.

Mae IRPW hefyd yn sicrhau bod pob awdurdod yn darparu ar gyfer ad-dalu'r treuliau angenrheidiol ar gyfer gofalu am blant ac oedolion dibynnol ac anghenion gofal personol hyd at yr uchafswm presennol o £403 y mis, yn amodol ar ddangos derbynebau.

Yn 2019/20 hawliwyd cyfanswm o £2,846 gan bob cynghorydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer treuliau teithio. Ni hawliwyd unrhyw swm am lwfans cynhaliaeth ac ni hawliwyd unrhyw swm am ad-dalu costau gofal.

Darllenwch fwy am y panel taliadau annibynnol.

Cwestiynau Cyffredin – Ymgynghoriad y Gyllideb

Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gael cyllideb gytbwys h.y. cynllun ariannol sy'n seiliedig ar dybiaethau cadarn sy'n dangos sut bydd incwm yn hafal i wariant yn y tymor byr a'r tymor canolig. Mae cynlluniau'n ystyried cyllid gan Lywodraeth Cymru a phobl sy’n talu’r dreth gyngor, arbedion cost y gellir eu cyflawni a/neu strategaethau twf incwm lleol yn ogystal â phwysau cyllidebol na ellir ei osgoi.

Ardrethi Annomestig (NDR), a elwir hefyd yn ardrethi busnes, yw'r ffordd mae busnesau a pherchnogion eiddo annomestig eraill yn cyfrannu tuag at gostau gwasanaethau awdurdodau lleol. Caiff y lluosydd Ardrethi Busnes Cenedlaethol ei bennu gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn ac ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21 y lluosydd yw 0.535.

Mae awdurdodau lleol yn casglu ardrethi annomestig ond caiff y rhain eu pwlio’n ganolog a'u hailddosbarthu wedyn gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol.

Mae hyn yn golygu bod rhai awdurdodau'n cael llai mewn arian wedi'i ailddosbarthu nag y maent yn ei gasglu yn eu hawdurdod ac mae rhai awdurdodau'n cael mwy o arian wedi'i ailddosbarthu nag y maent yn ei gasglu. Yn 2019/20 casglodd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr tua £42 miliwn mewn ardrethi busnes. Ar ôl ei bwlio a'i ailddosbarthu, cafodd CBSP tua £46 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Mwy o wybodaeth am ardrethi busnes yng Nghymru.

Mae'r cyfatebol i fand D yn fesur safonol o'r dreth gyngor ac fe'i defnyddir gan bob awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru.

Mae pob eiddo domestig yn y Fwrdeistref Sirol wedi cael eu prisio gan y Swyddfa Brisio. Unwaith y caiff ei brisio, neilltuir un o naw band prisio (Bandiau A i I) i eiddo. Caiff pob band ei luosi â ffactor penodol i sicrhau ei fod yn cyfateb i Fand D. Er enghraifft, mae un eiddo band H yn cyfateb i ddau eiddo band D, gan fod trethdalwr mewn eiddo band H yn talu dwywaith cymaint o dreth gyngor.

Gofynnir i ni’n rheolaidd i nodi sut gallai cynnydd posib effeithio ar fandiau penodol. Mae'r ymgynghoriad ar y gyllideb yn amlinellu cynnydd posib yn y dreth gyngor o 4.5%, 6% ac 16%. Mae'r tabl isod yn amlinellu'r cynnydd y byddai pob un o'r rhain yn ei brofi ym mhob band.

Mae’r tabl yma’n amlinellu’r cynnydd fyddai pob un o’r symiau cynnydd canran wythnosol yn ei olygu i bob band Treth Gyngor.
Band 4.5% o gynnydd wythnosol 6% o gynnydd wythnosol 16% o gynnydd wythnosol
A £0.89 £1.18 £3.15
B £1.03 £1.38 £3.68
C £1.18 £1.57 £4.20
D £1.33 £1.77 £4.73
E £1.63 £2.16 £5.78
F £1.92 £2.56 £6.83
G £2.22 £2.95 £7.88
H £2.66 £3.54 £9.46
I £3.10 £4.13 £11.04

 

Pan fyddwn yn defnyddio'r term 'arbedion', nid ydym yn golygu ein bod yn tynnu cyllid oddi ar wasanaeth ac yn ei roi o'r neilltu i’w 'arbed'. Pan rydym yn sôn am 'arbedion' yn cael eu gwneud i wasanaeth, rydym yn golygu bod cyllideb y gwasanaethau wedi'i lleihau. Er enghraifft, os oedd gwasanaeth yn costio £10,000 i’w redeg yn wreiddiol ac mai dim ond £8,000 sydd gennym ni bellach i redeg y gwasanaeth hwn, mae angen i ni wneud ‘arbediad’ o £2,000.

Mae cronfeydd wrth gefn yn arian sydd wedi'i neilltuo i dalu am rywbeth yn y dyfodol neu ar gyfer argyfyngau.

Mae dau fath o gronfeydd wrth gefn mewn cynghorau:

  1. Cronfeydd wrth gefn sydd wedi'u clustnodi – mae'r rhain wedi’u hymrwymo eisoes i gael eu gwario. 
  2. Cronfeydd wrth gefn cyffredinol – mae'r rhain ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl.

Byddai swm y cronfeydd wrth gefn cyffredinol yn ddigon i ariannu'r cyngor am ddim ond 50 diwrnod pe bai'r holl gyllid yn dod i ben. Hefyd gyda chronfeydd wrth gefn, dim ond unwaith y gallwch eu gwario. Os ydynt wedi mynd, byddai'r cyngor yn agored i risg o fod heb arian os bydd rhyw wariant annisgwyl difrifol yn angenrheidiol.

Caiff ein cyllideb gyfalaf ei gwario ar asedau sefydlog. Mae hynny'n cynnwys adeiladau newydd a gwaith adnewyddu mawr a phrynu tir neu adeiladau. Gellir ariannu'r gyllideb gyfalaf o'r gyllideb refeniw gan Lywodraeth Cymru, drwy fenthyca (o fewn trefynau llym a bennir gan y llywodraeth) neu o dderbyniadau cyfalaf. Dim ond i gefnogi'r gyllideb gyfalaf y gallwn fenthyca, ac nid i dalu am wasanaethau bob dydd. Dim ond i ad-dalu dyled neu i gefnogi'r gyllideb gyfalaf y gellir defnyddio derbyniadau cyfalaf, fel gwerthu asedau.

Felly, er enghraifft, pe baem yn gwerthu Swyddfeydd Dinesig, byddai'r arian yn incwm cyfalaf a dim ond er mwyn adfer dyled neu ar gyfer y gyllideb gyfalaf y gellid ei ddefnyddio. Ni ellid ei ddefnyddio ar gyfer costau rhedeg cyffredinol gofal cymdeithasol neu lyfrgelloedd neu wasanaethau eraill. Gall adfer dyled swnio fel opsiwn da, ond efallai y bydd rhaid i ni dalu cosbau sylweddol am dalu dyledion yn gynnar.

Mae pob cartref newydd sy’n cael ei adeiladu’n arwain at alw am ddarparu gwasanaethau ychwanegol, h.y. mwy o wastraff i'w gasglu, mwy o strydoedd i'w cynnal, efallai y bydd angen mwy o lefydd mewn ysgolion, mwy o alw am wasanaethau cymdeithasol, mwy o bleidleiswyr i’w cofrestru ac ati. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried faint o dreth gyngor y gallwn ei chasglu o bosib pan fydd yn pennu ein lefelau ariannu.

Cwestiynau Cyffredin yr Ymgynghoriad

Mae ymgynghoriad yn broses o roi/casglu gwybodaeth gyda thrigolion a rhanddeiliaid yn ystod cyfnod penodol o amser (gyda dyddiad dechrau a gorffen clir) ac mae'n llywio penderfyniad am gynnig, polisi neu wasanaeth newydd. Rydyn ni’n credu ei bod yn bwysig i drigolion gael dweud eu dweud a lleisio eu barn am sut caiff gwasanaethau eu rhedeg, gan sicrhau ein bod yn cadw mewn cysylltiad â'r hyn sydd ei angen ar ein trigolion.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i gasglu amrywiaeth eang o safbwyntiau gan gymaint o wahanol bobl a busnesau â phosib o bob rhan o'r fwrdeistref.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, caiff y canfyddiadau eu rhannu â'r Cabinet a'r Cyngor cyn gwneud penderfyniadau am y gyllideb ym mis Chwefror 2021.   

Bydd yr ymgynghoriad yn para am wyth wythnos, rhwng 19 Hydref a 13 Rhagfyr.  Trafodir y canfyddiadau yn y Cabinet ym mis Ionawr 2021. Bydd penderfyniadau'r gyllideb yn cael eu gweithredu o'r flwyddyn ariannol newydd, gan ddechrau ym mis Ebrill 2021

Cwestiynau Cyffredin am Gyllid y Cyngor

Mae'r Cyngor yn cael y rhan fwyaf o'i gyllid gan Lywodraeth Cymru drwy'r Grant Cynnal Refeniw a chyfran o Ardrethi Annomestig. Mae'n ategu hyn drwy gasglu'r dreth gyngor.
Y llynedd costiodd tua £271 miliwn i ariannu'r holl wasanaethau y mae'r cyngor yn eu darparu. Mae'r tabl isod yn dangos o ble daeth yr arian hwn?

Mae’r tabl yma’n dangos o ble mae cyllid y cyngor yn dod.
Ffynhonnell y cyllid Swm £
Grant cynnal refeniw gan Lywodraeth Cymru 145,354,407
Treth gyngor 79,001,854
Cyfran o ardrethi annomestig gan Lywodraeth Cymru 46,452,373
Cyfanswm y Cyllid 270,808,634

Mae’r graff isod yn dangos bod tua 29% o gyllid y cyngor yn dod o’r dreth gyngor.

Mae’r Cyngor yn gwneud dau fath o wariant – gwariant refeniw a gwariant cyfalaf.

Mae gwariant refeniw yn cynnwys gwariant ar gostau gwasanaethau o ddydd i ddydd gan gynnwys cyflogau staff, cynnal a chadw adeiladau a chyflenwadau cyffredinol, comisiynu ac offer.

Mae gwariant cyfalaf yn cynnwys gwariant ar asedau fel ffyrdd, ysgolion newydd, cynlluniau ailddatblygu a gwaith adnewyddu mawr ar adeiladau.

Mae’r tabl isod yn dangos sut neilltuwyd cyllid refeniw i feysydd gwasanaeth allweddol y llynedd:

Mae’r tabl yma’n dangos sut cafodd cyllid refeniw ei neilltuo i feysydd gwasanaeth allweddol y llynedd.
Maes Gwasanaeth Cost 
Addysg a Chefnogi Teuluoedd 21,347,200
Ysgolion 94,860,800
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 70,834,000
Cymunedau 25,331,000
Prif Weithredwr 18,609,000
Cyllidebau Ledled y Cyngor 39,826,634
Cyfanswm 270,808,634

Mae Cyllidebau Ledled y Cyngor yn cynrychioli cyllid na ellir ei briodoli’n uniongyrchol i unrhyw grŵp gwasanaeth penodol.

Mae hyn yn cynnwys pethau fel costau ariannu cyfalaf, cyllidebau atgyweirio corfforaethol a chynnal a chadw, ardollau, cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, ardoll prentisiaethau, costau sy'n gysylltiedig â phensiwn a phremiymau yswiriant.

Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu arian o'i chyllideb i gyllido pob awdurdod lleol ac wedyn mae'n dosbarthu cyfran o'r gronfa hon i awdurdodau lleol unigol. Penderfynir ar swm y Grant Cynnal Refeniw i’w dalu i gyngor unigol gan asesiad gwariant safonol (AGS), ac wedyn mae’n ystyried swm yr Ardrethi Annomestig (NDR) (a elwir hefyd yn ardrethi busnes) a swm y dreth gyngor mae pob awdurdod yn debygol o’i godi.

Mae’r dull o gyfrif AGS ar gyfer cynghorau’n defnyddio gwybodaeth sy’n adlewyrchu nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol pob ardal.

Yn 2019/20 dyfarnwyd £192 miliwn i gyngor bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn cyllid allanol cyfanredol (Grant Cynnal Refeniw a chyfran o Ardrethi Annomestig) a'i osod yn safle 16 allan o’r 22 awdurdod lleol wrth gymharu'r cynnydd mewn cyllid allanol cyfanredol â'r hyn a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol. Am fwy o wybodaeth am y cyllid a neilltuir i gynghorau yn 2019/20, cliciwch yma i edrych ar StatsCymru, gwefan Llywodraeth Cymru gyda data ystadegol manwl ar gyfer Cymru.

Mae refeniw yn cwmpasu costau rhedeg dyddiol parhaus y cyngor a'n gwasanaethau. Mae'r rhain yn cynnwys cyflogau, biliau cyfleustodau a gorbenion eraill, yn ogystal ag arian a delir i sefydliadau eraill sydd wedi'u contractio i ddarparu gwasanaethau. Mae costau refeniw yn parhau o flwyddyn i flwyddyn. Telir am y gwariant hwn gan yr incwm a dderbynnir gan bobl sy’n talu’r dreth gyngor, trethdalwyr busnes, y ffioedd a'r taliadau a godir am rai gwasanaethau ac o grantiau a dderbynnir gan Llywodraeth Cymru.

Mae gwariant cyfalaf yn cwmpasu gwariant ar asedau fel atgyweirio ysgolion, adnewyddu parciau a llyfrgelloedd, atgyweirio ffyrdd a buddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd. Bydd yr asedau hyn yn cynnig manteision i'r gymuned am sawl blwyddyn ac mae'r gwariant yn cael ei ariannu'n bennaf o fenthyca, grantiau cyfalaf a gwerthu tir ac adeiladau nad oes eu heisiau.

Cwestiynau Cyffredin – Treth Gyngor

Mae’r tabl yma’n dangos dadansoddiad o bob £1 o’r dreth gyngor o eiddo band D ar draws yr holl Gyfarwyddiaethau / Meysydd Cyllideb.
Cyfarwyddiaeth/Maes Cyllideb

2020-21

Dadansoddiad o bob £1 o’r dreth gyngor mewn eiddo Band D

Addysg a Chefnogi Teuluoedd 7p
Ysgolion 35p
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 25p
Cymunedau 10p
Prif Weithredwr   6p
Cyllidebau Ledled y Cyngor 17p
Cyfanswm £1

Mae'r dreth gyngor rydych chi’n ei thalu’n cyfrannu at yr holl wasanaethau mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn eu darparu. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

• Casgliadau ailgylchu a gwastraff
• Goleuadau stryd
• Gwasanaethau cymdeithasol
• Addysg
• Priffyrdd a chynnal a chadw priffyrdd
• Torri glaswellt mewn parciau, meysydd chwarae a mannau agored
• Trwyddedu
• Canolfannau hamdden
• Tai
• Cyngor cynllunio

Nid ydych yn gallu gofyn am ostyngiad i'ch treth gyngor am nad ydych yn defnyddio rhai o'r gwasanaethau mae'r cyngor yn eu darparu ar hyn o bryd. Rhaid darparu rhai gwasanaethau, fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ac rydyn ni i gyd yn cyfrannu atynt. Yn 2019/20 roedd y dreth gyngor oedd i gael ei chasglu yng nghyngor bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac eithrio'r praeseptau a gasglwyd ar gyfer cyrff eraill fel y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer De Cymru a phraeseptau lleol, yn £79 miliwn ac roedd y cyllid ar gyfer ysgolion yn unig yn dod i gyfanswm o tua £94 miliwn.

Mae’r dreth gyngor band D gyfartalog ar gyfer Cymru ar gyfer 2020-21 yn £1,667. Roedd y cynnydd yn nhreth gyngor band D ar gyfer 2020-21 yng Nghymru yn £62 neu 4.6% ar gyfartaledd. Y llynedd cynyddodd CBSP y dreth gyngor 4.5%.

Mae 20 o gynghorau tref a chymuned ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Maent yn darparu neu'n cynnal amrywiaeth o wasanaethau cymunedol lleol. Mae'r gwasanaethau y mae pob cyngor tref a chymuned yn eu darparu/cynnal yn wahanol yn seiliedig ar anghenion pob tref neu gymuned unigol. Mae rhai o'r gwasanaethau a ddarperir gan gynghorau tref a chymuned yn cynnwys: cynnal a chadw adeiladau a/neu ganolfannau cymunedol, adnewyddu llochesi bysiau lleol, darparu a chynnal a chadw gwelyau blodau, adnewyddu mannau chwarae, darparu hysbysfyrddau cymunedol, cynnal llwybrau troed, digwyddiadau Diwrnod y Cofio, a digwyddiadau Calan Gaeaf i blant, cynnal meinciau lleol, addurniadau Nadolig a llawer mwy.

Mae pob cyngor tref a chymuned yn pennu 'praesept' bob blwyddyn i ddarparu gwasanaethau lleol, a dangosir swm y praesept a godir gan eich cyngor tref neu gymuned lleol chi ar eich bil treth gyngor cyffredinol. Mae cyngor bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn casglu’r praesept ac wedyn yn talu eu cyfran i’r cynghorau tref a chymuned.

Mae’r tabl yma’n dangos faint o swm (£) Treth Gyngor Band D sy’n mynd tuag at braeseptau lleol.
Praeseptau Lleol Treth Gyngor Band D £
Cyngor Cymuned Bracla  40.45
Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr 107.28
Cyngor Cymuned Cefn Cribwr   72.81
Cyngor Cymuned Coety Uchaf                    27.84
Cyngor Cymuned Corneli    57.97
Cyngor Cymuned Llangrallo Uchaf 31.00
Cyngor Cymuned Llangrallo Isaf  40.11
Cyngor Cymuned Cwm Garw 52.58
Cyngor Cymuned Trelales 44.02
Cyngor Cymuned Llangynwyd Isaf 53.32
Cyngor Cymuned Llangynwyd Ganol     55.14
Cyngor Tref Maesteg 58.58
Cyngor Cymuned Merthyr Mawr   26.56
Cyngor Cymuned Castell-newydd Uchaf   28.72
Cyngor Cymuned Cwm Ogwr 36.00
Cyngor Tref Pencoed   46.31
Cyngor Tref Porthcawl   54.80
Cyngor Cymuned Y Pîl   47.88
Cyngor Cymuned Llansanffraid-ar-Ogwr 25.63
Cyngor Cymuned Ynysawdre   33.17

Mae cynghorwyr tref a chymuned yn cynnal busnes lleol yn wirfoddol ac nid ydynt yn cael cyflog. Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn amlinellu y caniateir i bob cyngor cymuned a thref wneud taliad hyd at uchafswm o £150 y flwyddyn i'w aelodau am gostau a delir mewn perthynas â defnyddio ffôn, technoleg gwybodaeth, defnyddiau traul ac ati. Yn seiliedig ar lefel yr incwm neu'r gwariant, gellir cynnig taliad o £500 i aelodau hefyd (i isafswm o 1 ac uchafswm o 5 aelod) i gydnabod cyfrifoldebau penodol.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am daliadau cyngor tref a chymuned ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cyfrifoldeb cyffredinol y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yw cynnal gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon drwy sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn atebol iddo. Mae'r Comisiynydd yn cefnogi'r Prif Gwnstabl i wneud Heddlu De Cymru y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau, ac mae'n chwarae rhan flaenllaw mewn diogelwch cymunedol a lleihau troseddu. Mae'r dyletswyddau'n cynnwys pennu'r blaenoriaethau plismona lleol, craffu, cefnogi a herio perfformiad yr heddlu a phennu cyllideb flynyddol yr heddlu a phraesept y dreth gyngor. Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn pennu 'praesept' bob blwyddyn a dangosir swm y praesept a godir ar eich bil treth gyngor cyffredinol. Mae cyngor bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn casglu’r praesept ac wedyn yn talu i Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.

Mae swm y Dreth gyngor y mae preswylydd yn ei thalu yn dibynnu ar ba fand y mae ei eiddo/annedd ynddo. Gosodir pob annedd mewn un o naw band gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA), asiantaeth annibynnol nad yw'n rhan o'r cyngor. Bydd y band y gosodir yr annedd ynddo’n seiliedig ar werth yr eiddo ar 1 Ebrill 2003. Fodd bynnag, mae’r VOA hefyd yn asesu eiddo pan ofynnir iddynt wneud hynny, fel yn ystod apêl Treth Gyngor neu adolygiad band.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am asiantaeth y swyddfa brisio.

Mae eiddo’n cael eu gosod mewn bandiau gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA), asiantaeth annibynnol nad yw'n rhan o'r Cyngor. Ers 2005, mae’r dreth gyngor wedi cael ei chyfrif gan ddefnyddio naw band prisio (bandiau A i I) a sefydlwyd yn 2005 gan ddefnyddio prisiau tai 2003.

Mae'r tabl isod yn amlinellu faint o anheddau sydd ym mhob band ar draws bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r tabl isod yn dangos nifer a chanran yr anheddau yn ôl band eiddo yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Ionawr 2020.

Mae’r tabl yma’n dangos nifer a chanran yr anheddau fesul band eiddo yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Ionawr 2020.
Band Nifer yr anheddau % yr anheddau yn y band    
A 10,105 15.89%
B 14,910 23.44%
C 14,245 22.39%
D 10,576 16.63%
E 7,658 12.04%
F 4,299 6.76%
G 1,438 2.26%
H 278 0.44%
I 100 0.16%

 

Yn 2019/20 casglodd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr 96.3% o holl daliadau'r dreth gyngor. Rydym yn parhau i weithio gyda thrigolion sy’n ei chael yn anodd talu efallai, a byddem yn annog unrhyw un sy'n ei chael yn anodd talu i gysylltu â ni. Rydym yn ceisio ei gwneud yn haws i’r trigolion dalu eu treth gyngor drwy hyrwyddo Fy Nghyfrif lle gallwch dalu eich treth gyngor yn hawdd ar-lein.

Efallai y bydd gan bobl ar incwm isel, neu’r rhai sy’n derbyn budd-daliadau cymwys, hawl i rywfaint o help gyda thalu'r Dreth Gyngor.

Gallwch hefyd ddewis talu eich treth gyngor dros 12 mis yn hytrach na 10, neu faint bynnag o fisoedd sydd ar ôl o’r flwyddyn hyd at fis Mawrth 2021. Os ydych chi eisiau newid eich dull talu neu sefydlu taliadau dros 12 mis.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am yr help sydd ar gael.

Y ffordd hawsaf o dalu eich treth gyngor yw drwy gofrestru gyda Fy Nghyfrif. Mae Fy Nghyfrif yn wasanaeth personol i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae cofrestru'n gyflym ac yn hawdd a'r cyfan sydd ei angen arnoch i ddechrau arni yw cyfeiriad e-bost. Mae defnyddio Fy Nghyfrif i gyflwyno eich ffurflenni’n golygu ein bod yn eu derbyn ar unwaith, sy'n arbed amser ac arian i chi.

Cliciwch yma i gofrestru am Fy Nghyfrif.

Chwilio A i Y