Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llwybrau Beicio Mynydd Darren Fawr

Mae dewis o ddau lwybr i’w dilyn ar lwybrau beicio Darren Fawr.

Llwybr Glengarw

Mae llwybr glas Glengarw ar gyfer beicwyr canolradd. Mae’r trac sengl troellog a’r ysgafelloedd crefftus yn hwyl ac yn gyffrous.

Pellter: 3km

Dringfa: 100m

Amser: 30 munud

Llwybr Gellideg

Mae llwybr du Gellideg ar gyfer beicwyr profiadol. Mae’n cynnig dringfa serth, yn ogystal â disgyniad amrywiol a chyffrous. Mae’n cynnwys ysgafelloedd, tyllau mawr, cwympiadau oddi ar slabiau a nodweddion creigiau technegol.

Pellter: 3.2km

Dringfa: 200m

Amser: 30 i 60 munud

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae digon o le parcio am ddim ym maes parcio Parc Calon Lân ger Railway Terrace, Blaengarw, CF32 8AT.

Chwilio A i Y