Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trwydded masnachwr stryd

Newid, adnewyddu neu wneud cais am drwydded ar-lein

Gweld ein Polisi Masnachu Stryd yma.

Cyflwyno cais am ganiatâd masnachu stryd all-lein

Cysylltwch â’r adran drwyddedu am ffurflen gais ar y manylion isod.

Cyswllt

Adran Drwyddedu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643643
Cyfeiriad: Swyddfeydd Dinesig, Angel Street, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Os ydych yn masnachu ar y stryd, gallai fod angen caniatâd masnachu stryd arnoch.

Wrth wneud cais, rhowch wybodaeth benodol gan gynnwys manylion ynghylch y stryd, y diwrnodau a’r amserau rydych yn eu dymuno masnachu. Gallai fod angen i chi gynnwys dau ffotograff hefyd. Rhaid i fasnachwyr gydymffurfio ag unrhyw amodau a atodir i drwydded.

Rhaid i chi fod dros 17 oed i ddal trwydded.

Mae er budd y cyhoedd fod awdurdodau yn prosesu ceisiadau cyn eu caniatáu. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod perthnasol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r awdurdod. Gallwch wneud hyn ar-lein os gwnaethoch gais drwy’r UK Welcomes Service, neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

Yn y lle cyntaf, cysylltwch â ni ar y manylion isod.

Yn y lle cyntaf, cysylltwch â:

E: licensing@bridgend.gov.uk

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Yr Is-adran Trwyddedu
Swyddfeydd Dinesig
Angel Street
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB

Wrth gwyno, cysylltwch yn y lle cyntaf â’r masnachwr eich hun, yn ddelfrydol drwy lythyr â phrawf dosbarthu. Os nad yw hynny yn gweithio a’ch bod yn y DU gall Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth helpu. Y tu allan i’r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (UK European Consumer Centre).

Os oes gennych gŵyn sy’n ymwneud â niwsans sŵn, hylendid bwyd neu gwynion defnyddwyr eraill, anfonwch e-bost at puplicprotection@bridgend.gov.uk.

Chwilio A i Y