Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trwydded casgliadau stryd

Gwneud cais ar-lein

 

Nodwch mai polisi’r Cyngor yw rhoi un drwydded ar gyfer un ardal y dydd.

Ffurflenni cais ar gyfer casgliadau stryd

Anfonwch ffurflenni i:

Cyswllt

Adran Drwyddedau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643643
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Gwybodaeth am drwyddedau casgliadau stryd

I gasglu arian neu werthu nwyddau ar y stryd at ddibenion elusennol yng Nghymru a Lloegr, bydd angen trwydded casgliadau stryd arnoch chi gennym ni.

Gan ddibynnu ar fath a lleoliad eich casgliad, efallai y bydd angen i chi gael caniatâd gan asiantaethau neu sefydliadau eraill cyn gwneud cais.

Crynodeb o’r rheoliadau

Gweler crynodeb o reoliadau'r drwydded hon yma.

Bydd cydsyniad mud yn berthnasol

Cewch chi gymryd bod eich cais wedi’i gymeradwyo os nad ydych chi wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.  

Noder mai 28 diwrnod yw’r cyfnod cwblhau targed yn achos ceisiadau am drwyddedau casgliadau stryd.

Os bydd eich casgliadau arfaethedig yn digwydd ar ddyddiad penodol, dylech chi gysylltu â ni i ofyn p'un a yw'r dyddiad hwn ar gael cyn cyflwyno cais.

Anfonwch y dogfennau perthnasol atom ni o leiaf 28 diwrnod cyn dyddiad arfaethedig y casgliad.

Chwilio A i Y