Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Hysbysiadau digwyddiad dros dro

Mae Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro yn rhoi hawl i safle/clwb gyflenwi alcohol, adloniant rheoledig a lluniaeth hwyrnos dros dro.

 

 

Gwneud cais all-lein am Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro

Er mwyn cyflwyno Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro, bydd angen i ddefnyddiwr y safle wneud y canlynol:

  1. Cwblhau a chyflwyno’r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro yn ddeublyg i’r Adran Trwyddedu o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.
  2. Talu’r ffi.
  3. Cyflwyno copi o’r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro i Brif Swyddog yr Heddlu ac i Adran Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor ar yr un pryd.

Sylwch y gall yr Heddlu a’r Adran Gwarchod y Cyhoedd wrthod y cais am Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro dan yr amcanion trwyddedu. Hefyd, nid yw penwythnosau na gwyliau’r banc, dyddiad y digwyddiad na’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad yn cael eu hystyried yn ddiwrnodau gwaith.

Y cyfeiriadau ar gyfer cyflwyno copïau o’r hysbysiad yw:

 

Cyswllt

Yr Uwch-arolygydd (Trwyddedu)

Heddlu De Cymru
Cyfeiriad: Gorsaf Heddlu Ffordd y Frenhines, Ffordd y Frenhines, Stad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3UT.

Adran Gwarchod y Cyhoedd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyfeiriad: Swyddfeydd Dinesig, Angel Street, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Bydd yr Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro yn cael ei gydnabod gan yr Adran Trwyddedu cyn ei ddychwelyd i ddefnyddiwr y safle.

Cyfyngiadau’r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro

Mae gwahanol gyfyngiadau’n weithredol. Gallwch fwrw golwg ar brif gyfyngiadau’r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro yma.

Eithriadau a chyngor ar gyfer Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro

Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr eithriadau o ran cyflwyno Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro ar wefan Llywodraeth y DU.

I ddarllen canllawiau mwy manwl, gweler y Ffurflen Hysbysiad Dros Dro. Mae nodiadau ar gefn y ffurflen a bydd rhaid i’r unigolyn sy’n cyflwyno’r hysbysiad ddarllen y nodiadau hyn cyn y gellir cwblhau’r cais.

Chwilio A i Y