AGB canol tref Pen-y-bont ar Ogwr - canlyniadau pleidleisio
Derbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fel awdurdod bilio, rybudd gan Ardal Gwella Busnes CF31 Ltd yn gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gynnal Pleidlais Newid yr AGB o dan Reoliadau Ardaloedd Gwella Busnes (Cymru) 2005 a Deddf Llywodraeth Leol 2003.
Ar ôl derbyn cais i ddal Bleidlais Newid yr AGB gan yr awdurdod bilio, rhoddodd Deiliad y Bleidlais, sef Swyddog Canlyniadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyfarwyddyd i UK Engage i gynnal Bleidlais Newid yr AGB ar eu rhan. Rhedwyd y Bleidlais Newid yr AGB fel pleidlais bost.
Cyhoeddwyd canlyniad Bleidlais Newid yr AGB ddydd Gwener 20 Medi 2019. Nifer y pleidleisiau a fwriwyd yn y balot oedd 81 gyda gwerth ardrethol cyfanredol o 3,280,700.
Nid yw'r cynigion newid ar gyfer yr Ardal Gwella Busnes ar gyfer Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi'u cymeradwyo. Nid oedd mwyafrif y pleidleisiau gan drethdalwyr busnes cymwys yn yr ardal AGB arfaethedig o blaid y cynnig, ond roedd mwyafrif o ran gwerth ardrethol cyfanredol.