Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgolion ailagor 2020 FAQ

Cwestiynau cyffredin ar gyfer blwyddyn ysgol 2021-2022

Y disgwyl yw y dylai ysgolion a lleoliadau weithredu mor normal â phosibl o ddechrau tymor yr hydref 2021-2022 (h.y. o 3 Medi 2021) ymlaen.

Bydd ysgolion yn sicrhau bod y mesurau canlynol ar waith:

• asesiadau risg cyfredol;

• mesurau hylendid da;

• dulliau awyru digonol;

• atal unigolion sydd â symptomau COVID-19 rhag mynychu.

Mae'n debygol y bydd rhywfaint o effaith COVID-19 hyd y gellir rhagweld. Fodd bynnag, y pwyslais yn awr yw sicrhau bod cyn lleied o effaith â phosibl.

Bydd y dulliau a ddefnyddir gan ysgolion a lleoliadau yn parhau i esblygu i ddarparu dysgu, yn yr ysgol ac mewn mannau eraill os bydd angen.

Ar lefel rhybudd sero, bydd ysgolion a lleoliadau sy'n gweithio gyda'r awdurdod lleol yn cymryd camau rhesymol i amddiffyn disgyblion, staff ac eraill rhag COVID-19 yn eu safleoedd, gan gynnwys cynnal asesiadau risg COVID-19 penodol ar gyfer eu hadeiladau.

Gall disgyblion barhau i fynd i'r ysgol oni bai:

• bod ganddynt unrhyw symptomau COVID-19;

• eu bod wedi cael gwybod y dylent hunanynysu gan swyddog Profi, Olrhain a Diogelu (TTP); a/neu

• eu bod nhw eu hunain wedi cael prawf COVID-19 positif.

Caiff yr adran hon ei diweddaru wrth i wybodaeth ddod ar gael.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bennu lefel risg gyffredinol i Gymru.  Os bydd TTP, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r awdurdod lleol, drwy wybodaeth leol, yn asesu bod y lefel risg ar gyfer ysgol /lleoliad yn wahanol i'r lefel risg genedlaethol oherwydd clwstwr er enghraifft, byddant yn gweithio gyda'r ysgol/lleoliad i adolygu eu hasesiad risg a rhoi ymyriadau cymesur ychwanegol wedi'u teilwra ar waith.

Byddai unrhyw benderfyniad i argymell ymyriadau wedi'u teilwra fel gorchuddion wyneb neu weithredu grwpiau cyswllt yn cael ei wneud mewn trafodaeth ag iechyd y cyhoedd, TTP a'r awdurdod lleol.  Gellir amrywio'r ymyriadau hyn fesul achos.

Yr egwyddor sylfaenol o hyd yw mai'r ffordd fwyaf effeithiol o atal trosglwyddo COVID-19 mewn ysgolion a lleoliadau yw atal heintiau rhag dod i mewn i'r lleoliad. Os oes unrhyw un yn profi'n bositif am COVID-19 neu os oes ganddo ef neu hi unrhyw un o brif symptomau COVID-19 dylai hunanynysu a pheidio â mynd i'r ysgol/lleoliad.

Os oes sawl achos o COVID-19 mewn ysgol/lleoliad, bydd arbenigwyr o bob rhan o'r GIG, gan gynnwys TTP, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r awdurdod lleol (Tîm Rheoli Digwyddiadau) yn cydweithio i atal trosglwyddo parhaus o fewn yr ysgol.  Bydd timau TTP rhanbarthol yn penodi arweinydd clir ar gyfer ymchwilio i glwstwr sy'n gweithio gyda phennaeth yr ysgol/lleoliad (neu ddirprwy enwebedig). Darperir cyngor sy'n seiliedig ar asesu pob sefyllfa unigol i gefnogi'r ysgol i atal lledaeniad pellach drwy ddefnyddio ymyriadau ychwanegol wedi'u teilwra.

Bydd timau TTP yn parhau yn gyfrifol am gysylltu â phob achos positif a chasglu gwybodaeth am eu cysylltiadau agos o fewn a thu allan i'r ysgol/lleoliad.

Nid yw Llywodraeth Cymru bellach yn argymell defnyddio gorchuddion wyneb yn rheolaidd yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer staff na dysgwyr.  Bydd ysgolion a lleoliadau yn pennu eu defnydd mewn ardaloedd lle mae'n debygol y bydd mwy o gymysgu cymdeithasol, fel mewn ardaloedd cymunedol, mewn trafodaeth â'r awdurdod lleol. 

Pan wneir penderfyniad i ddefnyddio gorchuddion wyneb drwy asesiadau risg ysgol unigol, dylai'r gorchudd wyneb fod yn orchudd wyneb amlddefnydd y gellir ei ailgylchu, o ansawdd uchel, tair haen y mae'n rhaid ei ddefnyddio'n gywir h.y. gorchuddio'r geg a'r trwyn, gan sicrhau hylendid dwylo cyn ei wisgo ac ar ôl ei dynnu.

Bydd ysgolion yn sicrhau bod digon o finiau gwastraff ar safleoedd ar gyfer y disgyblion hynny sy'n dewis defnyddio gorchuddion wyneb untro.

Mae angen i ddisgyblion ym Mlwyddyn 7 ac uwch wisgo gorchuddion wyneb o hyd wrth deithio ar gerbydau cludiant i’r ysgol.

Na fydd.

Nid oes angen grwpiau cyswllt/swigod mwyach.

Bydd pob dysgwr yn dychwelyd i'w ysgol neu leoliad yn nhymor yr hydref oni bai fod ganddo reswm meddygol/iechyd dros beidio â gwneud hynny.

Os nad yw dysgwr yn gallu mynychu lleoliad ffisegol yr ysgol, mae'n hanfodol bod yr ysgol yn parhau i ymgysylltu'n rheolaidd â'r dysgwr o bell. Dylai ysgolion a lleoliadau gadw cofnod o bresenoldeb a dylai teuluoedd roi gwybod i’w hysgol os nad yw eu plentyn yn gallu mynychu ac egluro'r rheswm dros hyn er mwyn galluogi'r ysgol i gofnodi presenoldeb yn gywir. Bydd hyn yn helpu ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy'n dychwelyd i'r ysgol, a deall unrhyw rwystrau sy'n eu hwynebu, a nodi unrhyw gymorth pellach sydd ei angen. Bydd yn hanfodol bod pob dysgwr yn ymgysylltu â'r ysgol a bod unrhyw bryderon ynghylch ymgysylltu, neu les dysgwr, yn cael eu datrys ar unwaith. Gall y Gwasanaeth Lles Addysg, ochr yn ochr â’r gwasanaethau Cymorth Cynnar, helpu yn y sefyllfaoedd hyn.

Mae'n bwysig bod pob dysgwr, ei deulu a staff yn dilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru yng nghyswllt y feirws ac ni ddylai dysgwyr na staff fynychu ysgolion /lleoliadau o dan unrhyw amgylchiadau os ydynt:

• yn teimlo'n sâl, bod ganddynt unrhyw un o'r tri symptom COVID-19 a nodwyd (peswch parhaus newydd, neu dymheredd uchel neu golli neu newid i’w synnwyr blasu neu arogli) neu eu bod wedi profi'n bositif am COVID-19 yn ystod y 7 diwrnod diwethaf; neu

• yn byw mewn cartref neu'n rhan o aelwyd estynedig gyda rhywun sydd â symptomau COVID-19 neu sydd wedi profi'n bositif am COVID-19 yn ystod yr 14 diwrnod diwethaf.

Os yw rhieni/gofalwyr dysgwyr yn poeni am eu plant yn dychwelyd i'r ysgol, rydym yn argymell y dylai’r rhieni drafod hyn gydag ysgol/lleoliad eu plentyn.

Dylai ysgolion a lleoliadau fod yn glir gyda rhieni/gofalwyr bod rhaid i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol fod yn yr ysgol oni bai fod rheswm statudol yn berthnasol (e.e. os yw'r dysgwr wedi cael caniatâd i fod yn absennol, yn methu bod yn bresennol oherwydd salwch neu'n absennol am ddefodau crefyddol angenrheidiol).

Mae Cymorth Cynnar a Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau ar gael i blant a theuluoedd sydd angen cymorth neu ddiogelu.

Gall gwasanaethau Cymorth Cynnar ddarparu cymorth sy'n gysylltiedig â rhianta, lles, cwnsela, cyngor ariannol a chyflogaeth/hyfforddiant, pe bai angen hynny ar deuluoedd.

Mae gwasanaethau Cymorth Cynnar yn gweithio'n agos gydag ysgolion a gwasanaethau eraill gan gynnwys rhieni/gofalwyr, a all gyfeirio plant a theuluoedd at gymorth drwy:

earlyhelp@bridgend.gov.uk

Os oes pryderon diogelu, rhaid cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol drwy:

mashcentra@bridgend.gov.uk

Penderfyniad corff llywodraethu yw'r gofyniad i ddisgybl wisgo gwisg ysgol.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru bellach yn annog pob ysgol i ddychwelyd at eu polisïau gwisg arferol oherwydd gall gwisg chwarae rôl werthfawr wrth gyfrannu at ethos ysgol a gosod naws briodol.

Bydd. 

Bydd gan bob ysgol asesiadau risg cynhwysfawr yn eu lle.

Mae pob rhiant yn cael cyngor i beidio ag anfon eu plentyn i'r ysgol os oes ganddo symptomau COVID-19 ac mae trefniadau tebyg ar waith ar gyfer staff. Bydd gan ysgolion ganllawiau ar sut i ddelio ag unrhyw un sy'n mynd yn sâl tra yn yr ysgol ac yn arddangos symptomau COVID-19, gan gynnwys ynysu, goruchwylio a gofynion glanhau ychwanegol.

Gall disgyblion wisgo gorchuddion wyneb ar yr amod eu bod hwy eu hunain yn gallu eu gwisgo a'u tynnu'n iawn, eu storio (os gellir eu hailddefnyddio) neu gael gwared arnynt mewn bin.

Na fydd.

Ni fydd y meini prawf cymhwysedd yn newid oherwydd o sefyllfa bresennol.

Bwriad yr awdurdod lleol yw y bydd yr holl gludiant ysgolion yn gweithredu fel arfer o ddechrau tymor yr hydref.

Bydd yr awdurdod lleol yn parhau i gymryd agwedd ‘dim goddefgarwch’ tuag at ymddygiad disgyblion ar gludiant ysgol er mwyn sicrhau diogelwch disgyblion a staff trafnidiaeth.

Gellir gwrthod teithio yn y dyfodol i unrhyw blentyn sy'n dangos ymddygiad gwael, yn peryglu eraill neu ddim yn dilyn cyfarwyddiadau gan staff trafnidiaeth, er enghraifft, i eistedd.

Mae'n ofynnol i bob disgybl oedran uwchradd (Blwyddyn 7 ac uwch) wisgo gorchudd wyneb ar gludiant pwrpasol o'r cartref i'r ysgol. Nid yw'n ofynnol i ddisgyblion oedran ysgol gynradd wisgo gorchudd wyneb.

Bydd yn ofynnol i rieni/gofalwyr disgyblion Blwyddyn 7 ddarparu gorchudd wyneb priodol i'w plentyn ar gyfer eu taith gyntaf gan na fydd disgyblion yn cael teithio heb un.

Mae ysgolion unigol yn cadw stoc o orchuddion wyneb a byddant yn eu darparu ar gais.

Ni argymhellir i ddisgyblion â chyflyrau meddygol neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol wisgo gorchudd wyneb ond gallant wneud hynny os ydynt yn dymuno.

Bydd pob dysgwr cymwys yn derbyn llythyr gan Dîm Cludiant Ysgolion yr awdurdod lleol cyn dechrau'r flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi 2021.

Nid oes unrhyw ofyniad i gynnal grwpiau cyswllt/‘swigod’ ar drafnidiaeth ysgol ar yr amod bod grŵp cyson o ddysgwyr yn teithio ar yr un bws bob dydd maent yn mynychu.

Os yw'r capasiti yn caniatáu, bydd pellter cymdeithasol yn cael ei gadw rhwng dysgwyr, neu grwpiau o ddysgwyr, a rhwng gyrwyr / cynorthwywyr teithwyr, neu hebryngwyr, ar wasanaethau cludiant cartref i ysgol pwrpasol a ddarperir gan yr awdurdod lleol.

Efallai y darperir cerbyd arall i rai plant ee bws mini neu dacsi yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol neu i ddiwallu anghenion unigol.

Mae ysgolion yn gyfrifol am weithredu cynlluniau seddi ar bob cerbyd cludiant ysgol mawr ee bysiau mawr. Felly, gall ysgolion ganiatáu i frodyr a chwiorydd neu ddisgyblion o'r un cartref (sy’n byw gyda'i gilydd yn yr un eiddo) eistedd gyda'i gilydd. Nid yw'r trefniant hwn yn berthnasol i ddisgyblion meithrin, gan nad yw'r rhain bellach yn gallu defnyddio bysiau ysgol mawr. Bydd plant meithrin yn cael cynnig lle ar fws mini pwrpasol neu mewn tacsi.

Mae angen i oedolyn cyfrifol fynd gyda dysgwyr mewn ysgolion cynradd sy'n gymwys i gael cludiant o'r cartref i'r ysgol i'w arhosfan bws agosaf oni bai fod ganddo drefniant ymlaen llaw gyda'r awdurdod lleol i gael ei eithrio.

Nid oes angen mynd â dysgwyr ysgolion uwchradd i'r arhosfan bws / safle codi.

Rhaid i bob dysgwr yn yr ysgol gynradd gael ei dderbyn yn ei arhosfan bws / safle codi gan oedolyn cyfrifol ar ddiwedd y diwrnod ysgol, oni bai fod ganddo drefniant ymlaen llaw gyda'r awdurdod lleol i gael ei eithrio.

Nid oes unrhyw ofyniad statudol i ddarparu hebryngwyr, er y bydd yr awdurdod lleol yn asesu anghenion dysgwyr ac yn pennu priodoldeb ac argaeledd hebryngwyr ym mhob achos.

Ydi.

Gohiriwyd y gofyniad hwn ar gyfer blwyddyn ysgol 2020-2021 ond bydd yn cael ei gyflwyno eto ar gyfer blwyddyn ysgol 2021-2022 gan ddechrau ar 2 Medi 2021.
Fodd bynnag, bydd cyfnod gras o bythefnos i roi amser i ddisgyblion dderbyn eu tocynnau newydd. Bydd y cyfnod gras yn dod i ben ar 17 Medi.

Gwrthodir mynediad i ddisgyblion ysgolion uwchradd nad ydynt yn cyflwyno eu tocyn mynediad i gerbyd cludo ysgol ar ôl yr amser hwn. Cyfrifoldeb rhieni/gofalwyr yw sicrhau bod gan eu plentyn ei docyn bws gydag ef bob amser a threfnu’r daith i'r ysgol os yw gyrrwr yn gwrthod mynediad i'w gerbyd cludo i’r ysgol.

Mae’r cynllun ‘talu am le’ wedi’i atal dros dro nes bod eglurder pellach ar eithrio cerbydau cludiant ysgol o dan y Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSVAR) o fis Ionawr 2022.

Siaradwch â'ch plentyn am gadw pellter cymdeithasol, hylendid ac ymddygiad da wrth ddefnyddio cludiant ysgolion. Mae'n bwysig iawn bod plant yn mynd ar drafnidiaeth ysgol ac yn dod oddi arni’n ddigynnwrf ac yn ddiogel ac yn eistedd bob amser.

Dylid dilyn unrhyw gyfarwyddyd gan yrrwr y bws neu’r hebryngwr (os caiff cyfarwyddyd ei roi). Ni oddefir unrhyw ymddygiad gwael a gall unrhyw blentyn sy'n peryglu preswylydd arall golli ei hawl i gludiant am ddim.

Prydau ysgol

Ar yr amod bod mesurau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn oddi ar y safle ac y cedwir at safonau hylendid personol llym wrth ddychwelyd i'r ysgol, nid oes unrhyw reswm dros wahardd symud oddi ar y safle.

Bydd.

Dylai clybiau brecwast weithredu fel arfer o ddechrau tymor yr hydref. Fodd bynnag, efallai y bydd angen ychydig wythnosau ar ysgolion i adfer y ddarpariaeth. Cysylltwch â'ch ysgol i gadarnhau'r trefniadau.

Bydd.

Fodd bynnag, efallai y bydd angen i ysgolion unigol gyfyngu ar y dewisiadau ar y fwydlen am gyfnod byr.

Mae hwn yn benderfyniad a fydd yn cael ei wneud gan ysgolion unigol ac felly fe'ch cynghorir i gysylltu ag ysgol eich plentyn yn uniongyrchol.

Bydd deiet arbenigol feddygol ar gael i'ch plentyn, ond bydd disgwyl i rieni roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r ysgol am unrhyw newidiadau i ddeiet arbenigol a ddarparwyd yn flaenorol, er mwyn sicrhau y gellir hysbysu'r Gwasanaeth Arlwyo cyn i'ch plentyn fynychu. 

Byddant.

Bydd ysgolion unigol yn cysylltu â'r darparwr llaeth i ailddechrau eu darpariaeth llaeth ysgol am ddim ar gyfer dechrau tymor yr hydref.

Bydd.

Fodd bynnag, bydd angen i rieni/gofalwyr sicrhau bod digon o falans ar gyfrif eu plentyn. Os nad yw’r rhieni wedi derbyn e-bost diweddar gyda balans cyfrif eu plentyn, gallant gysylltu â gweinyddwr yr ysgol i ofyn am yr wybodaeth hon.

Mae’n annhebygol y bydd peiriannau ailwerthusoo arian parod mewn ysgolion uwchradd ar gael i ddechrau ac felly cynghorir rhieni/gofalwyr i gredydu cyfrifon prydau ysgol drwy’r swyddogaeth ‘Talu’ ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Y Gwasanaeth Cynhwysiant

Rydym yn aros am ganllawiau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth yn cynnig gweithgareddau a sgyrsiau dros y ffôn, ac yn cyfeirio plant at gymorth penodol.

Bydd adolygiad ddiwedd mis Medi. Bydd trafodaethau unigol yn cael eu cynnal â’r teuluoedd sy’n defnyddio’r cylch chwarae synhwyraidd.

Ar hyn o bryd, rydym yn archwilio’r gwahanol bosibiliadau gan gynnwys ‘sesiynau galw heibio’ a defnyddio Microsoft Teams i gynnal sesiynau un i un o bell gyda theuluoedd os bydd angen.

Bydd ffurflenni cais ar gyfer darpariaeth arbenigol yn cael eu hanfon ym mwletin wythnosol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd ar ddechrau tymor yr hydref.  Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 31 Hydref 2020. Bydd rhagor o fanylion am wneud cais electronig a drwy’r post ar gael ym mis Medi.

Byddant.

Bydd cynorthwywyr SNSA yn gallu cwblhau eu horiau contract mewn dwy ysgol (ond dim mwy na dwy) mewn un diwrnod.

Bydd.

Mae adolygiadau wedi’u cynnal yn llwyddiannus o bell yn ystod y cyfnod clo. Bydd y rhain yn parhau i gael eu cynnal o bell yn ystod tymor yr hydref os bydd modd, a hynny er mwyn lleihau’r perygl o drosglwyddo’r feirws a rhag i staff o’r tu allan i’r ysgol ddod i gysylltiad â grwpiau cyswllt yn ddiangen.

Rydym yn dal yn aros am ragor o ganllawiau gan Lywodraeth Cymru ond, ar hyn o bryd, nid yw’r broses na’r amserlen wedi newid. Fodd bynnag, mae’n bosibl na fu modd cynnal asesiadau uniongyrchol, ac efallai y bydd angen casglu rhagor o wybodaeth yn ddiweddarach, os bydd hynny’n briodol.

Chwilio A i Y