Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pobl â nyth wag

Mae pobl sydd â ‘nyth wag’ yn gwneud gofalwyr maeth gwych

Os yw pobl eisiau llenwi'r bwlch y gall nyth wag ei greu, mae maethu’n ffordd ddelfrydol o wneud hynny. Mae cynnig cartref i blentyn yn weithred anhunanol mewn sawl ffordd, ond gall hefyd greu llawer iawn o foddhad a theimlad o gyflawni i rieni unwaith y bydd eu plant eu hunain wedi 'hedfan y nyth'.

Mae llawer o blant, heb unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, yn cael eu hamddifadu o brofi amgylchedd sy’n galluogi iddynt ddatblygu i fod yn bobl ifanc annibynnol a hyderus, yn barod i symud ymlaen i gam nesaf eu bywyd. 

Mae maethu’n ymwneud â darparu amgylchedd teuluol diogel ar adeg dyngedfennol ym mywyd plentyn neu berson ifanc. Bydd y rhai sydd eisoes wedi magu teulu sydd wedi tyfu a symud ymlaen yn gwybod sut beth yw gofalu am blentyn drwy'r ystod nodweddiadol o ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag oedran.

Bydd y rhai sydd wedi magu eu teuluoedd eu hunain eisoes wedi profi'r gwahanol sgiliau sydd o fudd i chi wrth ddod yn ofalwr maeth. Amynedd, dealltwriaeth ac ymrwymiad yw'r hyn sydd wir yn helpu i gefnogi person ifanc i wynebu’r heriau sy’n bodoli heddiw.

Ymunwch â'n sesiynau cwrdd a chyfarch rhithwir!

Gallwch gael gwybod mwy am faethu drwy fynychu un o'n sesiynau cwrdd a chyfarch rhithwir, sy'n cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Sul 25 Hydref am 10am

Bydd gennym ofalwr maeth a'r tîm maethu ar gael i ateb eich holl gwestiynau.

Bydd angen i chi gofrestru eich diddordeb drwy e-bostio: bridgendfostercare@bridgend.gov.uk a bydd dolen i'r cyfarfod yn cael ei hanfon atoch chi.

Dod yn ofalwr maeth

Mae gofalwyr maeth yn dod o bob cefndir, yn union fel y plant sydd angen gofal.

Mae'r gofalwyr maeth gorau'n cael eu hysgogi gan ddiddordeb didwyll mewn gofalu am blant a phobl ifanc, gyda’u traed ar y ddaear a chan ddefnyddio eu synnwyr cyffredin wrth ddelio â realiti bywyd.

Mae angen gofalwyr maeth o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd a phrofiadau ond sydd i gyd yn rhannu un peth – yr ymrwymiad i ddatblygu gallu a chryfder plentyn, gan sicrhau bod ei botensial yn cael ei gyflawni.

I ddod yn ofalwr maeth bydd arnoch angen:

  • Bod yn 21 oed o leiaf
  • Ystafell wely sbâr
  • Amser i’w roi

Prin yw'r amgylchiadau sy'n atal rhywun yn awtomatig rhag bod yn ofalwr maeth, felly peidiwch â diystyru eich hun.

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch chi, mae hyfforddiant parhaus yn cael ei ddarparu, a hefyd cymorth rheolaidd gan y tîm maethu. Os oes gennych chi unrhyw amheuon, mae croeso i chi gysylltu â ni i gael gwybod a fyddai eich sefyllfa'n eich atal rhag bod yn ofalwr maeth.

Y tîm maethu

Ffôn: 01656 642674

Chwilio A i Y