Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwybodaeth i ddarparwyr

Gwybodaeth, canllawiau a hyfforddiant i ddarparwyr gofal plant ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cofrestru i ddod yn ddarparwr Cynnig Gofal Plant

I ddod yn ddarparwr Cynnig Gofal Plant i Gymru, mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW).

Dod yn ddarparwr addysg gynnar

I gael rhagor o wybodaeth ar sut i ddod yn ddarparwr addysg gynnar, cysylltwch â:

foundation.learning@bridgend.gov.uk

Hyfforddiant

Cysylltwch â:  childcareteam@bridgend.gov.uk am ragor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen archebu.

 

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion sy'n gweithio yn y sector plant.  Mae'r hyfforddiant yn bodloni'r safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer gofal plant a reoleiddir.  Yn ystod y 12 awr, bydd ymgeiswyr yn ymgymryd â lefel uchel o hyfforddiant, er mwyn eu galluogi i ymdrin ag achosion cymorth cyntaf brys mewn perthynas â babanod a phlant.  Caiff tystysgrif ei chyflwyno sy'n ddilys am 3 blynedd.

Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno mewn amgylchedd dosbarth gyda gwaith grŵp a gweithgareddau ymarferol. Bydd llyfrau gwaith yn cael eu darparu, ac anogir ymgeiswyr i wneud nodiadau ychwanegol.  Mae cwblhau'r cwrs yn amodol ar arholiad ffurfiol ar ddiwedd y dydd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael tystysgrif gan Highfield Awarding Body for Compliance.  Mae'r Corff Dyfarnu ar gyfer y cymhwyster Diogelwch Bwyd yn gofyn i'r holl ymgeiswyr ddangos prawf hunaniaeth. 

  • Pasbort dilys;
  • Trwydded yrru cerdyn-llun y DU wedi'i llofnodi;
  • Cerdyn Gwarant Dilys wedi'i gyflwyno gan Luoedd Ei Mawrhydi, yr Heddlu;
  • Cerdyn adnabod ffotograffig arall (cerdyn adnabod gweithiwr, cerdyn adnabod myfyriwr, cerdyn teithio)
  • Cerdyn banc wedi'i lofnodi.

 

Fel arfer dda, dylai ymgeiswyr ymgymryd â'r cwrs hwn bob tair blynedd.

Nod y cwrs hwn yw cynnig dealltwriaeth fanwl i ymgeiswyr o Ddiogelwch Plant, yn benodol, mewn perthynas â'r systemau sy'n bodoli i ddiogelu plant a'u rolau o fewn y systemau hyn.  Bydd ymgeiswyr yn ennill dealltwriaeth fanwl a chlir o'r systemau sy'n bodoli i ddiogelu plant a'u rolau o fewn y systemau hyn.  Yn ogystal â hynny, bydd hyfforddiant ar y lefel hon hefyd yn rhoi dealltwriaeth i ymgeiswyr o ddeddfwriaeth ac arweiniad. 

 

Fel arfer dda, dylai ymgeiswyr ymgymryd â'r cwrs hwn o leiaf bob tair blynedd, neu'n fwy rheolaidd, yn ôl yr angen.

Bydd gan ymgeiswyr well dealltwriaeth o faterion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol o fewn y gweithle, a'u rôl wrth gydnabod, rhwystro a chofnodi risg, peryglon a damweiniau.  Diweddaru eich gwybodaeth o ddeddfwriaeth bresennol, sut i asesu a lleihau'r risg o dân a beth ddylech chi ei wneud os bydd tân.  Y gallu i gynnal asesiadau risg yn briodol mewn lleoliad gofal plant, bod yn gyfarwydd â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol a phwysleisio'r risg sy'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith a grŵp cleient.

Chwilio A i Y