Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Hebryngwyr a pherfformwyr sy’n blant

Gall fod angen trwydded berfformio ar blant ym myd adloniant. Mae gweithgarwch perthnasol yn cynnwys Teledu, theatr, modelu, sioeau dawns, pantomeimiau, grwpiau cerddoriaeth, a chwaraeon cyflogedig (boed yn broffesiynol neu’n amatur).

Bydd angen trwydded:

  • ar bob plentyn o adeg geni tan ddiwedd addysg orfodol, sef dydd Gwener olaf mis Mehefin y flwyddyn academaidd pan fyddant yn troi’n 16 oed
  • os codir ffi mewn cysylltiad â pherfformio, sy’n berthnasol boed y perfformwyr yn cael eu talu ai peidio
  • os bydd y perfformiad yn cymryd lle ar safle trwyddedig
  • os caiff y perfformiad ei recordio i’w ddarlledu neu i’w arddangos, megis ar deledu, radio, neu’r we

Caiff trwyddedau plant ym myd adloniant eu rheoleiddio dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.

Cais i fod yn Hebryngwr plant ym maes adloniant

Nid oes angen trwydded ar gyfer rhai mathau o berfformiadau. Mae eithriadau o’r fath yn berthnasol pan na chaiff taliad ei wneud i blant yn cymryd rhan mewn perfformiad neu i unrhyw barti mewn cysylltiad â hynny. Nid ydynt yn berthnasol i chwaraeon na modelu cyflogedig. Dyma’r eithriadau:

  • pan fo ysgol yn trefnu perfformiad
  • pan fo’r plentyn wedi perfformio am lai na phedwar diwrnod yn ystod y chwe mis diwethaf, a elwir y rheol pedwar diwrnod
  • os gall y trefnydd wneud cais am Gymeradwyaeth Grŵp o Blant (BOPA)

Mewn rhai achosion, gall trefnydd wneud cais am Gymeradwyaeth Grŵp o Blant (BOPA) gan yr awdurdod lleol lle y mae’r perfformiad/au yn digwydd. Mae BOPA yn cwmpasu grŵp o blant gyda’i gilydd heb fod angen trwyddedau unigol.

Dyma’r gofynion allweddol:

  • ni chaiff plant eu talu, ac ni fyddai disgwyl iddynt gael eu talu fel arfer
  • Gall y sefydliad ddangos bod ganddo systemau cadarn ac effeithiol i ddiogelu plant yn ystod ymarferion a pherfformiadau

Os bydd angen amser i ffwrdd o’r ysgol ar blentyn, nid yw’r eithriad hon yn berthnasol, a bydd angen trwydded unigol.

Gall awdurdod lleol osod amodau sy’n blaenoriaethu lles y plant a gall ddiddymu cymeradwyaeth os na chânt eu bodloni.

Ffurflen gais i gymeradwyo grŵp o blant fel eithriad i ofynion trwyddedu i berfformiad(au) i'w gynnal yn ffiniau

Mae’n rhaid i blant sy’n cymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus gael eu goruchwylio gan hebryngydd a gymeradwyir gan y cyngor. Mae eithriadau i hyn yn cynnwys plant sydd yng ngofal eu rhieni/gofalwyr, gwarchodwr cyfreithiol, neu, dan amgylchiadau penodol, athro.

Hebryngwyr:

  • yn gyfrifol am ddiogelu, cefnogi a hyrwyddo lles y plentyn
  • rhaid iddynt aros gyda’r plentyn bob amser
  • rhaid iddynt allu gweld y plentyn pan fydd ef ar y llwyfan, set neu’n perfformio
  • sicrhau bod y plentyn/plant yn cael eu goruchwylio’n briodol pan na fyddant yn perfformio, a’u bod yn cael digon o brydau bwyd, gorffwys a gweithgareddau hamdden
  • rhaid sicrhau y trefnir cyfleusterau newid addas gan y cwmni neu’r lleoliadau, ac ystafelloedd newid ar wahân ar gyfer bechgyn a merched hŷn na phump oed

Gall hebryngydd oruchwylio hyd at 12 o blant. Fodd bynnag, dan amgylchiadau penodol, efallai y byddwn yn penderfynu lleihau nifer y plant dan ofal yr hebryngydd er mwyn sicrhau bod yr holl blant yn cael eu diogelu’n iawn.

Caiff trwyddedau hebrwng eu rheoleiddio dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.

Mae ein proses gofrestru angen:

  • ffurflen gais wedi ei chwblhau
  • ffotograff maint pasbort
  • dau eirda safonol
  • tystysgrif gwiriad manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS/CRB), a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a chodir tâl amdani
  • cwblhau hyfforddiant Amddiffyn Plant

Gwneud cais am Drwydded Hebrwng

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chymorth Dysgwyr:

Ebost: pupilservices@bridgend.gov.uk
Ffôn: 01656 642 622

Chwilio A i Y