Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Rheoli arian pobl

Atwrneiaeth Barhaus (AB)

Mae Atwrneiaeth Barhaus yn cael ei hadnabod hefyd fel AB. Dogfen yw hon sy’n penodi person, ‘atwrnai’, i reoli eiddo a materion ariannol person arall, y ‘rhoddwr’.

Os nad yw’r rhoddwr yn gallu gwneud penderfyniadau ariannol, rhaid cofrestru AB cyn y gellir ei defnyddio. Os yw’n cael ei defnyddio eisoes, rhaid ei chofrestru cyn gellir parhau i’w defnyddio.

Nid oes modd creu AB newydd bellach. Ond os oes gan berson AB sydd wedi’i llunio cyn mis Hydref 2007, cofrestredig neu anghofrestredig, gellir parhau i’w defnyddio.

Mae Atwrneiaeth Arhosol (AA) wedi dod i gymryd lle AB yn awr. Dim ond penderfyniadau am eiddo a materion ariannol oedd AB yn caniatáu i bobl a benodwyd yn atwrnai eu gwneud ar ran rhoddwr. Mae’r AA newydd yn rhoi mwy o warchodaeth ac opsiynau.

Os oes gan rywun AB eisoes a galluedd o hyd, gall naill ai ei newid am AA Eiddo a Materion neu gadw’r AB. Hefyd gall wneud AA ychwanegol ar gyfer penderfyniadau lles personol. Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddarparu gwybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael. Mae hefyd wedi creu’r canllaw yma i Atwrneiaeth Barhaus.

Atwrneiaeth Arhosol

Daeth Atwrneiaeth Arhosol (AA) i gymryd lle Atwrneiaeth Barhaus (AB) ar 1 Hydref 2007. Mae AB sydd wedi’i llofnodi cyn y dyddiad hwnnw dal yn ddilys a gellir ei chofrestru. Ond mae’r AA yn fwy hyblyg. Mae gennych chi opsiwn i greu AA Eiddo a Materion Ariannol, AA Iechyd a Lles, neu’r ddwy.

Yn y ddau achos, ni all AA gael ei defnyddio gan yr atwrnai nes ei bod wedi’i chofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Yn wahanol i’r AB, mae’r AA yn gofyn i’r person sy’n gwneud yr AA fod wedi’i ardystio fel unigolyn sydd â galluedd i wneud hynny. Hefyd, rhaid iddo fod yn gwneud hynny heb fod o dan unrhyw bwysau neu gael ei dwyllo. Rhaid i ddarparwr y dystysgrif gwblhau datganiad i ddweud hyn yn yr AA newydd. Rhaid iddo ddatgan y canlynol:

  • ei fod wedi trafod yr AA gyda’r atwrnai
  • ei fod yn fodlon bod yr atwrnai’n deall cwmpas a phwrpas yr AA
  • nad yw o dan unrhyw bwysau i’w llunio

Mae gwefan y llywodraeth wedi creu canllaw defnyddiol ar Lunio a Chofrestru AA.

AA Eiddo a Materion Ariannol

Mae’r AA Eiddo a Materion Ariannol yn galluogi penodi atwrnai i reoli eich eiddo, cyllid a materion. Gellir gwneud hyn pan mae gennych alluedd i wneud eich penderfyniadau eich hun neu pan nad oes gennych alluedd. Hefyd mae’n cynnig opsiwn i roi i’ch Atwrnai bŵer i wneud penderfyniadau am rai o’ch materion ariannol neu eich eiddo, neu’r cyfan.

AA Iechyd a Lles

Mae AA Iechyd a Lles yn galluogi i chi benodi atwrnai i wneud penderfyniadau ar eich rhan ynghylch gofal iechyd a lles.

Os yw person wedi colli galluedd meddyliol eisoes i wneud penderfyniad am AA, ni allwch fwrw ymlaen â hi. Efallai y bydd rhaid i chi benodi penodai neu ddirprwy yn hytrach.

Penodai

Dyma drefniant gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ac maent yn penodi rhywun i weithredu ar ran person arall. Mae hyn yn digwydd pan nad oes gan berson alluedd i ddelio â’i fudd-daliadau. Er mwyn gwneud cais am fod yn benodai, bydd rhaid i chi gyflwyno ffurflen BF56 i’r DWP. Fel rheol, byddant yn ymweld â’r person i wneud yn siŵr ei fod angen penodai. Wedyn bydd yn cyhoeddi BF57 fel cadarnhad bod y penodai wedi cael ei ddyfarnu.

Mae cyfrifoldebau penodai’n cynnwys y canlynol:

  • canfod pa fudd-daliadau y mae gan y person hawl iddynt
  • llenwi a chyflwyno hawliadau am y budd-daliadau hyn
  • derbyn y budd-daliadau a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio er lles y person maent yn eu helpu, er enghraifft, talu eu biliau tŷ
  • rhoi gwybodaeth gyson i’r DWP am unrhyw newid yn amgylchiadau personol neu gyllid y person
  • ad-dalu unrhyw fudd-daliadau sydd wedi’u gordalu
  • rhoi i’r person lwfans personol os yw mewn cartref gofal

Nid oes gan benodai unrhyw awdurdod i ddelio ag unrhyw faterion ariannol eraill ar ran y person, fel y canlynol:

  • cael mynediad i’w gyfrifon banc
  • delio ag unrhyw broblemau gyda dyledion
  • llofnodi unrhyw ddogfennau cyfreithiol, fel cytundeb tenantiaeth

Os yw person yn cael anawsterau gyda rheoli ei fudd-daliadau, gallai aelod o’r teulu neu ffrind wneud cais am fod yn benodai iddo.

Gallwch ddarllen mwy am fod yn benodai ar ran person sy’n hawlio budd-daliadau ar wefan Llywodraeth y DU.

Os yw cyllid y person yn fwy cymhleth neu os oes angen mynediad i gyfrifon banc, ni fydd y trefniant hwn yn addas. Efallai y bydd rhaid i chi benodi dirprwy.

Dirprwyaeth

Mae dirprwy’n berson a benodir gan y Llys Gwarchodaeth yn Llundain. Mae’n delio ag eiddo a materion ariannol person arall sydd heb alluedd i ddelio â hwy ei hun.

I lawer o bobl, bydd y dirprwy’n aelod o’u teulu neu’n ffrind. Hefyd gallai’r teulu gyfarwyddo cyfreithiwr i wneud hyn ar eu rhan. Pan benodir dirprwy gan y Llys Gwarchodaeth, mae’n cyflwyno gorchymyn llys sy’n datgan pwerau’r dirprwy.

Gallai cyfrifoldebau’r dirprwy gynnwys y canlynol:

  • delio ag incwm person a thalu ei filiau
  • delio ag unrhyw broblemau dyled a cheisio eu datrys
  • gwerthu eiddo person
  • gwerthu car person ac eiddo personol arall, fel nwyddau neu ddodrefn tŷ
  • gwerthu cytundeb tenantiaeth ar ran person
  • delio â setliad ariannol yn dilyn ysgariad person

Rhaid i’r dirprwy gadw at Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, ac yn benodol, pum egwyddor statudol y Ddeddf. Dylai’r dirprwy gynnwys cymaint â sy’n rhesymol bosib ar y person wrth wneud penderfyniadau.

Pan mae angen dirprwy ond nad oes neb ar gael i gamu i’r rôl, gallwch wneud cais am Ddirprwy Panel.

Chwilio A i Y