Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwasanaethau i bobl â nam ar y synhwyrau

Mae gan ein Gwasanaeth Cefnogi’r Synhwyrau weithwyr arbenigol i gefnogi pobl sydd â nam ar y synhwyrau. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i bobl sydd:

  • yn fyddar, sy’n cynnwys pobl ddiwylliannol Fyddar ac sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel eu hiaith gyntaf yn gyffredinol
  • yn drwm eu clyw, sy’n cynnwys pobl sydd wedi colli’r clyw ac sy’n defnyddio lleferydd fel eu prif ffurf ar gyfathrebu yn gyffredinol
  • â lefelau amrywiol o golli’r golwg, boed ddall, rhannol ddall neu’n colli eu golwg
  • â nam deuol ar y synhwyrau, a elwir hefyd yn bobl fyddar a dall

Mae unigolyn yn cael ei ystyried yn fyddar a dall os yw ei gyfuniad o golli’r golwg a’r clyw yn achosi problemau gyda chyfathrebu, mynediad at wybodaeth a symudedd.

Mae’r Gwasanaeth Cefnogi’r Synhwyrau yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ymarferol amrywiol. Gallwch gael eich cyfeirio ar gyfer cefnogaeth synhwyraidd gan awdiolegydd, offthalmolegydd, optegydd neu feddyg teulu. Neu gallwch gael mwy o wybodaeth a chyfeirio eich hun neu rywun rydych yn bryderus amdano drwy gysylltu â Phwynt Mynediad Cyffredin (PMC) Pen-y-bont ar Ogwr isod:

Cyswllt

Pwynt Mynediad Cyffredin (Gwasanaethau’r Synhwyrau)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyfeiriad: Trem Y Môr, Heol Betws, Betws, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 8UN.

Testun Symudol: Tecstiwch ABC ac wedyn 07976322473
Ffacs: 01656 642300. Ysgrifennwch ‘Cefnogaeth/Atgyfeiriad Gwaith Cymdeithasol’ ar bennawd y ffacs.

Gwybodaeth gyswllt ar gyfer argyfyngau

Dim ond yn yr argyfyngau mwyaf difrifol a thu allan i oriau ddylid defnyddio’r manylion hyn.

Y Tîm Dyletswydd Argyfwng

Ffôn: 01443 849944

Ffacs: 01443 849955

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth gan gynnwys atgyfeiriadau ar gyfer plant, lawrlwythwch y daflen ffeithiau am wasanaethau synhwyraidd.

Chwilio A i Y