Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Asesiad a Chynllun Gweithredu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Crynodeb o’r asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Dyletswydd Digonoldeb Cyfleoedd Chwarae. Mae'r ddyletswydd hon yn berthnasol i awdurdodau lleol ac yn cydnabod pwysigrwydd chwarae yn natblygiad plant a phobl ifanc. O ganlyniad, mae’n rhaid i ni gynnal asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae yn seiliedig ar ansawdd a nifer yr opsiynau chwarae sydd i’w cael yn lleol. Mae ein canlyniadau yn llywio cynlluniau gweithredu blynyddol a dulliau o gydweithio i sicrhau dyfodol chwarae.

Mae’r materion lleol yn cynnwys:

  • mannau a lleoedd hygyrch i chwarae
  • opsiynau chwarae anffurfiol
  • gweithgareddau chwarae a hamdden strwythuredig

Hefyd, rydym yn cydnabod anghenion amrywiol y canlynol:

  • cymunedau gwledig
  • plant anabl a phobl ifanc anabl
  • pobl mewn cymunedau difreintiedig

Meysydd targed y cynllun gweithredu

  1. Sicrhau cyfleoedd chwarae gwell mewn ysgolion cynradd
  2. Gwella cyfleusterau chwarae mewn safleoedd strategol gydag offer cynhwysol pan fo'n briodol
  3. Llunio ystod eang o opsiynau yn ystod gwyliau ysgol gan gynnwys gweithgareddau cost isel neu ddi-dâl
  4. Datblygu dealltwriaeth y gymuned o ran digonolrwydd cyfleoedd chwarae a gwerth chwarae

 

Cysylltu

Chwarae a Blynyddoedd Cynnar

Rheolwr Llesiant

Chwilio A i Y