Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Priodasau

Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bopeth sydd ei angen i wneud eich diwrnod arbennig yn fythgofiadwy.

Oni bai eich bod yn priodi yn Eglwys Loegr neu’r Eglwys yng Nghymru drwy ostegion neu drwydded gyffredin, bydd angen i’r ddau ohonoch roi gwybod i’r cofrestrydd arolygol yn eich swyddfa gofrestru leol.

Mae’n rhaid i’r ddau ohonoch fod wedi byw yn yr ardal gofrestru yng Nghymru neu Loegr am o leiaf saith diwrnod cyn rhoi hysbysiad yn y swyddfa gofrestru.

Os ydych chi'ch dau yn byw yn yr un ardal, bydd angen i chi roi gwybod yn yr un swyddfa. Fodd bynnag, os ydych chi’n byw mewn ardaloedd cofrestru gwahanol, bydd angen i chi roi gwybod yn eich ardaloedd eich hun.

Trefnwch apwyntiad rhybudd o briodas

hysbysiad priodas yn ddilys am 12 mis. Golyga hyn na allwch roi hysbysiad o briodas mwy na 12 mis cyn dyddiad eich priodas. Dim ond drwy wneud apwyntiad mae modd rhoi hysbysiad o briodas.

Rhaid i chi roi hysbysiad o leiaf 28 diwrnod cyn y briodas. Rhaid i chi hefyd gael hawl i briodi gan y cofrestrydd arolygol ar neu cyn diwrnod y briodas.

Dogfennau y bydd angen i chi ddod gyda chi

I roi rhybudd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, byddwch angen:

  • Prawf o Genedligrwydd
  • Os ydych yn ddinesydd o Brydain:Pasbort Prydeinig dilys neu dystysgrif geni lawn (gyda manylion rhieni). Os cawsoch eich geni ar ôl 01 Ionawr 1983 ac nad oes gennych basbort bydd hefyd angen i chi ddod â thystysgrif geni eich mam neu basbort Prydeinig.
  • Os ydych yn ddinesydd Ewropeaidd:Pasbort dilys a rhaid i chi ddarparu eich cod gwirio Statws Preswylydd Sefydlog Dinasyddion yr UE. Gallwch wneud cais am hwn cyn yr apwyntiad drwy gwefan Llywodraeth y DU.
  • Os oes unrhyw un ohonoch yn wladolyn tramor:Cysylltwch â ni cyn eich apwyntiad. Mae tystiolaeth benodol iawn ar sail unigol y bydd ei hangen arnoch yn yr apwyntiad.
  • Tystiolaeth o gyfeiriad

Rhaid i’r dystiolaeth ddangos eich bod yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr a gall fod yn unrhyw un o’r canlynol:

  • Trwydded yrru gyda’ch cyfeiriad presennol
  • Datganiad treth gyngor eleni
  • Cyfriflen banc ddyddiedig o fewn y mis diwethaf
  • Bil cyfleustodau â dyddiad o fewn y 3 mis diwethaf
  • Os ydych wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil o’r blaen rhaid i ni weld tystiolaeth o’ch statws priodasol.

Os cafodd eich priodas neu bartneriaeth sifil blaenorol ei diddymu neu ei dirymu:

  • bydd angen archddyfarniad llawn neu dystysgrif diddymu arnoch – ni allwn chwilio am hyn ar eich rhan
  • Os cyhoeddwyd eich Archddyfarniad llawn y tu allan i Ynysoedd Prydain bydd ffi ychwanegol i brosesu’r ddogfen hon a rhaid i chi ddod â chyfieithiad Saesneg

  • Gweddw
    • Eich tystysgrif priodas flaenorol a thystysgrif marwolaeth eich priod.
  • Os ydych wedi newid eich enw
    • Bydd angen i ni weld tystiolaeth o’ch gweithred o newid enw

Os nad oes gennych unrhyw un o’r dogfennau hyn cysylltwch â’r swyddfa gofrestru cyn eich apwyntiad. Ni allwn dderbyn tystiolaeth ddigidol na ffotograffig.

  • Tystysgrif Dim Rhwystr 

Os ydych yn priodi y tu allan i Gymru a Lloegr a’ch bod angen tystysgrif dim rhwystr rhaid i chi ddod â’r union eiriad sydd ei angen ar y ddogfen gan eich cydlynydd seremoni i’ch apwyntiad, mewn e-bost yn ddelfrydol. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am sicrhau dilysrwydd na chywirdeb y ddogfen gan fod gan bob gwlad ofynion gwahanol.

Gallwch wirio’r gofynion cyfreithiol drwy gwefan Llywodraeth y DU. 

Bydd eich hysbysiad yn costio £35 y person. Talwch drwy gerdyn Debyd neu gerdyn credyd os gwelwch yn dda. Ni allwn dderbyn taliadau digyswllt.

Lleoliadau

Dyma’r lleoliadau sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer priodasau sifil ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Cwestiynau Cyffredin

Efallai y bydd ffi amrywiol ar gyfer priodi mewn adeilad crefyddol neu eglwys. Gofynnwch i’r gweinidog yn eich adeilad crefyddol o ddewis am ragor o fanylion.
Os ydych yn priodi mewn eglwys sy’n Eglwys yng Nghymru neu’n Eglwys Loegr, fel arfer ni fydd angen cysylltu â’r swyddfa gofrestru. Gwiriwch gyda’r gweinidog yn yr eglwys i weld ai dyma yw’r achos.

Dim ond ar gyfer y lleoliad a nodir ar yr hysbysiad y mae hysbysiad o briodas yn ddilys. Efallai y bydd yn bosibl i newid dyddiad eich priodas os yw cyn y dyddiad terfyn, ond os ydych yn newid lleoliad bydd angen i chi roi hysbysiad o’r newydd a thalu’r ffi eto.

Bydd angen i chi wirio y bydd unrhyw briodas a gynhelir mewn gwlad dramor yn cael ei chydnabod yn y DU. Cysylltwch â Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr am fwy o fanylion.

Os ydych yn newid eich enw neu gyfeiriad, cofiwch gysylltu nid yn unig â'ch teulu a'ch ffrindiau, ond hefyd eich cyngor lleol, dŵr, darparwyr nwy a thrydan, eich banc, y swyddfa basbort, DVLA, eich doctoriaid a deintydd, cwmnïau ariannol yr ydych yn cynnal busnes â nhw, cwmnïau catalog, yswiriant gwladol ac ati.

Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr

Ffôn: 01656 642391
Cyfeiriad: Civic Offices, Angel Street, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Oriau agor:
Dydd Llun hyd at Ddydd Gwener 9.30am hyd at 4pm

Chwilio A i Y