Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cwynion

Gall unrhyw broblemau a brofir yn ystod profedigaeth gael effaith drawmatig. Gwyddom ba mor bwysig yw hi i gael gwybod beth aeth o’i le, ac i’w gywiro.

Gallwch gwyno mewn person, drwy lythyr neu dros y ffôn yn uniongyrchol â’r Adran Gwasanaethau Profedigaeth.

Staff yr amlosgfa ddylai ddelio â’r mater, ond os nad yw hyn yn bosibl, caiff y weithdrefn gwyno a fabwysiedir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei gweithredu gan Amlosgfa Llangrallo a nodir y manylion isod.

Mae’r broses gwyno’n cynnwys tri cham:

  • cam cwyn anffurfiol
  • cam cwyn ffurfiol
  • cam adolygu

Cam cwyn anffurfiol

Delio â chwynion cyn gynted â phosibl yw’r peth gorau i bawb. Cysylltwch â’r swyddog neu’r unigolyn yr ydych yn delio â nhw fel arfer, a byddant yn ceisio datrys y broblem yn gyflym heb fod angen cwyn ffurfiol.

Cyswyllt

Gwasanaethau Profedigaeth

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 656605
Cyfeiriad: Amlosgfa Llangrallo, Llangrallo, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 6AB.

Cam cwyn ffurfiol

Os na chaiff eich cwyn ei datrys yn ystod y cam anffurfiol, gallwch wneud cwyn ffurfiol. Gallwch wneud hyn naill ai drwy e-bost, llythyr, neu drwy ddefnyddio ffurflen gwyno gorfforaethol. Rhowch wybod i ni beth sydd wedi mynd o’i le a beth ddylid ei wneud i’w gywiro yn eich barn chi.

Cysylltu

Cwynion Corfforaethol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643565
Cyfeiriad: Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Bridgend, CF31 4WB.

Yr Ombwdsmon

Mae gennych chi’r hawl i gyfeirio eich cwyn at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, sy’n mynd i’r afael â chwynion gwasanaethau cyhoeddus sy’n gweithredu mewn ffordd aneffeithiol neu anonest, er enghraifft annhegwch neu oedi.

Cysylltu

Yr Ombwdsmon

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Ffôn: 01656 641150
Cyfeiriad: 1 Ffordd Yr Hen Gae, Pen-coed, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5LJ.

Chwilio A i Y