Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trwydded gofalwr

Os ydych chi'n gofalu am berson sydd angen lefelau sylweddol o ofal a chefnogaeth oherwydd salwch neu oedran, neu os yw eich Cwmni yn darparu car i breswylydd sy'n byw mewn parth lle mae parcio preswyl mewn grym, gall y Preswylydd wneud cais am drwydded gofalwyr i barcio yn y mannau parcio i breswylwyr ar eu stryd.

  • bwriedir i'r math yma o drwydded gael ei defnyddio gan ofalwr person sydd angen lefelau sylweddol o ofal a chymorth oherwydd salwch neu oedran.
  • mae trwydded gofalwyr yn para am flwyddyn o'r dyddiad cyhoeddi ac wedyn rhaid ei hadnewyddu.
  • mae am ddim ar gyfer ardaloedd trwyddedau preswylwyr presennol ond codir £20 am ardaloedd newydd,
  • maent yn galluogi i'r ymwelydd barcio ar y stryd y mae'r person yr ymwelir ag ef yn byw arni.
  • os oes trwydded barcio i breswylydd eisoes wedi'i rhoi ar gyfer yr eiddo, ni fyddwn yn gallu rhoi trwydded ymwelydd sy’n ofalwr.

Dim ond un drwydded ymwelydd sy’n ofalwr a roddir i unrhyw un cartref.

Gwnewch gais am drwydded gofalwyr

Rhaid i geisiadau am y trwyddedau hyn gael eu hategu gan lythyr gan feddyg teulu eich perthynas yn cadarnhau bod angen lefelau sylweddol o ofal a chymorth ar y person yr ydych yn ymweld ag ef.

Gallwch ofyn i feddyg teulu’r person yr ymwelir ag ef lenwi'r llythyr meddyg teulu ar gyfer trwydded i ofalwyr i gadarnhau bod angen lefelau sylweddol o ofal a chymorth arnynt.

Pryd fyddwch chi’n derbyn eich trwydded?

Unwaith y byddwch chi wedi gwneud eich cais, bydd y drwydded fel arfer yn cael ei phostio atoch chi o fewn 5 diwrnod gwaith cyn belled â bod y ffurflen wedi'i chwblhau'n llawn, a bod yr holl dystiolaeth ategol wedi'i darparu. Caniatewch amser i'r gwasanaeth post ddosbarthu'r drwydded i chi.

Os nad ydych chi wedi rhoi'r holl dystiolaeth angenrheidiol, bydd eich cais am drwydded yn cael ei wrthod.

Sylwch: Os bydd trwydded bapur yn cael ei cholli neu ei dinistrio, codir ffi o £20 i gael un newydd.

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am gais, cysylltwch â

Ffôn: 01656 815625

Chwilio A i Y