Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Hawlio, ailraddio neu ddileu hawl dramwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheoliadau brys sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gau llwybrau troed a hawliau tramwy eraill lle mae defnydd yn peri risg uchel i ymlediad coronafeirws.

Mae darn o Lôn Hersonston (Llwybr Troed 10 Pen-y-bont ar Ogwr) wedi cael ei gau oherwydd lled y llwybr troed. Nid yw’n bosib i’r cyhoedd gydymffurfio â’r mesurau ar gyfer cadw pellter cymdeithasol yn sgil y coronafeirws wrth ddefnyddio’r darn yma o’r llwybr troed cyhoeddus.

Cyngor cyffredinol am Goronafeirws

Mae’r holl hawliau tramwy cyhoeddus eraill nad ydynt wedi’u cau dros dro’n parhau ar agor ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Dylech ymarfer cadw pellter cymdeithasol a defnyddio llwybrau lleol yn hytrach na theithio i gefn gwlad yn ddiangen.

Mae llawer o lwybrau troed a llwybrau marchogaeth yn croesi tir preifat, ffermydd gweithredol ac, yn achlysurol, maent yn agos at gartrefi preifat. Cadwch at y llwybrau a chadwch eich pellter oddi wrth berchnogion y tiroedd. Parhewch i ddilyn y cyfyngiadau a’r mesurau sydd yn eu lle i’ch gwarchod chi ac eraill.

Bydd ein sefyllfa yn parhau i gael ei hadolygu. Gall newid os byddwn yn canfod bod ardaloedd lle mae pobl yn ymgynnull ac yn anwybyddu mesurau’r llywodraeth.

Hawl dramwy

Defnyddir Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol i hawlio, ailraddio neu ddileu hawl dramwy. Gall unrhyw un wneud cais amdano, ac mae’r hawliadau’n seiliedig ar naill ai dystiolaeth ddogfennol neu brawf o ddefnydd.

Meini prawf ar gyfer hawlio hawl dramwy

Er mwyn i’ch cais am Orchymyn Addasu Mapiau Diffiniol fod yn llwyddiannus, rhaid i chi ddangos bod y cyhoedd wedi defnyddio’r ffordd:

  • drwy ei hawl i’w defnyddio, heb yr angen am ganiatâd
  • am 20 mlynedd neu’n fwy
  • heb ymyrraeth

Caiff yr 20 mlynedd hynny eu cyfrifo am yn ôl o’r dyddiad y cafodd hawl y cyhoedd i ddefnyddio’r ffordd ei chwestiynu.

Ar adegau prin, gellir cymryd bod ffordd yn bodoli dan gyfraith gyffredin. Mewn achosion o’r fath:

  • ni fyddai tystiolaeth o weithredoedd sy’n dod â hawl dramwy i amheuaeth, megis rhwystr ar ffordd sy’n cael ei hawlio
  • byddai llai nag 20 mlynedd o brawf o ddefnydd

O ran y diwethaf, mae’n bosibl y gall yr hawliad gael ei wneud dan gyfraith gyffredin, gan na fyddai’n bosibl defnyddio Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol.

Sut i ddadlau hawl dramwy sydd wedi’i hawlio

Gall tirfeddianwyr wrthod hawliad os:

  • oes modd iddynt ddangos diffyg bwriad i neilltuo’r tir
  • cymerwyd camau i osgoi cronni hawliau’r cyhoedd

Un o’r camau y gellir eu cymryd yw ychwanegu datganiad. Caiff y camau ar gyfer ychwanegu datganiad eu hegluro yn Adran 31 (6) o Ddeddf Priffyrdd 1980.

Gweld y gofrestr o ddatganiadau sydd wedi’u hychwanegu

Rydym yn cadw cofrestr sy’n eich galluogi i chwilio’r datganiadau sydd wedi’u hychwanegu.

Chwiliwch y gofrestr o ddatganiadau sydd wedi’u hychwanegu.

Gweld y gofrestr o geisiadau am Orchymyn Addasu Mapiau Diffiniol

Mae’r gofrestr o’r ceisiadau am Orchymyn Addasu Mapiau Diffiniol yn cynnwys yr holl geisiadau a wnaed ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2006. Hefyd, mae’n nodi ceisiadau cynharach nad oeddynt wedi dod i ben cyn y dyddiad hwnnw.

Chwliwch drwy’r gofrestr o geisiadau am Orchymyn Addasu Mapiau Diffiniol yma.

Materion i’w hystyried cyn gwneud cais am Orchymyn Addasu Mapiau Diffiniol

Mae’r broses ymgeisio ar gyfer Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol yn gymhleth ac yn cymryd amser. Felly cyn gwneud cais, dylai ymgeiswyr posibl gysylltu â swyddog o’r Adran Hawliau Tramwy.

Bydd angen i bob ymgeisydd gyflwyno dwy ffurflen i ni. Bydd ffurflen arall yn cael ei hanfon at berchennog y tir. Os caiff cais ei seilio ar dystebau yn unig yn hytrach na thystiolaeth hanesyddol, bydd angen i’r ymgeisydd gyflwyno sawl ‘ffurflen prawf o ddefnydd’ hefyd. Disgwylir i chi gyflwyno o leiaf chwe ffurflen.

Gwneud cais am Orchymyn Addasu Mapiau Diffiniol

Gallwch wneud cais am Orchymyn Addasu Mapiau Diffiniol drwy ddefnyddio’r ffurflenni canlynol:

 

Manylion cyswllt yr Adran Hawliau Tramwy

Gallwch gysylltu â’r Adran Hawliau Tramwy i gael ateb i’r holl gwestiynau sy’n ymwneud â hawliau tramwy.

 

Cyswllt

Yr Adran Hawliau Tramwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642537
Cyfeiriad: Y Gwasanaeth Strydlun, Y Gyfarwyddiaeth Cymunedau, Depo Waterton, Waterton Road, CF31 3YP.

Chwilio A i Y