Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gordaliadau

Ystyr gordaliad yw os ydych wedi cael mwy o fudd-dal tai, lwfans tai lleol neu ostyngiad yn y dreth gyngor nag y mae gennych hawl ei gael. Yn aml, caiff ei achosi gan newid yn eich amgylchiadau na wnaethoch ddweud wrthym amdano mewn pryd. Dyma enghreifftiau o newidiadau a all achosi gordaliadau:

  • cynnydd yn eich incwm
  • rhywun yn symud i'ch cartref
  • newidiadau yn amgylchiadau oedolion eraill sy'n byw gyda chi
  • os ydych yn symud allan o'r eiddo

Gordaliadau budd-dal tai a lwfans tai lleol

Byddwn yn ysgrifennu atoch pan fyddwn yn sylwi ar ordaliad budd-dal tai. Fel arfer bydd ein llythyr cyntaf yn rhoi manylion y gordaliad posib, ac yn rhoi un mis calendr i chi ddarparu gwybodaeth fel y gellir cyfrif y gordaliad yn gywir. Ar ôl y cyfnod hwn, byddwn yn cyfrif ffigur y gordaliad terfynol, ac yn penderfynu a oes modd adennill y gordaliad ai peidio. Os oes modd ei adennill, byddwn yn anfon llythyr at bob parti y gallwn adennill y gordaliad ganddo.

Bydd y llythyr adennill yn dweud wrthych:

  • bod gordaliad mae modd ei adennill
  • beth wnaeth achosi’r gordaliad
  • y dyddiadau a swm y gordaliad
  • sut cafodd y gordaliad ei gyfrif
  • rhestr o'r partïon y caniateir i'r gordaliad gael ei adennill ganddynt
  • beth i'w wneud os ydych yn anghytuno â phenderfyniad y gordaliad

Ar yr un pryd, byddwn yn anfon llythyr at y person yr ydym yn bwriadu adennill y gordaliad ganddo, gan roi gwybod iddo sut rydym yn bwriadu gwneud hynny.

Os ydych yn dal i gael budd-dal tai, efallai y byddwn yn ei leihau bob wythnos gyda'r swm ar eich llythyr hysbysu. Os ydych yn teimlo bod y swm yr ydym yn ei adennill bob wythnos yn achosi caledi i chi, gallwch ysgrifennu atom i ofyn i ni ei ostwng. Cofiwch y gallwn ofyn am fwy o fanylion.

Os byddwch yn rhoi'r gorau i gael Budd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol, efallai y byddwn yn anfon bil atoch.

Os oeddem yn talu eich budd-daliadau i'ch landlord, efallai y byddwn yn gofyn i'r landlord ein had-dalu.

Hyd yn oed os nad eich bai chi oedd y gordaliad, efallai y byddwn yn dal i ofyn i chi ei ad-dalu. Enghraifft o'r sefyllfa hon fyddai pe bai'n rhesymol disgwyl i chi sylweddoli eich bod yn cael eich gordalu.

Gallwch apelio yn ein herbyn os byddwn yn penderfynu bod taliad yn ordaliad. Mae'n rhaid i chi wneud hyn yn ysgrifenedig ac mae gennych un mis calendr o'r dyddiad y rhoddwyd gwybod i chi am y gordaliad i wneud hynny. Dim ond yn erbyn y cyfrifiad a’r broses o adennill y gordaliad y gallwch apelio.

Ysgrifennwch eich apêl mewn llythyr sy'n cynnwys:

  • y penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn
  • y rhesymau dros eich apêl
  • eich llofnod

Os yw ein penderfyniad yn anghywir, byddwn yn ei newid. Os na ellir newid y penderfyniad, bydd y gwasanaeth apelio wedyn yn adolygu eich apêl mewn gwrandawiad tribiwnlys. Mae'r tribiwnlys yn annibynnol ar y cyngor, ac mae'n cynnwys pobl sydd wedi cymhwyso yn y gyfraith ac wedi'u hyfforddi ym maes budd-dal tai.

Os yw eich apêl yn hwyr, rhaid i chi gynnwys esboniad yn nodi pam nad oedd modd i chi apelio o fewn mis.

Peidiwch ag anwybyddu unrhyw lythyrau a anfonwn atoch ynghylch gordaliad, gan na fydd dyledion yn diflannu. Os bydd rhaid i ni gymryd camau pellach i adennill y ddyled drwy'r llysoedd, bydd y swm sy'n ddyledus gennych yn cynyddu.

Gordaliadau o ostyngiadau yn y dreth gyngor

Pan fyddwn yn sylwi ar ordaliad, byddwn yn anfon cais diwygiedig am y dreth gyngor atoch yn dangos y newid. Mae hyn yn wahanol i’r budd-dal tai gan nad yw gostyngiad yn y dreth gyngor yn fudd-dal, ac mae'r broses yn wahanol. Mae'n rhaid i chi barhau i dalu'r swm sy'n ddyledus ar eich bil gwreiddiol nes i chi gael eich hysbysu fel arall.

Os byddwch yn anghytuno â'r penderfyniad hwn, gallwch ysgrifennu atom a gofyn i ni edrych ar y penderfyniad eto. Byddwn yn adolygu eich achos ac yn ymateb o fewn dau fis.

Os ydych yn anfodlon o hyd, gallwch apelio drwy ysgrifennu at Dribiwnlys Prisio Cymru.

Cyswyllt

Rhanbarth De Cymru,

Gold Tops,

Casnewydd,

NP20 4PG.

Bydd unrhyw addasiadau yn cael eu gwneud i'ch cyfrif treth gyngor, a byddwch yn cael cais diwygiedig am y dreth gyngor.

Chwilio A i Y