Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llanw

Gwybodaeth am y sawl y dylid ei hysbysu o lifogydd.

Yn ystod llifogydd difrifol, y gwasanaethau brys yw’r prif ymatebwyr i lifogydd. Byddwn yn gweithio gyda nhw i gynorthwyo pobl i adael eu cartrefi a darparu llety brys a gwasanaethau cymdeithasol eraill iddynt.

Bagiau tywod

Mae bagiau tywod gennym a byddwn yn ceisio eu darparu lle gallant gyfyngu ar effaith llifogydd. Os bydd argyfwng mawr, efallai na fydd modd bodloni pob cais ac felly ni allwn warantu y gellir rhoi bagiau tywod i bob eiddo. I wneud cais am fagiau tywod, cysylltwch â ni:

Draeniau cyhoeddus a ffyrdd dan lifogydd

Cyfrifoldeb y Cyngor yw monitro perygl llifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin, dŵr wyneb ffo a dŵr daear. Os oes draen wedi’i rhwystro neu ffordd dan lifogydd, cysylltwch â ni:

Llifogydd o garthffosydd neu brif bibellau dŵr sydd wedi rhwygo

Mae Dŵr Cymru yn gyfrifol am berygl llifogydd o garthffosydd cyhoeddus a phrif bibellau dŵr. Ceir gwybodaeth am adrodd am ac ymdrin â’r fath lifogydd ar wefan Dŵr Cymru:

Llifogydd o afonydd neu’r môr

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am fonitro’r perygl llifogydd o’r prif afonydd a’r môr. Gallwch gael gwybod am berygl llifogydd o afonydd a’r môr ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru:

Atal llifogydd

Cyfrifoldeb y perchennog yw atal llifogydd ar eiddo preifat. Fodd bynnag, os bydd llifogydd byddwn yn ceisio rhoi cymorth.Petai lifogydd mawr, byddwn yn ceisio diogelu a helpu’r bobl a’r seilwaith sydd fwyaf agored i niwed yn gyntaf.

Digwyddiad naturiol yw llifogydd. NI all unrhyw system ddraenio neu fesurau amddiffyn rhag llifogydd warantu na fydd llifogydd.

Os ydych yn pryderu am lifogydd, efallai bydd y National Flood Forum yn gallu eich helpu:

Chwilio A i Y