Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Draenio tir

Mae perchennog y tir y mae cwrs dŵr yn llifo trwyddo yn gyfrifol am waith cynnal a chadw iddo. Os nad ydynt yn gallu neu nad ydynt yn fodlon ymgymryd â’r gwaith cynnal a chadw angenrheidiol, bydd naill ai Cyfoeth Naturiol Cymru neu’r Cyngor yn cymryd camau gweithredu. Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn gwneud hyn os yw’r cwrs dŵr yn brif afon neu’r Cyngor yn achos cyrsiau dŵr cyffredin, ffosydd, ceuffosydd neu ddŵr wyneb neu ddaear.

Hawliau perchnogion glannau afon

Mae perchennog glannau afon yn berchen ar y tir sy’n ffinio â chwrs dŵr, neu dir y mae cwrs dŵr yn llifo trwyddo neu oddi dano. Mae gan berchennog glannau afon hawliau a chyfrifoldebau penodol.

Os ydych yn berchennog glannau afon, mae gennych yr hawl i:

  • gael eich ystyried yn berchennog y tir hyd at ganol y cwrs dŵr, oni wyddys bod eraill yn berchen arno.
  • derbyn llif dŵr yn ei gyflwr naturiol heb ymyrraeth amhriodol â’i swm na’i ansawdd
  • amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd, a’ch tir rhag erydu ar yr amod eich bod wedi cael caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru neu’r Cyngor
  • pysgota yn eich cwrs dŵr trwy ddulliau cyfreithlon ac â thrwydded pysgota â gwialen
  • tynnu hyd at 20 metr ciwbig o ddŵr at ddefnydd domestig eich aelwyd neu at ddefnydd amaethyddol ac eithrio chwistrell-ddyfrhau heb drwydded.
  • tynnu dŵr y tu allan i’r amodau hyn os oes gennych drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cyfrifoldebau perchnogion glannau afon

Os ydych yn berchennog glannau afon, mae gennych y cyfrifoldeb i:

  • drosglwyddo llif heb rwystr, llygredd neu ddargyfeiriad sy’n effeithio ar hawliau pobl eraill
  • derbyn gorlifau trwy’ch tir hyd yn oed os caiff eu hachosi gan ddiffyg lle dal dŵr yn nes i lawr yr afon, gan nad oed dyletswydd gyfreithiol i wella cwrs dŵr
  • galluogi pysgod i symud yn rhydd ar hyd y cwrs dŵr
  • trafod cynnal a chadw amddiffynfeydd rhag llifogydd â Cyfoeth Naturiol Cymru neu’r Cyngor
  • cynnal gwely’r cwrs dŵr a glannau’r cwrs dŵr, gan gynnwys coed a llwyni sy’n tyfu ar y glannau
  • clirio unrhyw falurion, boed yn naturiol neu fel arall, gan gynnwys sbwriel a burgynnod anifeiliaid hyd yn oed os nad ydynt wedi deillio o’ch tir
  • cadw’r gwely a’r glannau’n glir o unrhyw beth a allai achosi rhwystr, naill ai ar eich tir eich hun neu drwy gael ei olchi i lawr yr afon
  • cadw adeileddau megis ceuffosydd, sgriniau sbwriel, coredau a gatiau melin yn glir
  • amddiffyn eich eiddo rhag dŵr sy’n gollwng trwy gloddiau naturiol neu artiffisial.

Os nad ydych yn cyflawni eich cyfrifoldebau, gellir dwyn achos sifil yn eich erbyn.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Canllaw ich hawliau ach cyfrifoldebau perchennog glannau afon yng Nghymru Cyfoeth Naturiol Cymru.

Chwilio A i Y