Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Disgybl o Wcráin ym Mhorthcawl yn ymrwymo i’r iaith Gymraeg!

Mae Bohdan Syvak, disgybl ysgol uwchradd o Wcráin ym Mhorthcawl, newydd sefyll ei arholiadau TGAU Cymraeg – gan arddangos yr hyn y mae modd ei gyflawni pan mae cymunedau yn cefnogi ei gilydd, yn ogystal ag effaith natur benderfynol a dyfalbarhad.

Pan fu i Rwsia fynd i ryfel â Wcráin, roedd rhaid i Bohdan Syvak a’i deulu adael eu cartref ar frys ar 6 Mawrth - gan aros yn yr Almaen am chwe wythnos, cyn symud i Gymru a chael croeso cynnes gan deulu ym Mhorthcawl.

Pan ymunodd Bohdan ag Ysgol Gyfun Porthcawl ym Mehefin 2022, cafodd lawer o gefnogaeth gan gymuned yr ysgol, gyda disgyblion a staff yn cynnig croeso a chefnogaeth iddo.  Bu Alison Lloyd, Pennaeth yr Adran Gymraeg yn yr ysgol, yn helpu Bohdan i ddysgu Cymraeg yn ystod amser cinio.

Deg mis wedi iddo gyrraedd Cymru am y tro cyntaf, bu i Bohdan sefyll ei arholiad llafar TGAU Cymraeg cyntaf, ac yna tri arholiad arall i asesu ei sgiliau gwrando, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg. 

Wrth drafod Bohdan, dywedodd Mrs. Lloyd: “Rwy’n hynod falch o Bohdan a’r hyn mae wedi’i gyflawni.  Yn dilyn cyfnod o ansicrwydd, gorfod gadael ei gartref, ei deulu, a’i ffrindiau yn Wcráin, mae ef wedi ymgartrefu’n arbennig o dda yn ei fywyd newydd ym Mhorthcawl. 

“Mae ef wedi mynychu’r ysgol yn ddyddiol gyda gwên fawr ar ei wyneb, yn fy nghyfarch gyda ‘Shwmae!’, ac wedi gwir ymrwymo i ddysgu’r Gymraeg, gan roi gorau i’w amser cinio a’i frwdfrydedd mawr tuag at bêl-droed hyd yn oed, er mwyn ymarfer ei Gymraeg. 

“Hoffwn ddymuno’n dda iddo gyda’i arholiadau ac ar gyfer y dyfodol, a gobeithiaf yn fawr y bydd yn parhau i siarad y Gymraeg. 

“Byddwn wrth fy modd yn gweld Bohdan ar S4C yn y dyfodol, yn chwarae i dîm pêl-droed cenedlaethol Wcráin ac yn cael ei gyfweld yn y Gymraeg ar ddiwedd y gêm!”

Dywedodd Bohdan: ”Rwy’n ddiolchgar iawn i Mrs Lloyd am roi o’i hamser cinio i’m helpu i ddysgu Cymraeg er mwyn i mi gael sefyll fy arholiad TGAU. 

“Roedd dysgu Cymraeg yn anodd, ond drwy dreulio amser yn gwneud yr hyn yr hoffech ei gyflawni, rydych yn siŵr o wella.  

“Roeddwn i eisiau dysgu Cymraeg gan ei fod yn sgil da ar gyfer y dyfodol, ond hefyd, doeddwn i ddim eisiau byw yng Nghymru heb allu siarad yr iaith. 

“Rwy’n mynd i’r coleg ym mis Medi, ond byddwn wrth fy modd o gael parhau i ddysgu Cymraeg er mwyn i mi allu ei siarad yn rhugl.”

Hyd yma, mae 198 o Wcrainiaid wedi derbyn lloches yn y fwrdeistref sirol drwy Gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth Cymru.  Mae tua hanner wedi derbyn cymorth i ganfod gwaith a chartrefi eu hunain.

Rydym yn falch iawn o allu dweud ein bod wedi mabwysiadu dull cyngor cyfan o gefnogi ein cymuned Wcrainaidd, drwy sefydlu gweithgor yn cynnwys adrannau tai, addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ymysg eraill.

Mae gennym dîm ymroddedig sydd wedi ymdrin ag ymholiadau niferus gan groesawyr ac unigolion, ac mae gwasanaeth cymorth pwrpasol wedi ei gomisiynu gyda Tai Taf. Mae’r tîm hwn yn cynnwys staff sy’n dod o Wcráin.

Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio

Gadewch i ni hefyd gofio caredigrwydd ein cymunedau, gan gynnwys ein hysgolion, sydd wedi dangos croeso mor gynnes i’n ffoaduriaid bregus, a’u galluogi i ymgartrefu yma yn y fwrdeistref sirol.

Ysbrydoledig iawn yw clywed hanes Bohdan! Dymunwn y gorau iddo gyda’i ganlyniadau! Fodd bynnag, ei ymrwymiad a’i ddyfalbarhad yw'r gwir lwyddiant – yn wers i ni gyd.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y