Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad ar Dai Gwag ac Ail Gartrefi

Ers 1 Ebrill 2017, mae Cynghorau yng Nghymru wedi gallu codi symiau uwch (premiwm) o hyd at 100% ar ben graddfa gyffredin y dreth gyngor ar ail gartrefi a thai gwag tymor hir. Gwnaed y newidiadau deddfwriaethol gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac mae'r pwerau a roddwyd i Gynghorau yn ddiamod. Penderfyniad pob cyngor felly yw a ydynt am godi premiwm ar ail gartrefi neu dai gwag tymor hir (neu'r ddau), a rhaid i’r penderfyniad gael ei wneud gan y Cyngor llawn.

Bwriad y rhyddid a roddwyd i'r Cynghorau i godi premiwm yw rhoi arf i'w cynorthwyo i:

  • ddarparu cartrefi diogel a fforddiadwy drwy ddefnyddio cartrefi fu'n wag am dymor hir;

a

  • Cynorthwyo Cynghorau i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol.  

 

Mae'r Cyngor yn cynnig:

Cyflwyno Premiwm Treth Gyngor 100% ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi sydd wedi bob yn wag am fwy na 12 mis. Bydd y gost bremiwm hon yn daladwy o 1 Ebrill 2023 ar eiddo sy'n bodloni'r meini prawf sydd wedi bod yn wag am fwy na 12 mis cyn y dyddiad hwn. Bydd lefel y premiwm wedyn yn cynyddu i 200% ar gyfer yr eiddo hynny ar ôl cyfnod o 2 flynedd.

Mae yna eithriadau.  Ni ellir codi premiwm ar annedd sy'n syrthio i un o'r saith Dosbarthiad Anheddau a restrir isod:

Dosbarth

Diffiniad

Cymhwysiad

Dosbarth 1

Anheddau sydd ar y farchnad i'w gwerthu - cyfnod cyfyngedig o flwyddyn.

 

Ail gartrefi ac Eiddo Gwag Tymor Hir

 

Dosbarth 2

Anheddau sydd ar y farchnad i'w gosod - cyfnod cyfyngedig o flwyddyn.

Dosbarth 3

Rhandai sy'n ffurfio rhan o'r prif annedd, neu sy'n rhan ohono

Dosbarth 4

Anheddau a fyddai'n brif breswylfa neu'r unig breswylfa i rywun pe na baent yn preswylio mewn llety'r Lluoedd Arfog

Dosbarth 5

Angorfeydd cychod a lleiniau carafanau sy'n cael eu defnyddio

Ail Gartrefi

 

Dosbarth 6

Cartrefi tymhorol lle mae byw ynddynt drwy gydol y flwyddyn wedi'i wahardd

Dosbarth 7

Anheddau sy'n ymwneud â swydd

Dweud eich dweud

I ddweud eich dweud, llenwch ffurflen ymgynghori ar-lein

Dyddiad cau: Dydd Mercher 14 Rhagfyr 2022

Chwilio A i Y