Prentisiaethau
Mae Prentisiaethau yn gadael i ni fel awdurdod lleol recriwtio talent newydd sy'n ysu i ddysgu ac yn galluogi unigolion i ddatblygu sgiliau proffesiynol a chael profiad gwerthfawr tra'n ennill cyflog ac yn gweithio tuag at gymhwyster achrededig.
Maent yn gallu bod yn amrywiaeth eang o alwedigaethau:
- Gweinyddu Busnes
- Gwasanaethau Cwsmeriaid
- TG
- Cyllid
- Rheoli Prosiectau
Ers sefydlu'r rhaglen brentisiaeth, mae'r cyngor wedi llwyddo i gefnogi 116 o brentisiaid, ac mae nifer ohonynt wedi mynd ymlaen i gael cyflogaeth gyda’r awdurdod lleol.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi pobl o bob oed i ddatblygu eu sgiliau drwy greu cyfleoedd prentisiaethau lle bynnag y bo modd a datblygu ein gweithlu ar gyfer y dyfodol.
Un peth wnes i wirioneddol ei fwynhau am y brentisiaeth oedd y cyfle i ddysgu sgiliau a gwybodaeth reolaethol newydd.
Rydw i'n gwybod y bydd yr hyn yr ydw i wedi ei ddysgu yn ystod y brentisiaeth yn werthfawr imi yn ystod fy ngyrfa yn y dyfodol.
Lauren Lovelock, Prentis Cefnogi Busnes
Swyddi gwag presennol
Prentis Cymorth Gofalu, Tîm Rheoli Cyfleusterau
Oriau: 37 awr yr wythnos
Cyflog: £18,328.26 y flwyddyn
Dyddiad cau: 10/03/2022
Prentis Gwasanaethau Cwsmeriaid Lefel 2 (Cyfnod Penodol)
Oriau: 37 awr yr wythnos
Cyflog: £18,328.26 y flwyddyn
Dyddiad cau: 23/02/2022
Mae bod yn brentis i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi agor sawl cyfle i mi fynd ymlaen ar hyd fy llwybr gyrfaol gan gynyddu fy sgiliau tra'n ennill arian.
Dyma un o'r penderfyniadau gorau wnes i erioed.
Holly Davies, Prentis Marchnata
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor am brentisiaethau, ewch i wefan Gyrfa Cymru neu ffoniwch 0800 100 900.
Gallwch hefyd ddarllen am brentisiaethau ar dudalen sgiliau a hyfforddiant Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.