Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Prentisiaethau a Phrofiad Gwaith

Swydd gyflogedig yw prentisiaeth sy'n cynnig profiad gwaith ymarferol ochr yn ochr â hyfforddiant drwy ddarparwr hyfforddiant, coleg, gweithle neu brifysgol.

Gallant fod mewn ystod eang o alwedigaethau, gan gynnwys, Gweinyddu Busnes, Cyfrifeg, Gofal Cymdeithasol, TGCh, Cyllid, Adnoddau Dynol, Rheoli Prosiect a Rheoli'r Ffordd Fawr.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi pobl o bob oed i ddatblygu eu sgiliau drwy greu cyfleoedd prentisiaeth lle bynnag y bo hynny'n bosibl a datblygu ein gweithlu ar gyfer dyfodol y cyngor.

Ers lansio'r rhaglen brentisiaethau, mae'r cyngor wedi llwyddo i gefnogi 144 o brentisiaid - mae nifer ohonynt wedi mynd ymlaen i gael gwaith gyda'r awdurdod lleol ers hynny.

Rydym hefyd yn cefnogi ac yn annog profiad gwaith ar draws yr holl gyfarwyddiaethau ac adrannau ar gyfer ymgeiswyr o bob oed a gallu.

Holly Davies, cyn Brentis Marchnata, bellach yn Swyddog Cymorth

Mae dod yn brentis gyda Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn un o'r camau mwyaf gwerth chweil yn fy ngyrfa hyd yma; mae wedi fy ngalluogi i gael profiad gwerthfawr yn y diwydiant Marchnata gan ddatblygu fy sgiliau gyda'r brentisiaeth.

Dwi wedi cael cefnogaeth gan y cyngor a fy nhîm bob cam o'r ffordd ac ers i mi orffen fy nghymhwyster, dwi bellach wedi mynd ymlaen i fod yn Swyddog Cymorth parhaol yn y tîm Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu.

Mae'n gam y byddwn i'n argymell i unrhyw un sy'n ceisio datblygu ei yrfa neu'r rhai sy'n chwilio am newid; mae'n un o'r penderfyniadau gorau dwi erioed wedi ei wneud.

Holly Davies, cyn Brentis Marchnata, bellach yn Swyddog Cymorth

Mae nifer o fanteision i fod yn brentis gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n cynnwys:

  • Cael profiad ymarferol mewn maes astudio o’ch dewis
  • Cael eich talu i ddysgu ac astudio am gymhwyster
  • Ennill cymhwyster sy'n cael ei gydnabod yn y diwydiant
  • Gwella eich cyflogadwyedd a hyrwyddo eich gyrfa mewn maes o’ch dewis
  • Cael manteisio ar ostyngiadau myfyrwyr

Mae prentisiaid yn ein galluogi fel awdurdod lleol i recriwtio talent newydd sy'n awyddus i ddysgu ac sy'n galluogi unigolion i ddatblygu sgiliau proffesiynol a chael profiad gwerthfawr gan ennill cyflog byw go iawn ar yr un pryd, a gweithio tuag at gymhwyster achrededig.

Sian Roberts, Prentis Dysgu a Datblygu

Mae ymuno â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr fel prentis wedi cynnig gymaint o gyfleoedd i mi. Ar hyn o bryd, rwy'n astudio tuag at fy CIPD Lefel 5 yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro wrth ennill profiad ymarferol o fewn Datblygu Sefydliadol.

Fel prentis, rwy'n gallu dysgu gan dîm hynod brofiadol a hynod gefnogol sydd bob amser yn annog fy natblygiad.

Mae'r pecyn cymorth sy'n cael ei gynnig yn wych – gyda sesiynau cymorth wythnosol i brentisiaid, amser astudio penodol a chyfleoedd datblygu parhaus. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn prentisiaeth i wneud cais gyda'r cyngor.

Sian Roberts, Prentis Dysgu a Datblygu

Swyddi gwag diweddaraf

Dim ar gael ar hyn o bryd

Profiad gwaith

Rydyn ni’n cefnogi ac yn annog lleoliadau gwaith ar draws pob cyfarwyddiaeth ac adran ar gyfer ymgeiswyr o bob oedran a gallu. Rydyn ni’n croesawu ymholiadau gan sefydliadau’r trydydd sector, ysgolion, colegau, prifysgolion, y Ganolfan Byd Gwaith ac unigolion.

Mae proses wedi’i chytuno ar gyfer sicrhau profiad gwaith. Peidiwch â holi’r gwasanaethau yn uniongyrchol.

Y broses ymgeisio

  1. Cysylltwch â ni drwy e-bost gyda:
    • eich enw llawn
    • eich ysgol, coleg, prifysgol neu wybodaeth sefydliadol
    • hyd bwriadol y lleoliad gyda dyddiadau dechrau a gorffen
    • y lleoliad rydych chi’n ei ffafrio, gan gynnwys y gyfarwyddiaeth a’r adran os ydych yn gwybod pa un ydyw
    • disgrifiad byr o’r math o waith y mae gennych ddiddordeb ynddo
    • yr amcanion a ddymunir ar gyfer y lleoliad
  2. Bydd yr Adran Adnoddau Dynol yn cysylltu â’r rheolwr adrannol priodol i ofyn a yw’r cais yn bosibl. Er bod adrannau’n cael eu hannog i dderbyn lleoliadau, efallai y bydd gofynion gwaith yn golygu nad yw hyn yn bosibl.

  3. Os yw adran yn cytuno i leoliad, rhaid iddi gynnal asesiad risg cyn i’r lleoliad ddechrau a rhoi cyflwyniad ar y diwrnod cyntaf. Efallai y bydd yn ofynnol i rywun o’r adran siarad gyda chi i ddechrau i ddeall beth yw eich diddordebau ac asesu eich addasrwydd.

  4. O dan amgylchiadau lle nad oes modd sicrhau’r lleoliad, byddwn yn dweud wrthych chi cyn gynted â phosib.

Cyswllt

If you're interested in work experience, please contact:

Venture Graddedigion

Nod Cynllun Venture Graddedigion  yw gwella cynhyrchiant, arloesi a thwf economaidd drwy gysylltu graddedigion â busnesau uchelgeisiol yn y deg awdurdod lleol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

Chwilio A i Y