Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diogelu Data

Mae’r DU Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (DU RhDDC) a Deddf Diogelu Data 2018 yn rheoleiddio prosesu gwybodaeth mewn perthynas ag unigolion. Mae hyn yn cynnwys cael, cadw, defnyddio neu ddatgelu gwybodaeth o’r fath.

I sicrhau ein bod ni’n ymdrin â data personol yn gyfreithlon ac yn briodol, mae’n rhaid i ni gydymffurfio â’r Ddeddf ac yn benodol â’r Egwyddorion Diogelu Data. Mae’r rhain yn gofyn bod rhaid i’r data personol:

  • gael ei brosesu’n deg, yn gyfreithlon ac yn dryloyw
  • cael ei gasglu at ddibenion penodedig, eglur a cyfreithlon
  • bod yn ddigonol, yn berthnasol ac yn angenrheidiol
  • bod yn gywir a lle y bo’n angenrheidiol, yn gyfredol
  • cael ei gadw ar ffurf lle y gellir adnabod y person am yn hwy nag sydd ei angen
  • cael ei brosesu’n ddiogel

 

Eich hawliau o dan y Ddeddf

Mae gennych yr hawl i wybod a yw eich data personol yn cael ei brosesu ac os felly, mae gennych hawl i gael copi.

Mae gennych yr hawl i gael data personol anghywir wedi’i unioni heb oedi gormodol.

O dan rai amgylchiadau penodol mae gennych yr hawl i gael eich data personol wedi’i ddileu.

O dan rai amgylchiadau penodol mae gennych yr hawl i’n cyfyngu rhag prosesu eich gwybodaeth.

Mae gennych yr hawl i dderbyn y data personol rydych wedi’i roi i ni (rheolwr y data) mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac y gellir ei ddarllen gan beiriant.

Mae gennych yr hawl i wrthwynebu unrhyw bryd i brosesu eich data personol. Ni fyddwn ni (rheolwr y data) bellach yn prosesu eich data oni bai y gallwn ddangos bod rheswm da dros wneud hynny. Mae’n rhaid i hyn fod dros eich buddiannau, hawliau a rhyddid, neu fod ar gyfer ein hamddiffyniad o hawliau cyfreithiol.

O dan y Ddeddf mae gennych yr hawl, yn ddarostyngedig i eithriadau, i beidio â bod yn ddarostyngedig i benderfyniad pan fydd wedi’i seilio ar brosesu awtomataidd.

Cais i weld eich gwybodaeth

Defnyddiwch y Ffurflen Cais am Fynediad y Gwrthrych.

Rhaid i’r Cyngor ymdrechu i gydymffurfio â Cheisiadau Gwrthrych am Wybodaeth heb oedi’n ormodol ac o fewn un mis fan bellaf i dderbyn y cais. Gallwn ymestyn yr amser i ymateb o ddau fis pellach os bydd y cais yn gymhleth neu os byddwn wedi derbyn nifer o geisiadau gan yr un unigolyn.

Bydd angen prawf hunaniaeth, prawf preswyliad parhaus / awdurdod i weithredu ar ran rhywun arall ac unrhyw wybodaeth sy’n angenrheidiol i ddod o hyd i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani cyn y caiff cais ei brosesu.

Adrodd am ddata anghywir

Dylech chi ysgrifennu atom gan ddweud pa ddata sy’n anghywir. Mae’n rhaid i ni ymateb i chi o fewn 21 diwrnod.

Cyswllt

Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoliadol
Cyfeiriad: Swyddfeydd Dinesig, Angel Street, Pen-Y-Bont Ar Ogwr, CF31 4WB.

Gwneud cwyn

Rydym yn gwneud ein gorau i gyrraedd y safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Rydym yn ystyried unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn ynglŷn â hyn yn ddifrifol iawn.

Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y cafodd eich data ei drin, cysylltwch â’n hadran cwynion. Hefyd gallwch chi gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

 

Am faint rydym yn cadw eich data personol

Ni fyddwn yn cadw eich data personol yn hwy nag sydd ei angen. Y Polisi Cadw Data yn dweud wrthym am ba mor hir y cawn gadw gwybodaeth bersonol.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Chwilio A i Y