Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth

Mae dyletswydd gyfreithiol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal a gwella bioamrywiaeth, ac wrth wneud hynny, hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau. Cyfeirir at hyn yn aml fel y Ddyletswydd Adran 6.

Fe wnaeth y Cyngor gynhyrchu Biodiversity and Ecosystem Resilience Forward Plan ar gyfer y cyfnod 2018-2022, gan nodi'r camau y byddai'n eu cymryd i fodloni'r gofyniad deddfwriaethol hwn. Cafodd y gwaith o gyflwyno Cynllun 2018-22 ei adolygu, a nodwyd y canfyddiadau yn Bridgend Biodiversity and Ecosystem Resilience Progress Report, 2018-21.

Mae'r Cynllun newydd hwn, Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr, 2022-25, yn nodi'r camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd am y tair blynedd nesaf. Mae'n cael ei lywio gan argymhellion yr Adroddiad Cynnydd, a dynnodd sylw at gryfderau i adeiladu arnynt, a meysydd ar gyfer gwella'r ddarpariaeth.

Bwriad camau gweithredu'r Cynllun hwn yw ymwreiddio darpariaeth bioamrywiaeth ar draws yr holl sefydliad, gan adlewyrchu'r casgliad eang o weithgareddau a swyddogaethau sydd â'r potensial i gyfrannu at ymdrechion byd-eang, cenedlaethol a lleol i wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

Mae'r Ddyletswydd yn gyfrifoldeb eang i'r Cyngor; felly, datblygwyd y Cynllun gyda chyfraniad gan y staff a'r adrannau a fydd yn gyfrifol am ei gyflwyno. Mae’r Ddyletswydd Adran 6, ac wedyn y camau gweithredu yn y Cynllun, yn ymwneud â swyddogaethau a gweithgareddau'r Cyngor, h.y., rhai y gellir eu cyflawni'n uniongyrchol gan y Cyngor.

Felly nid yw'r Cynllun yn cynnwys camau gweithredu ar gyfer sefydliadau partner, grwpiau cymunedol na'r cyhoedd, ond mae'n nodi camau gweithredu i'r Cyngor, lle gall gyfrannu at gefnogi gweithio mewn partneriaeth, ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth, gan gydnabod pwysigrwydd gweithio ar y cyd i gyflawni newid go iawn.

Mae'r mesurau sydd yn y Cynllun hwn yn rhan o uchelgais ehangach y Cyngor i ddarparu amgylchedd naturiol iach, gan gefnogi cymunedau a bywoliaethau. Mae bioamrywiaeth yn sail i bob elfen o'n bywydau, gan ddarparu nwyddau, rheoleiddio gwasanaethau ecosystemau megis carbon, a chyfrannu at iechyd a threftadaeth ddiwylliannol.

Felly bydd cyflwyno Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn gwneud cyfraniad hanfodol at Nodau Llesiant Cymru, a bodloni nodau ac amcanion Cynllun Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr.

Chwilio A i Y