Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Rheolau newydd ar gyfer busnesau yn ystod y pandemig

Mae rheolau newydd Llywodraeth Cymru bellach mewn grym, sy'n golygu bod llawer o fusnesau a gweithleoedd eraill bellach ar gau ac y dylai pobl weithio o gartref lle bynnag y bo modd.

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu’r GIG.

Mae'r mannau canlynol bellach wedi cau:

  • tafarndai, sinemâu a theatrau
  • llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, a chanolfannau ieuenctid
  • cyfleusterau hamdden dan do ac awyr agored fel aleau bowlio, campfeydd, arcedau a chyfleusterau chwarae meddal
  • mannau cymunedol mewn parciau, fel meysydd chwarae, cyrtiau chwaraeon a champfeydd awyr agored
  • mannau addoli, ac eithrio angladdau
  • gwestai, hosteli, llety gwely a brecwast a pharciau carafanau, ac eithrio preswylwyr parhaol, gweithwyr allweddol a'r rhai sy'n darparu llety brys, ar gyfer pobl ddigartref, er enghraifft

Gall busnesau eraill nad ydynt yn manwerthu aros ar agor, ond dylai gweithwyr weithio gartref lle bynnag y bo modd i leihau lledaeniad coronafeirws.

Yn amodol ar fesurau cadw pellter cymdeithasol, gall y canlynol fod ar agor:

  • manwerthwyr bwyd, gan gynnwys archfarchnadoedd
  • siopau diodydd
  • fferyllfeydd
  • siopau papur newydd
  • gorsafoedd petrol
  • banciau a pheiriannau twll yn y wal
  • swyddfeydd post
  • cyfarwyddwyr angladdau
  • busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol
  • awyr agored:
    • cyrtiau tennis
    • lawntiau bowlio
    • cyrtiau pêl fasged, ar yr amod nad yw gemau tîm yn cael eu cynnal
    • meysydd golff
    • felodromau beiciau
    • traciau athletau
    • rhwydi criced

Ers 7 Ebrill 2020 mae gofyniad cyffredinol wedi bod i gadw pellter corfforol lle mae pobl yn gweithio.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bob cyflogwr gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod pellter o 2m yn cael ei gadw rhwng pobl wrth weithio.

Mae cadw pellter o 2m rhwng pobl, nad ydynt o'r un cartref, yn gam pwysig er mwyn lleihau lledaeniad coronafeirws.

Ond dylai pobl weithio gartref lle bynnag y bo modd.

Mae mwy o wybodaeth wedi'i nodi yn y canllaw cau busnesau ac adeiladau.

Cwestiynau am ddyletswydd cadw pellter corfforol wrth weithio

Mae’r ddyletswydd yn berthnasol lle bynnag y mae pobl yn gweithio. Mae'n cael ei gorfodi ar bobl sy'n gyfrifol am y gwaith.

Ond dylai pobl weithio gartref lle bynnag y bo modd.

Rhaid i’r ddyletswydd gael ei rhoi ar waith yn eang, gan gynnwys mewn gwasanaethau cyhoeddus, safleoedd iechyd a gofal cymdeithasol, lleoliadau gofal plant, canolfannau galwadau, canolfannau lletygarwch, safleoedd masnachol a diwydiannol, safleoedd adeiladu a safleoedd agored eraill fel gwaith ffordd a mannau awyr agored gan gynnwys marchnadoedd da byw.

Y nod yw cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod 2 fetr yn cael ei gadw rhwng unrhyw un ar safle (gan gynnwys y tu allan) – ac eithrio dau aelod o'r un cartref neu ofalwr a'r unigolyn y mae’r gofalwr yn ei helpu – i atal coronafeirws rhag lledaenu.

Nid oes rheolau pendant ynghylch beth yw mesur rhesymol. Bydd yn dibynnu ar ble mae pobl yn gweithio a natur y gwaith sy'n cael ei wneud. Ond yn ei hanfod, mae'n golygu cymryd camau cymesur y bydd yr unigolyn sy'n gyfrifol am y gwaith yn gallu eu cyfiawnhau.

Mae'n bwysig cofio nad yw penderfynu a yw mesur yn un rhesymol ai peidio yn brawf goddrychol, yn seiliedig ar eich barn chi yn unig, ond yn hytrach yn brawf gwrthrychol, yn seiliedig ar farn bobl gyffredin eraill yn yr un sefyllfa â chi. Er mwyn gweithredu'n rhesymol rhaid i chi ofyn i chi'ch hun beth fyddai pobl eraill ofalus (neu synhwyrol) yn ei wneud petaen nhw yn eich sefyllfa chi.

Yn ymarferol, mae angen ystyried amryw o faterion wrth benderfynu pa fesurau y dylid eu rhoi ar waith. Mae'r rhain yn cynnwys cwestiynau fel:

  • a yw'r mesurau'n ymarferol i'w rhoi ar waith, o gofio'r agwedd ar y busnes lle cânt eu gweithredu?
  • a ydynt yn fesurau rhesymegol a chymesur, o gofio'r argyfwng iechyd cyhoeddus sydd wedi arwain at y gofyniad hwn a'r angen i leihau'r achosion o drosglwyddo'r feirws?
  • a ellir eu rhoi ar waith heb beryglu iechyd a diogelwch pobl eraill, p’un ai a ydynt yn weithwyr eraill, yn aelodau o'r cyhoedd neu'n unrhyw un arall?

Bydd union natur mesur rhesymol yn benodol i bob lleoliad gwaith. Bydd yn adlewyrchu'r amgylchedd ffisegol a natur y gwaith sy'n cael ei wneud.

Mae'r canlynol yn enghreifftiau o fesurau rhesymol:

  • lleihau nifer y bobl sy'n gweithio ar yr un adeg – mae hyn yn cynyddu faint o le sydd rhwng pobl drwy leihau cyfanswm nifer y bobl sy'n bresennol.
  • cynyddu faint o le sydd rhwng staff – er enghraifft ar linell gynhyrchu gan adael bylchau 2 fetr rhwng pobl a nodi’r bylchau gyda marciau.
  • rheoli mwy ar y defnydd o fannau gorffwys, mynedfeydd ac allanfeydd – a oes gweithwyr yn ymgynnull ar adeg benodol? A oes modd darparu lle ychwanegol neu a oes modd gwasgaru amseroedd egwyl?
  • gwneud addasiadau i'r ffordd y mae gwaith yn cael ei gyflawni i leihau cyswllt corfforol.
  • gwasgaru sifftiau i leihau nifer y bobl ar y safle ac i leihau tagfeydd wrth i bobl newid sifftiau.
  • lleihau'r lefel o ryngweithio corfforol agos

Mae'r ddyletswydd yn berthnasol i bob math o waith. Ond mae llawer o'r gwaith hwn yn hanfodol ac mae'n rhaid iddo barhau.

Nid yw hyn yn ymwneud â stopio gweithio - mae'n golygu gwneud yr hyn y gall busnesau ac eraill ei wneud ym mhob lleoliad gwaith a phob gweithle i newid y ffordd rydym yn gweithio i leihau lledaeniad coronafeirws. Nid yw'n ymwneud â gweithio, mae'n ymwneud â sut ydyn ni'n gweithio.

Mae'r ddyletswydd yn berthnasol i bob math o waith.

Mewn lleoliad gofal iechyd – er enghraifft, ni fydd deintydd yn gallu aros 2 fetr oddi wrth claf wrth roi triniaeth. Ond gall deintydd aros 2 fetr oddi wrth claf pan nad yw'n rhoi triniaeth a gall aros 2 fetr oddi wrth y nyrs ddeintyddol y rhan fwyaf o'r amser. Mae'r rhain yn fesurau rhesymol.

Ni fyddai rhoi'r gorau i roi triniaeth yn cael ei ystyried yn "fesurau rhesymol".

Bydd amgylchiadau lle nad yw'n rhesymol rhoi mesurau yn eu lle i gadw pobl 2 fetr oddi wrth ei gilydd.

Bydd disgwyl i gyflogwyr gynnal asesiad cyn dod i'r casgliad nad oes unrhyw fesurau rhesymol y gallant eu cymryd.

Dyma enghreifftiau o'r mathau o sefyllfaoedd hyn:

  • Darparu gwasanaethau personol, gan gynnwys yn y cartref
  • Tasgau sy'n gofyn cael dau neu fwy o bobl i’w cyflawni'n ddiogel, gan gynnwys codi eitemau trwm neu gario cemegion peryglus, er y gellir mabwysiadu mesurau mewn mannau eraill yn y gweithle
  • Lleoliadau addysg a gofal plant - yn enwedig lle nad yw plant ifanc yn deall y cysyniad o gadw pellter cymdeithasol a lle gall fod angen cyswllt agosach ar y gweithwyr sy'n oedolion er mwyn darparu’r cymorth priodol
  • Lle mae angen cyswllt agos rhwng gweithwyr a defnyddwyr gwasanaethau, er unwaith eto y gall fod mesurau yn y gweithle ehangach a fyddai'n lleihau'r risg o drosglwyddo
  • Lle mae gofyn i weithwyr deithio gyda'i gilydd
  • Lle mae'n rhaid gweithio fesul dau i sicrhau diogelwch
  • Gweithio mewn mannau cyfyngedig, er enghraifft atgyweirio seilwaith ar gyfer cyfleustodau

Fodd bynnag, mae'n annhebygol y byddai'r amgylchiadau hyn yn golygu na fyddai modd mabwysiadu unrhyw fesurau rhesymol o gwbl. Cyflogwyr a staff fydd yn y sefyllfa orau i wybod beth i’w wneud.

Prif bwrpas y rheoliadau yw lleihau'r risg o drosglwyddo coronafeirws.

Lle mae'n rhaid cael cyswllt neu weithio'n agosach ac nad oes modd osgoi hynny, er nad yw hyn yn ofynnol yn ôl y rheoliadau, mae'n bwysig bod mesurau eraill yn cael eu hystyried, er enghraifft:

  • rhwystrau corfforol
  • mesurau hylendid gwell a nodiadau atgoffa am bwysigrwydd hylendid
  • golchi dwylo'n dda am 20 eiliad gyda sebon ar ôl cysylltiad agos
  • sicrhau nad yw pobl sydd â symptomau yn bresennol ar y safle

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i sicrhau y dilynir y rheoliadau yn ystod y pandemig coronafeirws.

Drwy ei Gydwasanaethau Rheoleiddiol, mae swyddogion gorfodi'r awdurdod lleol yn cynnal profion ar hap ar amrywiaeth o safleoedd er mwyn sicrhau bod y rheoliadau'n cael eu bodloni, gan roi cyngor iddynt i ddechrau.

Os gwelir nad yw unigolyn cyfrifol yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gadw rhwng pobl yn y lleoliad dan sylw, gellir gorfodi’r unigolyn hwnnw i dalu cosb benodedig o £60 (mae hyn yn gostwng i £30 os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod ond caiff ei ddyblu i £120 am ail achos dilynol o dorri’r rheoliadau) neu gellir ei gyhuddo o drosedd a'i gollfarnu yn y pen draw a mynnu ei fod yn talu dirwy.

Yma rydym yn amlinellu pwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod y gwahanol ofynion cyfyngiadau symud yn cael eu bodloni:

  • Gofyniad i gau safleoedd a busnesau os oes gweithgarwch anghyfreithlon yn digwydd – yr awdurdod lleol a'r heddlu
  • Gofyniad i sicrhau bod pobl yn gallu cadw at gyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol tra eu bod mewn lleoliad y caniateir iddynt fasnachu - yr awdurdod lleol a'r heddlu
  • Gofyniad i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod unigolion sy'n gweithio yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol – yr awdurdod lleol a'r heddlu. Bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i unrhyw bryderon a godwyd ynghylch y diffyg cadw pellter cymdeithasol rhwng gweithwyr ar gyfer gweithleoedd sy'n dod o dan Reoliadau Iechyd a Diogelwch (Awdurdodau Gorfodi) 1998.
  • Gofyniad i gau mannau addoli, amlosgfeydd a chanolfannau cymunedol ar wahân i angladdau - yr awdurdod lleol a'r heddlu
  • Cyfyngiadau ar symud a phobl yn ymgynnull – yr heddlu
  • Gofyniad i gau a pheidio â rhoi mynediad i lwybrau cyhoeddus a thiroedd penodol – yr awdurdod lleol, awdurdod y parc cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r heddlu

Adrodd am fusnes

Os bydd busnes yn torri’r rheoliadau, e-bostiwch y Cydwasanaethau Rheoleiddiol (SRS).

Cyswllt

Cydwasanaethau Rheoleiddiol (SRS)

Gwefan: Gwefan SRS

Chwilio A i Y