Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ydych chi wedi meddwl am fod yn gynghorydd?

Mae cynghorwyr yn cael eu hethol gan bobl yn eu cymuned i'w cynrychioli a gwneud penderfyniadau ar eu rhan. Mae bod yn gynghorydd yn rhoi boddhad, yn heriol ac yn bleserus a gallwch chi newid bywydau pobl er gwell. Gall unrhyw un bron fod yn gynghorydd, ac mae'n bwysig iawn bod ystod o wahanol bobl yn cael eu hethol i gynrychioli gwahanol gymunedau.

  • Ydych chi'n poeni'n angerddol am eich cymuned leol?
  • Oes rhywbeth rydych chi eisiau ei newid?
  • Ydych chi'n barod i wneud penderfyniadau heriol?

Beth am sefyll dros yr hyn rydych chi'n poeni amdano a dod yn gynghorydd lleol?

Mae’r etholiadau llywodraeth leol nesaf yn cael eu cynnal ym mis Mai 2027.

Mae Cymru angen mwy o gynghorwyr sydd o dan 40 oed, benywaidd, anabl, LGBTQ +, Du neu Asiaidd neu o grwpiau lleiafrifol eraill ac o ystod o gredoau, diwylliannau ac amgylchiadau personol.

Yn gryno, rydym yn chwilio am fwy o gynghorwyr sydd mor amrywiol â'r cymunedau maent yn eu cynrychioli. Mae gan ymgeiswyr anabl hawl hefyd i gael cyllid i helpu gydag unrhyw gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'u nam, a allai fod yn rhwystr sy’n eu hatal rhag sefyll fel cynghorydd.

 

Gallwch chi fod yn ymgeisydd os ydych chi:

  • dros 18 oed
  • ar y gofrestr etholiadol
  • wedi byw, gweithio neu’n berchen ar eiddo yn y fwrdeistref sirol am y 12 mis diwethaf o leiaf.

 

Nid ydych yn gymwys neu gallwch gael eich gwahardd os:

  • ydych chi'n gweithio i'r cyngor neu'n dal swydd â chyfyngiadau gwleidyddol gydag awdurdod lleol arall.
  • ydych wedi datgan methdaliad neu euogfarn droseddol flaenorol gyda dedfryd o dri mis neu fwy yn y carchar.

Dylai darpar ymgeiswyr ofyn am eu cyngor cyfreithiol eu hunain os ydynt yn ansicr ynghylch a ydynt yn gymwys i sefyll.

 

Mwy o Wybodaeth

Comisiwn Etholiadol – Proses ar gyfer bod yn gynghorydd a sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad llywodraeth leol (gan gynnwys gwaharddiadau)

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Panel Tâl Annibynnol ar gyfer Cymru – Taliadau i Gynghorwyr

Cyngor doeth: gallwch hefyd gael gwybod mwy am fod yn gynghorydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drwy fynychu un o'n cyfarfodydd pwyllgor cyhoeddus neu siarad yn anffurfiol ag un o'n cynghorwyr presennol.     

Chwilio A i Y