Adrodd twyll
Mae'r term ‘twyll' yn gyffredinol yn cynnwys gweithgareddau megis lladrad, llygredigaeth, cynllwynio a llwgrwobrwyo. Twyll yw’r weithred droseddol o weithredu neu hepgor er budd personol neu i achosi colled i unigolyn neu sefydliad arall.
Mae’r Tîm Ymchwilio Twyll Corfforaethol yn cynnwys ymchwilwyr sydd wedi’u hyfforddi’n broffesiynol. Maen nhw’n cynnal ymchwiliadau sifil a throseddol yn ymwneud ag atal a chanfod troseddau, dal ac erlyn troseddwyr, ac adfer enillion troseddau.
Byddwn yn gweithredu’n briodol er mwyn ymchwilio twyll a gyflawnwyd yn erbyn y cyngor, gan gynnwys erlyn, pan fo hynny’n briodol.
Gyda throseddwyr yn ceisio cymryd mantais o wendidau ar hyd y sector cyhoeddus, yn enwedig yn ystod cyfnodau trallodus, mae hi’n hanfodol ein bod yn wyliadwrus ac yn ymatebol i risgiau o dwyll. Anelwn i adfer colledion a chosbi'r rheiny sy’n gyfrifol am dwyll.
Adroddwch dwyll i'r cyngor
Helpwch ni i atal, canfod a rhwystro twyll. Os ydych yn amau bod rhywun yn cyflawni twyll yn erbyn y cyngor, dylech roi gwybod inni’n syth trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Gellir adrodd y canlynol i Dîm Twyll y cyngor:
- Twyll Gostyngiad yn y Dreth Gyngor
- Camddefnydd neu dwyll yn ymwneud â Bathodynnau Glas
- Twyll yn ymwneud â Thaliadau Uniongyrchol ar gyfer gofal / Taliadau Gofal Cymdeithasol
- Defnyddio grantiau ar gyfer rhesymau gwahanol i'r rheiny a fwriedir
- Twyll Ardrethi Busnes
- Twyll Cyflenwyr/Contract
- Llwgrwobrwyaeth neu Lygredigaeth
- Twyll Yswiriant
- Twyll Recriwtio
- Twyll caffael
Mae disgrifiad manwl o bob math o dwyll yn ein Cwestiynau Cyffredin.
Adroddwch dwyll treth gyngor
Mae twyll treth gyngor yn digwydd pan mae rhywun yn rhoi gwybodaeth ffug i ni i osgoi talu’r swm cywir.
Adroddwch dwyll neu gamddefnydd o’r bathodyn glas
Gall hyn gynnwys camddefnyddio trwydded ddilys neu ddefnyddio trwydded ffug.
Twyll Budd-daliadau Tai a thwyll Credyd Cynhwysol
Adroddwch am dwyll yn ymwneud â Budd-daliadau Tai a Chredyd Cynhwysol ar wefan gov.uk.
Gallwch hefyd ffonio 0800 854440 neu ysgrifennu llythyr i’r National Benefit Fraud Hotline, Mail Handling Site A,
Wolverhampton, WV98 2BP.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gyfrifol am ymchwilio i bob achos o dwyll yn ymwneud â Budd-daliadau Tai a Chredyd Cynhwysol
Action Fraud
Gallwch adrodd unrhyw dwyll nad ydyw’n ymwneud â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i Action Fraud.
Canolfan adrodd twyll a throsedd seiber genedlaethol y DU. Yn ogystal ag adrodd twyll, gallwch hefyd ganfod cyngor a diweddariadau yn ymwneud â sgamiau diweddar.
Sgamiau a Throseddau Seiber - Mae troseddwyr Seiber yn defnyddio negeseuon ffug er mwyn eich denu i glicio ar ddolenni o fewn eu negeseuon e-bost neu destun sgam, neu er mwyn eich twyllo i ddatgelu gwybodaeth sensitif (megis eich manylion banc). Gall y negeseuon hyn edrych yn ddilys, ond maleisus ydynt mewn gwirionedd. Unwaith eich bod wedi clicio ar y dolenni hyn, gallwch gael eich tywys i wefannau anniogel a allai lawrlwytho feirysau i'ch cyfrifiadur, neu ddwyn eich cyfrineiriau.
Os credwch eich bod wedi dioddef o dwyll neu drosedd seiber a’ch bod naill ai wedi cael colled ariannol o ganlyniad i hynny, neu wedi cael eich hacio drwy neges gwe-rwydo, dylech adrodd hyn i Action Fraud.
Gallwch adrodd twyll neu droseddau seiber i Action Fraud ar unrhyw bryd, ddydd neu nos, drwy eu hadnodd adrodd ar-lein.
Masnachu Teg
Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn sicrhau prisiau a disgrifiadau cywir ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, ac yn mynd i’r afael â ffugiadau, masnachu twyllodrus a sgamiau.
Am ragor o wybodaeth ynghylch masnachu teg a sut i adrodd, ewch i wefan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.
Cwestiynau Cyffredin
Gall twyll gynnwys: -
- Gwneud cynrychiolaeth gamarweiniol bwrpasol
- Methu â datgelu gwybodaeth
- Camddefnyddio awdurdod
Gellir cyflawni twyll yn erbyn unigolion, busnesau, neu sefydliadau eraill gan gynnwys cynghorau, a gellir ei gyflawni gan unigolion o fewn neu'r tu allan i’r cyngor, a all fod yn gweithredu’n unigol neu fel rhan o grŵp.
- Twyll Gostyngiadau’r Dreth Gyngor - Unigolyn sy’n hawlio Gostyngiad yn y Dreth Gyngor ond heb ddatgan ei fod yn gweithio, mewn perthynas, yn berchen ar dir neu eiddo, yn meddu ar gynilion, neu sydd yn hawlio budd-dal ar gyfer un cyfeiriad ond yn byw mewn lleoliad arall.
- Camddefnydd neu dwyll yn ymwneud â Bathodynnau Glas - Ennill bathodyn glas trwy dwyll, camddefnyddio bathodyn glas dilys, defnyddio bathodyn glas unigolyn sydd wedi marw, defnyddio bathodyn glas ffug, defnyddio bathodyn glas sydd wedi dod i ben, neu sydd wedi ei ddwyn.
- Twyll yn ymwneud â Thaliadau Uniongyrchol ar gyfer gofal / Taliadau Gofal Cymdeithasol - Pan fydd unigolyn yn derbyn taliadau gan y cyngor er mwyn gofalu amdano ef ei hun neu eraill, ond nad yw'r arian yn cael ei wario ar ofal, boed hynny y swm llawn neu’n rhannol.
- Camddefnyddio grantiau - Pan fydd grantiau yn cael eu rhoi i unigolion neu sefydliadau i gynorthwyo gyda’u gweithrediadau neu er mwyn addasu cartrefi i fodloni anghenion penodol y preswylwyr, ond nad yw’r grantiau yn cael eu defnyddio ar gyfer hynny.
- Twyll Ardrethi Busnes - Pan fydd gwybodaeth ffug neu gamarweiniol yn cael ei darparu ar bwrpas er mwyn osgoi talu ardrethi busnes neu i sicrhau ardrethi busnes is. Gallai hefyd gynnwys datgan yn anwireddus nad yw eiddo yn cael ei ddefnyddio bellach, er mwyn cymhwyso am ostyngiad ardrethi.
- Twyll Cyflenwyr/Contract - Pan fydd cyflenwyr neu gontractwyr yn darparu nwyddau neu gynhyrchion o safon is na’r disgwyl neu’n rhatach iddynt hwy eu hunain ar bwrpas, pan mae'r cyngor wedi talu am nwyddau neu gynhyrchion o safon uwch, ac yn disgwyl nwyddau neu gynhyrchion o safon uwch.
- Llwgrwobrwyaeth neu Lygredigaeth - Derbyn arian neu anrhegion, ffafrio contractwyr penodol, neu osod prisiau yn dwyllodrus. Pan fydd staff y cyngor neu Gynghorwyr yn cymryd mantais o’u hawdurdod.
- Twyll Yswiriant - Unrhyw hawliad yswiriant a wneir i’r sefydliad neu ddarparwyr yswiriant y sefydliad a brofir i fod yn ffug.
- Twyll Recriwtio - Ymgeiswyr sy’n darparu CV, hanes gwaith, cymwysterau, geirdaon, neu statws mewnfudo (h.y. hawl i weithio yn y DU) ffug, neu sy’n defnyddio hunaniaeth ffug er mwyn cuddio euogfarnau troseddol neu statws mewnfudo.
Nid yw twyll yn drosedd di-ddioddefwyr, a gall ein heffeithio ni i gyd.
- Y gost ariannol – Mewn termau ariannol, mae twyll yn costio biliynau o bunnoedd i’r wlad yn flynyddol, ac mae’n cynyddu eich Treth Incwm a’ch Treth Gyngor. Mae hefyd yn effeithio ar swm yr arian sydd gennym i’w wario ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. O ganlyniad i dwyll, mae llai o arian ar gael er mwyn gwella ac uwchraddio pethau megis cyfleusterau addysgol, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth.
- Y gost ddynol – Mae costau eraill ynghlwm â thwyll, nad ydynt o reidrwydd yn amlwg. Er enghraifft, mae twyll sy’n ymwneud â Bathodynnau Glas yn golygu llai o fannau parcio i’r anabl, sydd wedi’u creu’n arbennig ar gyfer y rheiny sydd eu hangen, gan eu hamddifadu o’r gallu i adael eu cartref a gwneud y pethau hanfodol mewn bywyd.
- Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyfrifoldeb cyfreithiol i amddiffyn unrhyw gyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu. Wrth wraidd ein henw da mae ymddygiad moesol, a gonestrwydd ac uniondeb ariannol. Gallai unrhyw achos o dwyll, llwgrwobrwyaeth, llygredigaeth, neu anonestrwydd arall effeithio enw da’r Cyngor yn ddifrifol, gan roi ei allu i gyflawni ei bolisïau a’i amcanion mewn perygl. Os credwn fod unigolyn/unigolion yn cyflawni twyll yn erbyn y cyngor, byddwn yn eu hymchwilio. Os canfyddwn dystiolaeth o unigolyn/unigolion yn cyflawni twyll, gallant gael eu herlyn drwy’r Llys Ynadon neu Lys y Goron.
- Gall Swyddog y Cyngor wynebu gweithdrefnau disgyblu yn ogystal. Gellir cyfeirio Cynghorwyr at Ombwdsmon Cyhoeddus Cymru.
- Mewn unrhyw achos, byddwn yn ceisio adfer unrhyw golled ariannol neu faterol. Dan amgylchiadau penodol, efallai y byddem hefyd yn atafaelu arian neu asedau pellach os credir eu bod yn enillion trosedd.
- Noder nad yw hi’n bosib i ni ddarparu manylion ynghylch achosion unigol o ganlyniad i Ddeddf Diogelu Data 2018 a Deddf Hawliau Dynol 1998.
- Mae Tîm Twyll Corfforaethol y cyngor yn cynnal ymchwiliadau ar gyfer atal a chanfod troseddau. Maent yn ymchwilio i honiadau o dwyll ac afreoleidd-dra, ac mae enghreifftiau i’w cael isod. Gofynnwn i chi ein helpu i atal, canfod a rhwystro twyll. Os amheuwch fod twyll yn cael ei gyflawni yn erbyn y cyngor, dylech ei adrodd yn syth.
- Mae sawl ffordd o wneud hynny’n gyfrinachol. Nid oes rhaid i chi roi eich enw, oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny. Gofynnwn i chi ddarparu cymaint o wybodaeth â phosib er mwyn ein cynorthwyo gyda’n hymchwiliad.
Byddwn yn edrych ar y wybodaeth y gwnaethoch ei rhoi. Os bydd digon o wybodaeth wedi’i darparu, byddwn yn ymchwilio i honiad yr unigolyn. Ni fyddwn yn eich hysbysu o ganlyniad yr ymchwiliad.
O bryd i'w gilydd, ni fydd angen gweithredu. Gall yr unigolyn fod wedi datgan newid yn ei amgylchiadau, lle nad yw hyn yn effeithio ar ei fudd-daliadau.
Os canfyddir bod yr unigolyn wedi cyflawni twyll budd-daliadau, yna byddwn yn gweithredu yn ei erbyn. Gall y gweithredu hwnnw gynnwys diddymu budd-daliadau'r unigolyn a’i erlyn yn y llys.
Trosedd Gorfforaethol (CCO)
Cyflwynodd Cyllid a Thollau EF (HMRC) ystod o fesurau er mwyn mynd i'r afael â throseddau ariannol fel rhan o Ddeddf Cyllid Troseddol 2017. Mae'r Drosedd Gorfforaethol yn ddeddfwriaeth a gyflwynir fel rhan o'r Ddeddf er mwyn mynd i’r afael â’r rheiny sy’n osgoi talu trethi, y rheiny sy'n galluogi trosedd, ac y rheiny sy'n methu yn eu dyletswydd i rwystro osgoi talu trethi.
Dylid cyfeirio unrhyw bryderon ynglŷn â methiannau o ran rhwystro osgoi talu trethi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’r:
Gwyngalchu Arian
Gwyngalchu arian yw’r broses o ‘lanhau’ enillion troseddol er mwyn cuddio eu tarddiad anghyfreithlon. Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mae gwyngalchu arian yn costio dros £100 biliwn y flwyddyn i’r DU. Mae troseddwyr yn ymdrechu i guddio eu troseddau drwy ganfod mannau diogel i storio eu helw, lle gallant osgoi gorchmynion atafaelu, a lle gellir gwneud i’r enillion hynny ymddangos yn rhai dilys.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi trefniadau priodol a chymesur yn eu lle er mwyn diogelu yn erbyn gwyngalchu arian, a chreu trefniadau adrodd.
Dylid cyfeirio unrhyw bryderon ynglŷn â gwyngalchu arian i’r: