Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Tystysgrif safle clwb


Darllenwch Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor cyn gwneud cais am gymeradwyaeth neu ddiwygiad i Dystysgrif Safle Clwb.

Gwneud cais am dystysgrif safle clwb all-lein

I wneud cais am dystysgrif safle clwb, bydd angen i ymgeiswyr:

  1. Gyflwyno ffurflen ddatganiad gyda ffurflen gais gan gynnwys atodlen weithredu. Mae’r atodlen yn disgrifio’n gryno y ffordd y bydd y clwb yn gweithredu ac yn cydymffurfio ag amcanion trwyddedu.
  2. Cyflwyno cynllun safle.
  3. Talu'r ffi briodol.
  4. Hysbysebu’r cais. Cysylltwch â ni er mwyn cael mwy o wybodaeth am hynny.

Dylid anfon ffurflenni wedi’u llenwi at:

Cyswllt

Yr Is-adran Trwyddedu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643643
Cyfeiriad: Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Er mwyn awdurdodi cyflenwi alcohol ac adloniant rheoledig mewn clwb cymwys, bydd angen tystysgrif safle clwb arnoch. Mewn clwb cymwys, nid yw alcohol yn cael ei fanwerthu i bob pwrpas oni bai i westeion, gan fod yr aelodau’n berchen ar y stoc alcohol. Yn yr achos hwnnw, mecanwaith yn unig yw’r broses o gyfnewid arian wrth y bar i sicrhau ecwiti rhwng aelodau, lle y gallai un yfed mwy nag eraill. Er mwyn bod yn glwb cymwys, rhaid i chi hefyd fodloni’r gofynion a nodir yn Neddf Trwyddedu 2003.

Mae’n rhaid i glybiau fod yn glybiau cymwys, sy’n bodloni amodau cyffredinol. Dyma’r amodau hynny:

  • ni all person gael aelodaeth na manteision aelodaeth fel ymgeisydd ar gyfer aelodaeth heb aros dau ddiwrnod ar ôl ei gais neu ei enwebiad.
  • mae rheolau’r clwb yn nodi na all unrhyw un sy’n cael aelodaeth heb enwebiad neu gais gael manteision aelodaeth am ddau ddiwrnod rhwng dod yn aelod a chael ei dderbyn i’r clwb
  • mae’r clwb yn un sefydledig ac yn cael ei redeg mewn modd onest
  • mae gan y clwb o leiaf 25 o aelodau
  • dim ond aelodau’r clwb fydd yn cael alcohol ar yr eiddo ar ran y clwb neu ganddo

 

Mae’n rhaid hefyd cydymffurfio â’r amodau canlynol ynglŷn â chyflenwi alcohol:

  • bydd alcohol sy’n cael ei brynu ar gyfer y clwb ac sy’n cael ei gyflenwi gan y clwb yn cael ei brynu gan aelodau dros 18 oed y mae’r aelodau’n eu hethol i wneud hynny
  • nid oes unrhyw un ar draul y clwb yn derbyn unrhyw gomisiwn, canran na thaliad cyffelyb mewn perthynas â'r clwb yn prynu alcohol
  • nid oes unrhyw un yn derbyn mantais ariannol yn sgil cyflenwi alcohol, oni bai am fanteision i’r clwb neu unrhyw berson ar ei ennill yn anuniongyrchol drwy redeg y clwb

 

Bydd cymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus cofrestredig yn gymwys os ydynt yn prynu ac yn cyflenwi alcohol dan reolaeth aelodau neu bwyllgor aelodau.

Yn ogystal, mae modd ystyried sefydliadau llesiant glowyr perthnasol. Caiff sefydliad perthnasol ei reoli gan bwyllgor neu fwrdd os yw o leiaf dau draean o’r bobl wedi’u penodi neu eu dyrchafu gan:

  • un neu fwy o weithredwyr trwyddedig dan Ddeddf Diwydiant Glo 1994
  • ac un neu fwy o sefydliadau'n cynrychioli gweithwyr pwll glo

Gall y sefydliad gael ei reoli gan y pwyllgor neu’r bwrdd. Ond ni all y bwrdd fod â chynrychiolaeth fel yr uchod, oni bai am:

  • o leiaf dau draean o aelodau oedd wedi’u cyflogi neu sydd wedi’u cyflogi mewn pyllau glo neu o’u hamgylch
  • a hefyd pobl a benodir gan y Sefydliad Llesiant y Diwydiant Glo neu gorff â swyddogaethau cyffelyb dan Ddeddf Llesiant Glowyr 1952

Mewn unrhyw achos, rhaid i safle’r sefydliad gael ei gynnal ar ymddiriedaeth yn unol â Deddf Elusennau Hamdden 1958.

Gall clwb wneud cais am dystysgrif safle clwb ar gyfer unrhyw safle a feddiannir ac sy’n cael ei ddefnyddio’n rheolaidd at ddibenion y clwb.

Mae’n rhaid i’r ceisiadau:

  • gael eu cyflwyno i’r awdurdod trwyddedu lleol, sef awdurdod lleol y safle
  • cael eu cyflwyno gyda chynllun safle mewn fformat penodol, copi o reolau’r clwb ac atodlen weithredu clwb

Dogfen ar ffurf benodol yw atodlen weithredu clwb gyda gwybodaeth am:

  • weithgareddau'r clwb
  • yr amseroedd y bydd y gweithgareddau’n digwydd
  • amseroedd agor eraill
  • os bydd alcohol yn cael ei gyflenwi i’w yfed ar neu oddi ar y safle, neu’r ddau
  • y camau y mae'r clwb yn bwriadu eu cymryd i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
  • unrhyw wybodaeth arall y gofynnir amdani

Rhaid i ysgrifenyddion clybiau roi gwybod i’r awdurdod trwyddedu am unrhyw newidiadau i reolau’r clwb neu'r enw tra bydd ceisiadau’n cael eu pennu, neu ar ôl derbyn tystysgrif. Os yw tystysgrif wedi’i rhoi, mae’n rhaid ei hanfon i’r awdurdod trwyddedu pan fydd yn cael gwybod am hyn.

Os yw tystysgrif wedi’i hanfon a bod cyfeiriad cofrestredig y clwb yn newid, mae’n rhaid i’r clwb roi gwybod i’r awdurdod trwyddedu lleol am y newid. Mae’n rhaid iddynt hefyd gyflwyno’r dystysgrif gyda’r hysbysiad.

Gall clwb wneud cais i awdurdod trwyddedu lleol i ddiwygio tystysgrif. Dylai’r dystysgrif gyd-fynd â’r cais.

Gall yr awdurdod trwyddedu lleol archwilio’r safle cyn ystyried cais. Efallai y bydd ffioedd yn daladwy ar gyfer unrhyw fath o gais yn ymwneud â thystysgrif safle clwb.

Dan Gynllun Dyrannu’r Cyngor, bydd tystysgrifau’n cael eu cymeradwyo os na dderbynnir unrhyw sylwadau. Fodd bynnag os gwneir sylwadau, bydd yr awdurdod lleol yn cynnal gwrandawiad. Os na all yr ymgeisydd na’r gwrthwynebwr gytuno, bydd aelodau o Is-Bwyllgor Trwyddedu’r Cyngor yn adolygu’r cais.

 

Mân amrywiadau i dystysgrifau safle clwb

Dylai deiliaid trwyddedau gael golwg ar wefan y Swyddfa Gartref am ganllawiau ar fân amrywiadau.

 

Cewch chi gymryd yn ganiataol bod eich cais wedi’i gymeradwyo os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn dyddiad cau'r broses.  

Bydd yr awdurdod trwyddedu lleol yn dweud wrthych am geisiadau am dystysgrifau neu amrywiadau i dystysgrifau sydd wedi’u gwrthod.

Os ydynt yn cael eu gwrthod, gall yr ymgeisydd apelio.

Gwneir apêl i lys ynadon o fewn 21 diwrnod i hysbysiad o benderfyniad.

Yn y man cyntaf, cysylltwch â ni i drafod y mater:

E: licensing@bridgend.gov.uk

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Yr Is-adran Trwyddedu
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB

Os ydyn ni'n gwrthod ceisiadau am amrywiad, gall deiliad y drwydded apelio. Gall deiliad trwydded apelio yn erbyn penderfyniadau i atodi amodau at dystysgrif, neu i eithrio gweithgareddau clwb. Mae modd apelio hefyd yn erbyn amrywiadau i unrhyw amodau.

Gellir cyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad adolygiad. Gall clwb apelio yn erbyn diddymu tystysgrif. Yn ogystal, mae'n rhaid cyflwyno apêl i'r llys ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o'r penderfyniad.

Yn y man cyntaf, cysylltwch â ni i drafod y mater:

E: licensing@bridgend.gov.uk

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Yr Is-adran Trwyddedu
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB

Wrth gwyno, cysylltwch yn y lle cyntaf â’r masnachwr eich hun, ac yn ddelfrydol drwy lythyr gyda phrawf danfon. Os nad yw hynny’n gweithio ac rydych yn y DU, gall Llinell Gymorth Cyngor ar Bopeth i Ddefnyddwyr eich helpu. Y tu allan i’r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU.

Gall awdurdodau cyfrifol neu bartïon â diddordeb wneud cais i adolygu tystysgrifau. Bydd yr awdurdod trwyddedu lleol yn egluro eu hymateb i’r cais mewn hysbysiad.

Gellir cyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad adolygiad. Ond mae’n rhaid cyflwyno apêl i lys ynadon o fewn 21 diwrnod o’r penderfyniad.

Gall unrhyw barti â diddordeb gyflwyno sylwadau i’r awdurdod trwyddedu lleol cyn y bydd tystysgrif neu ddiwygiadau i dystysgrif yn cael eu cymeradwyo. Os bydd sylwadau, bydd gwrandawiad yn ystyried y cais a’r sylwadau. Bydd yr awdurdod lleol yn nodi'r rhesymau mewn manylder dros unrhyw benderfyniad mewn hysbysiadau. Bydd hysbysiadau o geisiadau a wrthodwyd yn cael eu hanfon at bartïon â diddordeb a gyflwynodd sylwadau.

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn diffinio partïon â diddordeb fel:

“pobl sy'n byw, neu sydd ynghlwm wrth fusnes, yn ardal yr awdurdod trwyddedu perthnasol"

Gall parti â diddordeb wneud cais i adolygu tystysgrif eiddo clwb. Bydd yr awdurdod trwyddedu lleol yn egluro eu hymateb i’r cais mewn hysbysiad.

Gall partïon â diddordeb apelio drwy ddadlau na ddylai'r dystysgrif fod wedi’i chymeradwyo, neu gan nodi y dylai amodau gwahanol neu ychwanegol neu gyfyngiadau ar weithgareddau fod wedi’u pennu. Gallent hefyd apelio yn erbyn unrhyw amrywiad i amod.

Gellir cyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad adolygiad. Ond mae’n rhaid cyflwyno apêl i lys ynadon o fewn 21 diwrnod o’r penderfyniad.

Chwilio A i Y