Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Mae Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) yn digwydd pan fydd corff sector cyhoeddus, Awdurdod Lleol fel rheol, yn trosglwyddo rheolaeth a/neu berchnogaeth ased eiddo neu wasanaeth i Gyngor Tref a Chymuned neu grŵp cymunedol lleol.

Manteision CAT:

  • Cadw cyfleusterau / asedau / gwasanaethau a allai gael eu colli fel arall o'r gymuned leol
  • Gwella Iechyd a Lles
  • Dod â'r gymuned at ei gilydd
  • Annibyniaeth a hunangynhaliaeth y gymuned leol
  • Yn cael ei arwain a'i reoli gan bobl leol, gyda dealltwriaeth dda o anghenion lleol
  • Datblygu asedau a gwasanaethau i'w llawn botensial
  • Y gallu i fynd at ffynonellau cyllid allanol ar gyfer gwelliannau / adnewyddu
  • Posibilrwydd o greu swyddi
  • Caniatáu cynllunio tymor hir a chynaliadwyedd asedau a gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i nodi tir, adeiladau a gwasanaethau sy’n addas i’w trosglwyddo i grwpiau cymunedol lleol a chael eu rheoli ganddynt, fel bod modd eu hamddiffyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol mewn ffordd gynaliadwy.

Mae dogfen Polisi CAT y Cyngor yn darparu pwynt cyfeirio ar gyfer amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol a allai fod yn ystyried gwneud cais am CAT ac mae hefyd yn cynorthwyo’r prosesau gwneud penderfyniadau y mae angen i’r Cyngor eu dilyn wrth ystyried ceisiadau gan grwpiau cymunedol.

Pwy all wneud cais am CAT?

Mae’r partneriaid a ffafrir gan y Cyngor wedi’u rhestru yn nhrefn blaenoriaeth fel a ganlyn:

  1. Cynghorau Tref a Chymuned fel y gellir cadw asedau a gwasanaethau yn y sector cyhoeddus.
  2. Defnyddwyr presennol fel clybiau chwaraeon.
  3. Grwpiau Cymunedol eraill, gan gynnwys cydweithrediadau, sydd â'r statws cyfreithiol gofynnol a ddiffinnir yn y ddogfen Polisi CAT.

Mathau o CAT

Gall trosglwyddiadau fod ar ffurf:

  • Cytundeb rheoli
  • Trwydded tymor byr ar gyfer deiliadaeth neu denantiaeth yn ôl ewyllys
  • Prydles tymor byr neu dymor hir
  • Trosglwyddiad rhydd-ddaliad (o dan amgylchiadau eithriadol)

Polisi a Phrosesau CAT

Mae dwy broses ar gael ar gyfer ceisiadau – safonol a llwybr cyflym. Bydd y dull sydd ei angen yn dibynnu ar raddfa a chymhlethdod y trosglwyddiad.

Trosglwyddiadau ac Astudiaethau Achos 

Enghreifftiau o drosglwyddiadau asedau llwyddiannus gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y cyd â grwpiau cymunedol.

Mynegwch ddiddordeb

Cyn cyflwyno cais anogir ymgeiswyr i drafod eu hopsiynau, eu haddasrwydd a chwmpas trosglwyddo asedau cymunedol gyda'r Swyddog CAT. Bydd y trafodaethau anffurfiol hyn yn helpu i baratoi ar gyfer y broses o wneud cais ffurfiol i drosglwyddo ased.

Chwilio A i Y