Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr

Sefydlwyd Fforwm Busnes Pen-y-bont at Ogwr yn 2008 i ddarparu cyfleoedd i fusnesau lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr rwydweithio a chadw ar flaen y newyddion diweddaraf.

Mae’r fforwm yn cynnwys busnesau newydd a sefydledig sydd wedi’u lleoli o fewn amrywiaeth eang o sectorau, ynghyd â masnachwyr unigol, busnesau micro, bach a chanolig a chwmnïau rhyngwladol mawr.

Gall y fforwm eich helpu chi a’ch busnes mewn nifer o ffyrdd, sy’n cynnwys:

  • Cyfarfod cwsmeriaid a chyflenwyr newydd
  • Dysgu sgiliau newydd drwy weithdai busnes
  • Cyfleoedd i rwydweithio drwy sesiynau Brecwast ‘Rhwydweithio Cyflym’ penodol
  • Cyfleoedd i wneud cais am gyllid a allai helpu eich busnes
  • Cynigion arbennig i helpu datblygu eich busnes

Dewch yn Aelod

Chwilio A i Y